
Hoffem ddymuno Ramadan Mubarak (Ramadan bendithiol) i Fwslimiaid ledled Cymru a thu hwnt. Fel sefydliad pobl anabl, rydyn ni’n anfon ein cofion cynnes a’n dymuniadau gorau i’r holl bobl sy’n anabl a / neu sydd â salwch cronig ledled y byd ac sy’n cadw Ramadan yn ystod y cyfnod hwn.
Mae llawer o bobl anabl a phobl â salwch cronig yn methu ymprydio neu weddïo’n gorfforol oherwydd eu salwch neu eu hamhariadau, ond mae’n bosibl y byddant yn dewis cadw’r mis sanctaidd mewn ffyrdd eraill.
Isod ceir rhai adnoddau a fydd, gobeithio, yn cyfeirio at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth, nid dim ond ar gyfer ein cymuned Fwslimaidd sy’n cadw Ramadan, ond ar gyfer rhwydweithiau ehangach hefyd – gan gynnwys cyflogwyr, cydweithwyr, ffrindiau, a chymunedau.
- Darllen Ramadan Health Factsheet 2026 a gyhoeddwyd gan Gyngor Mwslimiaid Prydain Fawr a Chymdeithas Feddygol Islamaidd Prydain.
- Darllen awgrymiadau defnyddiol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar gyfer Ramadan iach..
- Dilyn Muslim Doctors Cymru ar Facebook ac Instagram.
- Gweld compendiwm Ramadan Cymdeithas Feddygol Islamaidd Prydain..
- Gweld Ramadan Top Tips for Employers yr awgrymiadau gorau Ramadan i gyflogwyr a gyhoeddwyd gan Muslim Friendly Employers
- Lawrlwytho'r canllawiau Ramadan ac Eid a gyhoeddwyd gan Rwydwaith Mwslimiaid y GIG
- Dysgu am waith Rhwydwaith Menywod Mwslimaidd y GIG (Lloegr) a sut maen nhw’n cefnogi menywod Mwslimaidd.
- Gweld crynodeb gweledol y BMJ ynghylch cynghori cleifion sydd â chyflyrau presennol ynghylch ymprydio yn ystod Ramadan
- Mae adnoddau gwych ar gael ar dudalen Instagram @HEARTtogrow , gan gynnwys 'Navigating Ramadan with Endometriosis‘, Polycystic Ovarian Syndrome (PCOS) and Maintaining Ibadah‘, Responding with RAHMA to those experiencing food insecurity and disordered eatinga llawer mwy.
- Os ydych chi yng Nghaerdydd neu’n agos at Gaerdydd, efallai yr hoffech ymuno ag Cynghrair Iechyd Menywod Cymru Member charity Women Connect FirstMae’n elusen ar gyfer menywod a merched Du ac Asiaidd a rhai lleiafrifiedig eraill sy’n cael ei harwain gan fenywod o'r cymunedau hynny.
- Mae elusen arall sy’n aelod o Glymblaid Iechyd Menywod Cymru, sef Women’s Advocacy Network (WAN) Cymru, yn elusen ar gyfer Cymru gyfan sy’n ceisio grymuso menywod o gefndiroedd amrywiol i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
Hoffem ddiolch i Naheed ac Azra, Sylfaenwyr Active Lives yng Nghasnewydd, a Harriet Martin-Jones, sy’n gwirfoddoli gyda FTWW, am eu cyfraniadau at y casgliad hwn o adnoddau.
Os hoffech ychwanegu unrhyw adnoddau, neu siarad â ni am yr hyn rydyn ni’n ei wneud, cysylltwch â ni! Gallwch anfon ebost at admin@ftww.org.uk.