Taith Emma gyda FTWW

A picture of Emma, with pink long wavy hair, smiling in front of a plain background.
Name: Emma
Lleoliad: Gogledd Cymru
Heb FTWW, fyddai fy mab ddim yn bodoli.

Ddoe, mewn parti pen-blwydd teuluol, roeddwn i’n llawn siom o weld fy nith 17 oed yn cael trafferth ymuno â’r hwyl, wrth iddi eistedd yn dawel gyda dagrau yn ei llygaid am ei bod hi’n cael poen pelfig eithafol. Roeddwn i’n teimlo fel pe bawn i’n gwylio fy hun ychydig ddegawdau’n ôl pan oeddwn i yr un oed.

Ond mae gan fy nith fantais.

Ei mantais yw’r gefnogaeth, yr hyder a’r wybodaeth y gallaf i eu defnyddio i’w haddysgu. Cefnogaeth, hyder a gwybodaeth a gefais i yn bennaf drwy ymgysylltu â FTWW. Pan oeddwn yn 17 oed, ddywedodd neb wrtha i fod pasio allan oherwydd poen mislif yn annormal, yn wir fe ddywedodd pobl wrtha i fod y boen yma’n gwbl normal ac yn rhan o fod yn fenyw.

Efallai fod y term ‘newid bywyd’ yn swnio’n ddramatig wrth drafod ymgysylltu â chymuned ar-lein, ond mae’n wir, ac mae’n debygol y bydd yn newid bywyd fy nith, a nifer o blant a menywod ifanc eraill sy’n elwa o effaith rhaeadru gwaith FTWW. Efallai y bydd fy nith yn trosglwyddo’r hyn mae’n ei ddysgu gen i - yr wybodaeth a ddysgais i gan FTWW - i genedlaethau o fenywod a merched yn y dyfodol. Mae effaith bosibl hyn yn anhygoel.

Flynyddoedd lawer yn ôl, fe wnaeth digwyddiad ar hap ar Facebook newid fy mywyd, a newid fy mherthynas â’m corff a chlefyd rydw i wedi’i alw’n Endometriosis.

Ar ôl ymweld â’r meddyg teulu dro ar ôl tro, tua’r adeg y gwnes i ddarganfod FTWW, cefais fy atgyfeirio at gynaecolegydd. Roedd y gynaecolegydd hwn yn berswadiol iawn ac yn mynnu’n bendant mai’r unig ffordd o drin endometriosis oedd cael hysterectomi. Gan deimlo nad oedd gen i ddewis, llofnodais y gwaith papur yn fy nagrau. Roeddwn i’n 27 oed, newydd briodi ac roedd fy mreuddwyd o ddechrau teulu ar chwâl.

Tra oeddwn ar y rhestr aros am y llawdriniaeth hon, digwyddodd dau beth. Y cyntaf oedd bod meddyg teulu ifanc, newydd yn y practis wedi sylwi bod fy mhrif symptom - poen erchyll yn fy ysgwydd - yn cyd-daro â’m mislif. Aeth ar Google i gael gwybodaeth am fy symptomau (ydyn, mae meddygon teulu yn defnyddio Google hefyd!) a soniodd am y term ‘endometriosis thorasig’. Yr ail oedd fy mod wedi cwrdd â grŵp o fenywod drwy Facebook, a dechrau siarad â nhw. Yr hyn a ddysgais oedd nad oedd angen hysterectomi arna i, neu o leiaf ddim eto. Yr hyn oedd ei angen arna i oedd atgyfeiriad at Ganolfan Arbenigol Endometriosis ar gyfer ymchwiliad pellach, oherwydd pe bai gen i endometriosis thorasig, mae’n bosibl na fyddai hysterectomi yn ei wella. Roedd y menywod yn y grŵp yn fy nghefnogi, yn deall sut roeddwn i’n teimlo ac yn fy nghyfeirio at wybodaeth na fyddwn i wedi’i chael fel arall. Gwybodaeth rwy’n dal i gyfeirio menywod a gweithwyr proffesiynol ati bob mis.

Canslais yr hysterectomi a llwyddais i gael fy atgyfeirio at ganolfan arbenigol. Nid oedd herio’r GIG yn hawdd, fel y mae llawer yn ei wybod, ac ni fyddwn byth wedi gallu ei wneud heb gefnogaeth FTWW.

Ers hynny, mae endometriosis wedi cael ei dynnu nid yn unig o geudod y pelfis, ond o’m coluddyn, fy ysgyfaint a’m iau. Nifer o lawdriniaethau sydd nid yn unig wedi gwella ansawdd fy mywyd, ond yn bwysicaf oll, wedi rhoi’r cyfle i mi ddod yn fam. Fel mae’n digwydd, rydw i nawr eto ar y rhestr aros am hysterectomi, ond y tro hwn gydag arbenigwyr y colon a'r rhefr ac endometriosis - llawfeddygon na fyddwn i wedi cael gafael arnyn nhw heb gefnogaeth FTWW. Pan fydd angen gwybodaeth arna i am y menopos llawfeddygol, therapi adfer hormonau ac adfer ar ôl y llawdriniaeth, rwy’n gwybod y bydd cymuned FTWW unwaith eto yn fy nghefnogi ac yn rhoi’r wybodaeth i mi siarad drosof fy hun.

Pe na bawn i wedi cael cefnogaeth FTWW, ni fyddwn wedi gallu beichiogi, byddai fy iau yn dal yn llawn anafodau endometriosis, byddai fy ngholuddyn yn gwbl gamweithredol, ac ni fyddai fy mab yn bodoli. Fe wnaeth FTWW fy ngalluogi i ddod yn fam, a bydda i’n ddiolchgar am byth am y gymuned wych hon.

Os hoffech ddarllen mwy a chlywed y diweddaraf gen i, mae croeso i chi daro golwg ar fy Substack.

Dyma rai meysydd ymgyrchu...

Menopos

Beth am addysgu a grymuso'r rhai sy'n profi'r menopos? Mae'n fwy na theimlo'n boeth!

Endometriosis

Mae endometriosis yn effeithio ar o leiaf un ymhob deg o fenywod, merched a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni.

Awtoimiwnaidd

Mae menywod bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefydau awtoimiwnedd na dynion.

cyCymraeg