Blog gan Wirfoddolwr FTWW, Eliza

Rydw i wedi bod yn falch o wirfoddoli gyda FTWW am y pum mlynedd diwethaf mewn rôl Hyrwyddwr Gynaecoleg a Mamolaeth. Yn y rôl hon, rwy'n siarad ar ran menywod sy'n wynebu oedi diagnostig, cefnogaeth annigonol, ac anghydraddoldebau ar draws gwasanaethau mamolaeth a gynaecolegol.
Roedd dod â'r profiad hwn, yn broffesiynol a phersonol, i le fel Tŷ'r Cyffredin yn teimlo'n bwerus, gan seilio trafodaethau'r digwyddiad ar effaith y bylchau mewn gwasanaeth yn y byd go iawn.
Yn ystod mis Chwefror (2026), cefais y fraint o deithio i Lundain i gynrychioli mamau yng Nghymru a Thriniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW). Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Nhŷ'r Cyffredin dan ofal yr AS Karen Smith ochr yn ochr â Mothers for Mothers, yn dathlu eu pen-blwydd yn 45 oed a hefyd lansiwyd adroddiad The Truth Is Out There, adroddiad arbennig sy'n codi lleisiau 23,000 o fenywod a rhai sy’n rhoi genedigaeth ar eu profiadau o ofal iechyd meddwl amenedigol ledled y DU.
Roedd mynychu'r digwyddiad nid yn unig fel eiriolwr ond hefyd fel claf â phrofiad personol yn ei wneud yn arbennig o ystyrlon. Ar ôl datblygu sepsis mamol yn ystod y cyfnod esgor ac wynebu heriau iechyd meddwl sylweddol ar ôl genedigaeth fy mab, roedd bod mewn lle i roi sylw penodol i iechyd meddwl amenedigol yn teimlo'n bersonol iawn ac yn bwysig.
Ynglŷn â Mothers for Mothers a'r Cymorth y maen nhw'n ei Gynnig
Mae Mothers for Mothers yn elusen iechyd meddwl amenedigol arbenigol sy'n cefnogi mamau, pobl sy'n rhoi genedigaeth a theuluoedd. Mae wedi bod yn gweithio am dros 45 mlynedd, gan gynnig cefnogaeth gynnar, dosturiol ac ymarferol i'r rhai sy'n profi heriau emosiynol neu iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd a hyd at ddwy flynedd ar ôl geni.
Maent yn darparu:
- Gwasanaeth cwnsela wedi'i deilwra i brofiadau amenedigol.
- Grwpiau cymorth cymheiriaid (ar-lein ac wyneb yn wyneb)
- Llinell gymorth sy'n cael ei rhedeg gan gyfoedion hyfforddedig sy’n rhoi cefnogaeth
- Allgymorth ac ymweliadau cartref i deuluoedd sydd angen cymorth ychwanegol
- Ffocws pwrpasol ar leihau ynysu a chefnogi adferiad
Gallwch ddysgu mwy am eu gwasanaethau neu gael cymorth yma:
https://mothersformothers.co.uk/
Beth mae'r Ymchwil yn ei Ddangos
Mae'r ymchwil dan arweiniad cymheiriaid, a gomisiynwyd gan Mothers for Mothers ac a gynhaliwyd gan ymchwilwyr UCL, yn datgelu sawl thema allweddol:
- Mae gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn brin o adnoddau, ac mae iechyd meddwl yn dal i beidio â chael blaenoriaeth.
- Mae cefnogaeth yn tueddu i fod yn ymatebol yn hytrach na rhagweithiol.
- Mae cyswllt gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn bwysig, mae'r rhyngweithio yma’n dylanwadu ar allu pobl i siarad.
- Mae pwysau bywyd ehangach yn dylanwadu ar iechyd meddwl yn sylweddol.
- Nid yw rhieni yn cuddio symptomau, yn syml, nid ydynt yn cael eu clywed.
Mae'r canfyddiadau yn atgyfnerthu un neges glir:
Nid rhywbeth delfrydol yw iechyd meddwl; mae'n hanfodol i fenywod, pobl sy'n rhoi genedigaeth, babanod, a chenedlaethau'r dyfodol.
Mae newid ystyrlon yn gofyn am lwybrau gofal safonedig, cymorth wedi'i bersonoli, a gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio'n fwriadol o gwmpas anghenion y defnyddiwr terfynol.
Eiliad a fy Ysbrydolodd
Un o rannau mwyaf pwerus y dydd oedd yr araith a draddodwyd gan Mars Lord, doula sydd wedi ennill gwobrau, addysgwr, mentor, a sylfaenydd Abuela Doulas, un o raglenni hyfforddi cyntaf y DU a grëwyd yn benodol ar gyfer gweithwyr geni Du a Brown. Mae Mars yn hyfforddi gweithwyr geni cynhwysol, sy'n cael eu cymell gan gyfiawnder, gan eu harfogi i herio anghydraddoldebau systemig a darparu gofal diwylliannol cymwys.
Mae Mars yn llais blaenllaw a hanfodol ym maes iechyd mamau Du, ac yn ei haraith angerddol gofynnodd gwestiwn sydd wedi aros gyda mi:
"Os yw menywod gwyn eu croen yn cael trafferth... yna sut mae'r menywod du eu croen yn ymdopi?"
Roedd ei geiriau yn deimladwy iawn, ac roedd y digwyddiad yn seiliedig ar yr anghydraddoldeb sy’n bodoli, a’r angen i fynd i'r afael â hyn ar frys. Fe wnaeth araith Mars fy atgoffa bod iechyd menywod, gan gynnwys iechyd meddwl amenedigol, angen lleisiau sy'n barod nid yn unig i siarad, ond i siarad yn uwch.
Cryfhaodd fy mhenderfyniad fy hun i barhau i eirioli, rhannu profiad personol, a phwyso am newid yng Nghymru a thu hwnt.
Y Darlun Mawr
- Mae 1 o bob 4 menyw a phobl sy'n rhoi genedigaeth yn profi salwch meddwl amenedigol.
- Nid yw dros hanner yn derbyn unrhyw gymorth arbenigol..
Yn y bwlch hwn, mae mudiadau VCSE, gan gynnwys Mothers for Mothers, yn aml yn darparu'r unig gefnogaeth gyson trwy gwnsela, grwpiau cyfoedion, llinellau cymorth, cymorth ymarferol, ac eiriolaeth.
Yet these organisations face unstable, short-term funding, rising demand, and the need for stronger collaboration with the NHS, alongside better awareness among health professionals of the support they offer.
Wrth sefyll yn Nhŷ'r Cyffredin ymysg ymchwilwyr, clinigwyr, eiriolwyr, arweinwyr elusennau, a rhieni gwnaed un peth yn glir:
Mae
teuluoedd yn haeddu gwell, ac mae gwella iechyd meddwl amenedigol yn gofyn am ymrwymiad, cyllid a gweithredu.

Darllenwch yr adroddiad llawn:
PS: Ffaith ar hap
Oeddech chi'n gwybod... bod gan San Steffan Swyddfa’r Post ei hun!?
Ffaith annisgwyl y gwnes ei darganfod ar fy ffordd i mewn!
