Taith Briallen gyda FTWW

Name: Briallen
Lleoliad: Cymru
O ganlyniad i wirfoddoli gyda FTWW, rwyf wedi gallu cyfrannu at waith ar y pynciau rwyf yn angerddol amdanynt.

Dechreuais wirfoddoli gyda Triniaeth Deg i Fenywod Cymru tua diwedd y llynedd a deuthum yn Hyrwyddwr Gwirfoddol ar gyfer Deall Anabledd yn gynharach eleni. Rwy’n defnyddio cadair olwyn ac yn byw gyda sawl salwch cronig, felly rwy’n hynod o angerddol ynghylch amcanion FTWW i ymgyrchu dros gydraddoldeb mewn gofal iechyd a chefnogi pobl sy’n byw â chyflyrau ac amhariadau iechyd hirdymor.

Dechreuais wirfoddoli gyda FTWW oherwydd roeddwn yn rhwystredig ynghylch y diffyg cymorth ac adnoddau sydd ar gael i bobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor. Pan gefais ddiagnosis o salwch cronig, ni chefais lawer o gymorth na chyngor proffesiynol. Roeddwn yn ei chael hi’n anodd canfod adnoddau a oedd yn berthnasol a defnyddiol, yn enwedig adnoddau a luniwyd gan bobl sy’n byw gyda’r un cyflyrau â mi. Roeddwn eisiau helpu i greu’r cymorth oedd ei angen arnaf pan gefais y diagnosis gyntaf, ac mae gwirfoddoli gyda FTWW wedi caniatáu i mi wneud hyn.

Ers i mi ddechrau gwirfoddoli gyda FTWW, rwyf wedi cefnogi ei waith drwy amrywiaeth o gyfleoedd ymgysylltu, gan gynnwys arolygon, cyfarfodydd, a grwpiau ffocws. Cefais y cyfle i gyfrannu at ddatblygiad pecyn cymorth hunaneiriolaeth, ei waith ar Arolwg Timms o’r Taliad Annibyniaeth Bersonol, a nifer o bynciau pwysig eraill.

O ganlyniad i wirfoddoli gyda FTWW, rwyf wedi gallu cyfrannu at waith ar y pynciau rwyf yn angerddol amdanynt. Gall byw gyda salwch cronig fod yn anodd; yn aml, gall pobl wneud i chi deimlo’n ddiymadferth, a gall gweld cynnwys negyddol cyson am salwch cronig ac anabledd fod yn ddigalon a gall beri pryder. Mae gwirfoddoli gyda FTWW yn rhoi’r cyfle i mi herio hyn. Mae’n caniatáu i mi fynegi fy marn am bethau sy’n bwysig i mi mewn ffordd sy’n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn.

Bu gwirfoddoli gyda FTWW yn werth chweil. Mae pawb sy’n cymryd rhan yn hynod o gefnogol ac amyneddgar ynghylch fy nghyflyrau a’m hanghenion mynediad, sef beth sy’n gwneud gwirfoddoli’n bosibl i mi. Mae cwrdd â phobl eraill sy’n byw gyda chyflyrau tebyg wedi fy helpu i deimlo’n llai unig, ac rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i fod yn rhan o’u gwaith ar gefnogi pobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor.

Dyma rai meysydd ymgyrchu...

Menopos

Beth am addysgu a grymuso'r rhai sy'n profi'r menopos? Mae'n fwy na theimlo'n boeth!

Endometriosis

Mae endometriosis yn effeithio ar o leiaf un ymhob deg o fenywod, merched a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni.

Awtoimiwnaidd

Mae menywod bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefydau awtoimiwnedd na dynion.

cyCymraeg