Dydd Llun 28 Ebrill: Ymateb Llywodraeth Cymru i Ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd i 'Gefnogi Pobl â Chyflyrau Cronig'

Ymatebodd FTWW yn fanwl i'r ymchwiliad, yn ysgrifenedig ac fel rhan o sesiynau tystiolaeth lafar. Roeddem yn siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhellion ar gyfer 'clinigau un stop' amlddisgyblaethol ar gyfer pobl â chyflyrau a symptomau lluosog, a chynlluniau gofal unigol a fyddai'n helpu cleifion a'u gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i fonitro a chadw golwg ar anghenion a thriniaethau cleifion, ac roeddem yn falch o weld y materion hyn yn cael eu codi ddydd Mercher 30 Ebrill yn sesiwn Lawn y Senedd, gyda'r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles AS, yn sôn am 'fodelau gwasanaeth newydd, megis hybiau iechyd menywod' yn cael eu datblygu (o 02.26.12)

cyCymraeg