Fair Treatment for the Women of Wales | Triniaeth Deg i Fenywod Cymru
Ein gwaith yng Nghymru
Rydym ni'n gweithio gyda menywod, merched a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni, cyrff cyhoeddus a darparwyr gwasanaethau i gael gwared ar anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.
Ein swyddogaeth
Gwybodaeth
Rydym ni'n sicrhau bod y bobl sy'n cael cymorth gennym yn gallu cael gwybodaeth er mwyn iddynt ddeall eu cyflwr yn well a gwybod pa wasanaethau sydd angen.
Grymuso
Drwy gymorth gan gymheiriaid rydym ni'n grymuso ein haelodau i fagu hyder a gallu delio'n well â'u gofal iechyd.
Eiriolaeth
Rydym ni'n trefnu i'r rhai sy'n llunio polisïau, darparwyr gwasanaethau ac arbenigwyr drwy brofiad ddod at ei gilydd i sicrhau bod lleisiau menywod yn cael eu clywed, a'u bod yn gallu dylanwadu ar newid cadarnhaol pan fydd gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu dylunio a'u darparu.
Ein gwaith
Ymgyrchu
Yn ogystal â galw am gydraddoldeb iechyd i fenywod, merched a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni, rydym ni hefyd yn canolbwyntio ar nifer gynyddol o faterion iechyd menywod, fel endometriosis, y menopos, PMDD a mwy...
Ein cymuned
Mae ein cymuned yn tyfu. Erbyn hyn, mae'n cynnwys 10,000 a mwy o bobl ar lwyfannau ar-lein ac oddi-ar-lein, gyda thrafodaethau am amrywiaeth eang o faterion iechyd sy'n effeithio ar fenywod, merched a'r rhai a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni.
Gwasanaethau
Rydym ni'n darparu hyfforddiant, sgyrsiau, cyflwyniadau a grwpiau ffocws i addysgu busnesau a sefydliadau am faterion iechyd menywod, ac yn ei gwneud yn haws i gleifion gymryd rhan a chyd-gynhyrchu.
Polisi ac ymchwil
Mae FTWW yn eiriol dros newidiadau ar lefel polisïau drwy ddatblygu maniffestos, llunio adroddiadau, cymryd rhan mewn ymgyngoriadau, grwpiau cynghori a gwaith ymchwil.
Ein dylanwad yng Nghymru
Er mai elusen fach yw FTWW, rydym ni'n cael dylanwad mawr. Drwy ddatblygu cymuned ar-lein, cael sylw mawr yn y cyfryngau a dylanwadu ar bolisïau, rydym ni'n wastad yn ceisio sicrhau cydraddoldeb iechyd i fenywod a merched yng Nghymru. Dyma ragor o wybodaeth am ein cyrhaeddiad a'n heffaith:
Ymunwch â'n cenhadaeth i gael gwared ar anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Beth am wirfoddoli, cyfrannu, eirioli?