Y logo CANDOURBydd Prifysgol Caerdydd yn lansio prosiect ymchwil newydd ar 1 Ebrill 2026, wedi'i ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gyda'r nod o wella sut mae menywod a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cyfathrebu ac yn gwneud penderfyniadau ynghylch hyd therapi amnewid hormonau (HRT: hormone replacement therapy). Bydd Astudiaeth CANDOUR CANDOUR – Cyfathrebu a Gwneud Penderfyniadau o ran Hyd Therapi Amnewid Hormonau – yn mynd i'r afael â bylchau sylweddol yn y dystiolaeth, yr ymarfer a’r adnoddau sy'n ymwneud â phryd a sut mae menywod yn parhau neu'n rhoi'r gorau i HRT.

Mae canllawiau cenedlaethol yn dweud y dylid teilwra penderfyniadau ynghylch pa mor hir i barhau â HRT i bob menyw, a'u gwneud ar y cyd â'r clinigwr. Ond wrth wrando ar y profiadau mae menywod yn eu disgrifio, yn enwedig pan fyddan nhw wedi bod ar HRT ers sawl blwyddyn neu'n cyrraedd eu 60au cynnar, yr awgrym yw nad yw llawer o fenywod yn cael trafodaethau personol, a bod clinigwyr yn aml yn teimlo'n ansicr ynglŷn â’r ffordd orau o lywio'r sgyrsiau hyn. Bydd Astudiaeth CANDOUR yn datblygu ffyrdd clir, seiliedig ar dystiolaeth, o wella’r cyfathrebu a chefnogi penderfyniadau gwell yn y maes pwysig hwn sy’n ymwneud â iechyd menywod.

Arweinydd yr Astudiaeth a Sefydliadau Partner
Mae'r astudiaeth yn cael arwain ar y cyd gan:

  • Dr Kathryn Hughes, Uwch Ddarlithydd Clinigol, Is-adran Meddygaeth Boblogaeth, Prifysgol Caerdydd
  • Dr Susan Channon, Uwch Gymrawd Ymchwil, Canolfan Treialon Ymchwil, Prifysgol Caerdydd.

Mae'r prosiect yn dwyn ynghyd arbenigedd o sawl canolfan ymchwil gyda chyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys Canolfan Ymchwil i Ofal Sylfaenol a Brys Cymru (PRIME), Ymchwil Iechyd Menywod Cymru (WHRW) a'r Ganolfan Treialon Ymchwil (CTR), ochr yn ochr â chydweithwyr o'r Ysgol Fferylliaeth a’r Gwyddorau Fferyllol ac mewn cydweithrediad â Chanolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Bydd cyfranogiad cryf gan y cyhoedd yn ganolog i CANDOUR. Yn bartner yn yr astudiaeth bydd Fair Treatment for the Women of Wales (FTWW), sefydliad eiriolaeth cenedlaethol sy'n dod â phrofiad bywyd, arbenigedd polisi a dau bartner ymchwil cyhoeddus ynghyd. Bydd partneriaid cyfranogiad y cyhoedd yn cyd-gynhyrchu deunyddiau astudio, yn cefnogi prosesau recriwtio, ac yn helpu i lunio'r adnodd cefnogi penderfyniadau fydd yn cael ei ddatblygu.

Beth fydd yr astudiaeth yn ei wneud

Dros yr 17 mis nesaf, bydd tîm CANDOUR yn dwyn ynghyd y dystiolaeth bresennol, data presgripsiwn yng Nghymru, a phrofiadau go iawn menywod a chlinigwyr i ddeall sut beth fyddai sgyrsiau gwell am HRT. Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon, byddan nhw’n cyd-ddylunio prototeip o adnodd cefnogi penderfyniadau ar gyfer gofal sylfaenol ac yn gosod cynllun i rannu a gweithredu'r canfyddiadau ledled Cymru, gyda manteision posibl i'r DU yn ehangach.

Pam mae’n bwysig

Bydd llawer o fenywod yng Nghymru yn ystyried neu'n defnyddio HRT. Gall penderfyniadau ynglŷn â pharhau neu stopio HRT fod yn gymhleth oherwydd symptomau, risgiau iechyd, pryder ynghylch stopio triniaeth, ac amrywiadau eang o ran ymarfer clinigol. Nod yr astudiaeth hon yw sicrhau bod ymgynghoriadau yn cyd-fynd â blaenoriaethau menywod, yn lleihau anghydraddoldebau, ac yn rhoi'r dystiolaeth a'r adnoddau sydd eu hangen ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol i gefnogi penderfyniadau a wneir ar y cyd yn hyderus.

Bydd allbynnau o'r prosiect yn llywio addysg, polisi a datblygu gwasanaethau ledled Cymru, gyda'r potensial i lunio adnoddau'r GIG yn y dyfodol, gan gynnwys Canolfannau Iechyd Menywod a llwybrau clinigol cenedlaethol.

cyCymraeg