Heddiw (28 Mai) yw Diwrnod Gweithredu Rhyngwladol dros Iechyd Menywod, a'r thema eleni yw " Gwrthsefyll Mewn Undod: Ein Brwydr, Ein Hawl!" Mae ymgyrchwyr a mudiadau cyfiawnder cymdeithasol ledled y byd yn dod ynghyd i amddiffyn a hyrwyddo iechyd a hawliau rhywiol ac atgenhedlol (SRHR) a chyfiawnder i bawb.
Rydym yn cefnogi'n llawn y gofynion bod llywodraethau’n cyflawni eu rhwymedigaethau o dan fecanweithiau hawliau dynol rhyngwladol ac yn blaenoriaethu SRHR mewn agendâu datblygu, gan gydnabod ei fod nid yn unig yn hanfodol ond hefyd na ellir ei wahanu o’r ymdrech i sicrhau cydraddoldeb rhywiol, cyfiawnder cymdeithasol, a datblygu cynaliadwy. Rydym yn hawlio’n ôl ac yn mynnu hawl pob menyw, merch, a phobl amrywiol o ran rhywedd i gael rheolaeth dros eu corff eu hunain.
I gael rhagor o wybodaeth gallwch gymryd rhan yn yr alwad i weithredu eleni, yma..