Fy Nhaith Gyda FTWW

This is a default profile image - a silhouette of a person
Enw: "Gwirfoddolwch"
Lleoliad: Gogledd Cymru
Mae bod yn rhan o FTWW wedi gwneud i mi deimlo’n llai unig.

Fe wnes i ddarganfod FTWW am y tro cyntaf yn 2014, ar y dechrau un, ar Facebook. Bryd hynny, dim ond tua 10 i 15 aelod oedd yn y grŵp - erbyn hyn mae yna filoedd. Dechreuais ymwneud â’r grŵp o’r cychwyn cyntaf ac, wrth edrych yn ôl, rwy’n credu fy mod i wedi chwarae rhan bwysig o ran cefnogi’r sefydliad wrth iddo ddechrau tyfu...rydw i mor falch fy mod wedi parhau i ymwneud ag ef drwy gydol ei daith, a thrwy gydol fy nhaith innau hefyd.

Dechreuodd fy mhrif gyfraniad cynnar drwy gynnig cymorth ymarferol, helpu i gynnal a chadw’r wefan, creu ac amserlennu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, datblygu cylchlythyrau a chefnogi ymgysylltiad digidol. Yn ogystal â hyn, fe wnes i helpu i drefnu a chydlynu digwyddiadau wyneb yn wyneb. Yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn yn natblygiad y sefydliad, fe wnes i lawer o ffrindiau hefyd! Yn ddiweddarach, cefais brofiad gwerthfawr o lywodraethu fel ymddiriedolwr am ychydig flynyddoedd.

Drwy wirfoddoli gyda FTWW, fe wnes i ddatblygu a chryfhau fy sgiliau ym maes cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu, gan gynnwys defnyddio Instagram, Facebook, Twitter/X a Mailchimp, yn ogystal â chreu cynnwys ar gyfer y wefan. Byddwn i’n gwneud llawer o waith ymgysylltu o bell ar gyfer yr EndoMarches, a noddir gan FTWW! Roedd y cyfleoedd hyn yn sicr wedi fy helpu i fagu hyder, ac roedd bod yn rhan o amgylchedd cefnogol hefyd wedi helpu i wella fy sgiliau technegol.

Un o’r prif fanteision i mi fel gwirfoddolwr FTWW yw natur hyblyg gwirfoddoli. Rydw i wedi gallu cyfrannu ar adegau sy’n gweithio orau i mi ac o amgylch fy anghenion iechyd fy hun. Er enghraifft, gall tasgau fel ysgrifennu ac amserlennu negeseuon ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol gael eu gwneud gyda’r nos - i mi, dyna pryd mae gen i ychydig mwy o egni - neu ar ddyfais tabled wrth orffwys yn y gwely hyd yn oed.

Mae’r hyblygrwydd hwn wedi golygu fy mod wedi gallu parhau i wneud cyfraniad ystyrlon heb bwysau oriau penodol nac amgylchedd gwirfoddoli traddodiadol. Mae gwirfoddoli gyda FTWW wedi cyd-fynd â’m gofynion i, yn hytrach na’i gwneud yn ofynnol i mi ddilyn strwythur ffurfiol.

Mae bod yn rhan o FTWW wedi rhoi cyfleoedd i mi roi cynnig ar bethau newydd, cwrdd â phobl newydd, a chysylltu ag eraill sydd wedi cael profiadau bywyd tebyg neu wahanol. Rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd drwy FTWW, ac rydw i bellach yn gweld ac yn siarad â rhai ohonynt yn fwy na neb! Mae hyn wedi fy helpu i deimlo’n llai unig ac wedi rhoi cyfle i mi siarad â phobl na fyddwn i wedi cwrdd â nhw fel arall.

Rydw i bob amser wedi teimlo fy mod yn gallu lleisio fy marn fy hun a sefyll dros fy anghenion iechyd, ond mae cyfrannu at waith FTWW, boed hynny drwy drafodaethau grŵp ffocws neu weithgareddau ymchwil, wedi cryfhau’r hyder hwn. Mae rhannu fy agwedd ragweithiol ag eraill ac annog pobl i deimlo’n fwy hyderus i godi eu llais eu hunain wedi fy ngrymuso. Mae bod yn rhan o FTWW wedi cefnogi fy nghred yn fy llais fy hun, fy mod yn gallu gwneud gwahaniaeth a chael effaith gadarnhaol ar iechyd menywod yng Nghymru.

Rydw i’n parhau i wirfoddoli gyda FTWW a bod yn aelod gweithgar o’r sefydliad. Rydw i wedi ymrwymo o hyd i godi ymwybyddiaeth, cefnogi ymgyrchoedd a helpu i roi’r si ar led am waith y sefydliad, boed hynny drwy ddosbarthu taflenni ac adnoddau codi ymwybyddiaeth, siarad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a’r cyhoedd am yr elusen, neu fod yn ffrind da i aelodau eraill a allai fod yn cael trafferth gyda’u hiechyd.

I mi yn bersonol, mae rhai o ganlyniadau cadarnhaol bod yn rhan o FTWW wedi cynnwys magu hyder yn fy ngalluoedd a’m sgiliau technegol, ennill profiad o gydlynu digwyddiadau a llywodraethu elusennau, yr holl bethau rydw i wedi gallu eu gwneud drwy wirfoddoli hyblyg a hygyrch. Ond yn hollbwysig, mae bod yn rhan o FTWW wedi gwneud i mi deimlo’n llai unig drwy gysylltu ag eraill sydd â phrofiad bywyd. Rydw i’n parhau i gyfrannu at weithgarwch ymgyrchu a chodi ymwybyddiaeth, oherwydd fy mod i am i eraill elwa o’r gefnogaeth hon hefyd.

I mi, mae fy nhaith gyda FTWW yn dangos sut gall pobl wneud cyfraniad ystyrlon at y pethau sy’n bwysig iddyn nhw mewn ffyrdd sy’n cyd-fynd â’u hamgylchiadau unigol.

Dyma rai meysydd ymgyrchu...

Menopos

Beth am addysgu a grymuso'r rhai sy'n profi'r menopos? Mae'n fwy na theimlo'n boeth!

Endometriosis

Mae endometriosis yn effeithio ar o leiaf un ymhob deg o fenywod, merched a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni.

Awtoimiwnaidd

Mae menywod bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefydau awtoimiwnedd na dynion.

cyCymraeg