Siwrnai Eliza gyda FTWW

A woman, who is Eliza, wearing a beige coat and an FTWW lanyard smiles while standing in front of the Houses of Parliament.
Name: Eliza
Location: South Wales
Roedd cael cymorth allanol drwy Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW) wedi gwyrdroi fy mywyd.

Roeddwn oddeutu 13 oed pan ddechreuais brofi symptomau y gwyddwn yn awr a oedd yn gysylltiedig ag endometriosis. Ar y pryd, doedd gen i mo’r iaith i ddisgrifio’r hyn oedd yn digwydd imi. Yr unig beth roeddwn yn ei ddeall oedd poen.

Roedd y symptomau hyn yn cael effaith fawr ar fy mywyd, collais gyfnodau hir o’r ysgol, roedd canolbwyntio’n anodd, ac roeddwn yn teimlo’n sâl hyd yn oed y tu allan i gyfnod y mislif. Anaml iawn y byddwn yn sôn am yr hyn roeddwn yn mynd trwyddo ac roeddwn yn teimlo cywilydd. Roeddwn yn dechrau credu fy mod yn wan neu’n gorymateb.

Mae cael cymorth allanol drwy Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW) wedi gwyrdroi fy mywyd. Am y tro cyntaf, roeddwn yn teimlo bod rhywun yn fy neall, yn fy nghredu ac nid oeddwn yn teimlo mor unig. Roedd cysylltu ag eraill a oedd yn rhannu’r un profiadau wedi lleihau’r unigrwydd roeddwn wedi’i deimlo am flynyddoedd ac roedd yn rhoi mynediad imi at wybodaeth y gallwn ymddiried ynddi.

Roedd yr help a gefais hefyd wedi rhoi’r hyder imi i eiriol dros fy hun o fewn gofal iechyd. Hyd yn oed yn awr, rwyf yn dal i ddibynnu ar gymuned FTWW am ddiweddariadau y gellir ymddiried ynddynt ar ofal iechyd i fenywod yng Nghymru ac rwyf yn gwerthfawrogi mod i’n rhan o rwydwaith cefnogol. Ar ôl elwa cymaint ar brofiad bywyd a charedigrwydd pobl eraill, rwyf yn awr yn mwynhau rhannu fy mhrofiadau a fy strategaethau ymarferol fy hun i helpu pobl yn gynharach ar eu siwrnai, fel y mae eraill wedi fy helpu i.

Mae heriau parhaus o ran gofal iechyd hefyd, gan gynnwys oedi, amrywiadau o ran gofal, anallu i gael triniaeth toriad oherwydd fy lleoliad, a’r angen diddiwedd i eiriol dros fy hun oherwydd y diffyg dealltwriaeth sy’n gysylltiedig ag endometriosis fel cyflwr cronig, system, llidus gydag arwyddion gynaecolegol ac nid mislif drwg yn unig. Hyd yn oed ar ôl dwy lawdriniaeth toriad, mae fy endometriosis wedi dychwelyd. Yn anffodus, ni allwn gael gofal toriadau arbenigol yn ddiweddar am fod fy atgyfeiriad wedi cael ei wrthod am fy mod yn byw y tu allan i ardal y gwasanaeth lleol. Mae hyn wedi gwneud imi sylweddoli fwy byth nad yw gofal arbenigol endometriosis yn deg ym mhob rhan o Gymru, ac ni ddylai lle mae rhywun yn byw benderfynu a allant gael yr arbenigedd sydd ei angen arnynt neu beidio.

Er gwaethaf yr heriau hyn, rwyf yn dal yn obeithiol am ddyfodol gofal iechyd i fenywod yng Nghymru. Mae gweld y gwaith sy’n cael ei wneud gan Triniaeth Deg i Fenywod Cymru i wella gofal, gan gynnwys eu cyfraniad at ddatblygiad Nyrsys Arbenigol Endometriosis a Hybiau Iechyd Menywod, yn gwneud imi deimlo’n obeithiol y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn cael diagnosis cynharach, cymorth gwell a mynediad tecach at ofal nag y cafodd llawer ohonom.

Rwyf yn parhau i gael fy ysbrydoli gan gryfder, gwytnwch a thosturi’r menywod rwyf wedi cwrdd â hwy drwy FTWW ac wrth arwain fy ngrŵp cymorth lleol o Endometriosis UK yn Llantrisant. Rwyf yn rhyfeddu at faint o bobl sydd wedi troi eu profiadau bywyd eu hunain yn gyfleoedd i helpu, i addysgu ac i eiriol dros eraill. Mae eu penderfyniad i droi profiadau anodd yn newid positif wedi fy ysbrydoli i wneud yr un peth.

Rwyf yn teimlo erbyn hyn fy mod yn deall yr heriau hyn ac mi allaf siarad yn agored amdanynt. Mae gen i’r hyder yn awr i sylweddoli os nad yw rhywbeth yn iawn, i chwilio am gymorth priodol, ac i gyfleu fy anghenion yn glir. Nid wyf bellach yn gweld fy hun fel rhywun sy’n ‘gorymateb neu’n wan’, ond fel rhywun sy’n deall eu cyflwr, sy’n haeddu gofal priodol, ac sydd wedi’i grymuso i ofyn amdano.

Dyma rai meysydd ymgyrchu...

Menopos

Beth am addysgu a grymuso'r rhai sy'n profi'r menopos? Mae'n fwy na theimlo'n boeth!

Endometriosis

Mae endometriosis yn effeithio ar o leiaf un ymhob deg o fenywod, merched a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni.

Awtoimiwnaidd

Mae menywod bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefydau awtoimiwnedd na dynion.

cyCymraeg