Stori Emma

An image of FTWW's Fertility champion Emma
Enw: Emma Williams-Tully
Lleoliad: Gogledd-ddwyrain Cymru
"Roeddwn i'n torri fy nghalon ac wedi drysu gan fod y boen bron â bod yn annioddefol."

I unrhyw un sy'n dechrau eu mislif, mae'n adeg gofiadwy, a dydyn nhw ddim yn tueddu i'w hanghofio. I mi, roedd hi'n ganol y nos pan ddeffrais mewn rhywbeth tebyg i bwll o waed mewn poen ofnadwy. 10 oed oeddwn i.

O'r adeg honno ymlaen byddwn i'n cael mislif poenus ofnadwy yn para 14 diwrnod pan fyddwn i'n mynd drwy 2 bad mislif yn sownd yn ei gilydd mewn awr. Dywedodd fy meddyg teulu ar y pryd wrth fy mam a finnau sawl gwaith 'fel hyn mae'r mislif weithiau'.

Ymhen amser cefais fy rhoi ar y bilsen atal cenhedlu pan oeddwn yn 13 oed, meddyginiaeth at y boen a chael cyfarwyddyd i 'ymlacio fwy' pan fyddwn i'n disgrifio bod rhoi tampon pan oeddwn i'n 14 oed yn gwneud i fy nghoesau ysgwyd. Yna, pan oeddwn i'n 16 oed cefais fy atgyfeirio at gynecolegydd. Dyna pryd daeth uwchsain yn ôl 'yn gwbl glir' yn geiriau'r meddyg ymgynghorol. Roeddwn i'n torri fy nghalon ac wedi drysu gan fod y boen bron â bod yn annioddefol.

Pan oeddwn i'n 19 oed, roedd y coil y tu mewn i mi am flwyddyn. Roeddwn i'n teimlo fy mod yn cael cyfangiadau drwy'r amser. Doedd y coil ddim eisiau bod y tu mewn i mi o gwbl.

Fe wnes i hefyd dechrau pasio gwaed yn drwm o'r coluddyn, ond dywedodd y staff meddygol yn uned damweiniau ac argyfyngau mai haint ar y stumog oedd ar fai (er bod hyn wedi parhau).

Yna, pan oeddwn i'n 20 oed, fe wnes i gwrdd â meddyg ymgynghorol a awgrymodd o'r diwedd mai Endometriosis oedd arnaf o bosibl. Dyna'r tro cyntaf i mi erioed glywed am Endometriosis. Es i ar bigiadau Prostap ac yna cael llawdriniaeth twll clo pan wnaethon nhw ddarganfod Adenomyosis. Rai misoedd yn ddiweddarach cefais lawdriniaeth gydag arbenigwr ar Endometriosis pan ges i ddiagnosis o Endometriosis cam 4.

Dyna pryd glywais i fod hyn wedi peryglu fy ffrwythlondeb yn ddifrifol ac y byddwn i'n cael trafferth mawr i gael plant ac os oeddwn i eisiau cael plentyn y dylwn i ddechrau ceisio beichiogi.

Roeddwn i'n torri fy nghalon gan fy mod i wedi bod eisiau teulu mawr erioed, ond dim ond newydd gwrdd â fy nghariad (fy ngŵr erbyn hyn) felly doedd dechrau teulu ddim yn rhywbeth yr oeddwn i eisiau rhuthro i'w wneud yn 21 oed gyda rhywun yr oeddwn i newydd ddechrau ei ganlyn.

Yna, dechreuodd y cylch cyson o bigiadau Prostap a llawdriniaethau toriadau ar gyfer endometriosis, a phob tro byddai'r endo yn fwy a mwy eang.

Pan oeddwn i'n 29 oed – ar ôl bod yn ceisio beichiogi am flwyddyn – cawsom ni wybod (ar ddydd San Ffolant!) ein bod ni'n disgwyl ein gwyrth fach.

Byddwn ni'n ddiolchgar am byth oherwydd doeddem ni ddim yn meddwl y byddai hyn yn digwydd i ni. Er nad ydw i wedi cael fy nheulu mawr, wna i byth gymryd yn ganiataol ein bod ni wedi cael ein merch.

Eisiau gwybod mwy am ffrwythlondeb a beth rydym ni'n ymgyrchu drosto?

cyCymraeg