Gorffennaf 2026
Roedd FTWW yn falch iawn o gael gwahoddiad i siarad yn yr Uwchgynhadledd Weinidogol ar Iechyd Menywod, a gafodd ei gynnal yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd. Roedd aelodau o dîm FTWW, gyda dau o’n Hyrwyddwyr Gwirfoddolwyr, yn bresennol yn y digwyddiad ac yn rhannu arbenigedd proffesiynol a phrofiad bywyd gwerthfawr.
Roedd Rhun ap Iorwerth AS, Prif Weinidog Cymru, yn bresennol yn y digwyddiad, a oedd yn cael ei gadeirio gan Y Fonesig Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio, a groesawodd pawb â sylwadau rhagarweiniol. Yna rhoddodd y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod araith ar bwysigrwydd clywed a chymryd profiadau o boen menywod o ddifrif.
Siaradodd Mr Ihab Abbasi, meddyg ymgynghorol a Chadeirydd y Rhwydwaith Gweithredu Gynaecoleg cenedlaethol, am yr angen i fynd i’r afael â normaleiddio poen mewn gwasanaethau iechyd menywod, a thrafododd Dr Freya Davies yr arferion presennol a’r cyfleoedd ar gyfer gwella dulliau lleddfu poen yn ystod gosod IUD. Bydd yr astudiaeth hon, y mae FTWW yn rhan ohoni, yn cynnwys cydgynhyrchu adnodd gwneud penderfyniadau ar y cyd i gefnogi cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i siarad am opsiynau rheoli poen ar gyfer triniaethau cyffredin iawn.
Siaradodd dau gynrychiolydd cleifion o FTWW am eu profiad o boen yn ystod gwahanol driniaethau gynaecolegol, a rhannodd Hyrwyddwr Endometriosis Llywodraeth Cymru ei disgrifiad personol o fyw gydag endometriosis. Rhoddodd Noreen Blanluet gyflwyniad ar y dull cydgynhyrchu a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu Gwefan Iechyd Menywod GIG Cymru,a siaradodd ein Cyfarwyddwr, Debbie, am bwysigrwydd cynnwys lleisiau menywod wrth ddylunio a darparu gwasanaethau gofal iechyd, gan gynnwys yn fforwm Lleisiau Gynaecoleg Gogledd Cymru (mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan yma).
Drwy’r digwyddiad, roedd ymrwymiad clir i ‘gryfhau’r’ Cynllun Iechyd Menywod, yn enwedig clywed lleisiau cleifion a sicrhau bod y lleisiau hynny’n cael eu gwreiddio yn y gwaith o ddatblygu, darparu a gwerthuso gwasanaethau. Bydd dilynwyr FTWW yn gwybod bod hyn yn rhywbeth rydyn ni’n credu’n gryf ynddo ac yn rhywbeth rydyn ni’n ceisio ei wireddu.
Roedd llawer o sgyrsiau am ofal teg – gan gynnwys mynediad at wasanaethau arbenigol a thrydyddol ar gyfer materion fel endometriosis a rhwyll y pelfis. Ond roedd ffocws haeddiannol hefyd ar y rhan y gall darparwyr gofal iechyd ei chwarae yn canfod a thrin poen menywod, fel nad yw’r cyflwr yn gwaethygu. Cafodd y cysylltiad rhwng poen a thrawma meddygol ei thrafod, gan gynnwys lle gall rhai triniaethau wneud cleifion yn amharod i geisio gofal iechyd eto a sut gallai datblygiadau arloesol a hyfforddiant newydd helpu i oresgyn hyn.
Yn olaf, o ran hyfforddiant, soniodd nifer o bobl yn yr ystafell am yr angen i roi mwy o sylw i iechyd menywod mewn hyfforddiant meddygol, drwy gydol ac ar ôl cymhwyso. Roeddem yn falch o glywed am ymrwymiadau cryf tuag at newid y tu hwnt i drafodaethau’r Uwchgynhadledd.
Roedd y prif bwyntiau a ddeilliodd o’r digwyddiad yn cynnwys:
- • Cynnwys menywod a chleifion yn llawn yn yr ymgyrch ‘beth sy’n dod nesaf’
- • Ffocws parhaus a chryfach ar iechyd menywod ar draws meysydd polisi a sectorau
- • Newid mewn agwedd, fel nad yw’r cyhoedd na gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gweld poen fel rhywbeth ‘normal’ / ‘derbyniol’
- • Cynnal uwchgynhadledd posib ddilynol ymhen 12 mis a mwy i weld sut mae tegwch iechyd i fenywod a phobl a ddynodwyd yn fenywod ar adeg eu geni wedi datblygu.
Edrychwn ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n haelodau a’n cefnogwyr!
I danysgrifio i’n cylchlythyr, ewch i’n gwefan yma.
I gofrestru eich diddordeb mewn bod yn wirfoddolwr i FTWW, ewch i’n gwefan yma.