Gwybodaeth ac adnoddau
Rydym ni'n sicrhau bod y bobl sy'n cael cymorth gennym yn gallu cael gwybodaeth er mwyn iddynt ddeall eu cyflwr yn well a gwybod pa wasanaethau sydd angen. Rydym ni hefyd yn casglu profiadau a blaenoriaethau ein haelodau a buddiolwyr mewn adroddiadau.
Rydym ni mewn sefyllfa unigryw fel sefydliad ar gyfer pobl anabl sy'n cael ei arwain gan gleifion yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod gan ein haelodau brofiad gwirioneddol o gael gofal iechyd yng Nghymru, gan gynnwys y rhwystrau a'r problemau y gellid dod ar eu traws fel cleifion sy'n gweithio eu ffordd drwy system sy'n gallu bod yn gymhleth iawn. Dyma'r persbectifau unigryw y mae FTWW yn ceisio eu rhannu yn ei adroddiadau sy'n cael eu harwain gan gleifion, ei ymateb i ymgyngoriadau, a'r gwybodaeth a rannwn gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a gyda'r cyhoedd.
Yn ogystal â chasglu profiadau a blaenoriaethau ein haelodau a'n buddiolwyr, rydym ni hefyd yn ceisio darparu taflenni a gwybodaeth i chwalu'r mythau, a hynny i godi ymwybyddiaeth ac i drechu rhai o'r camsyniadau am y materion hynny. Rydym ni hefyd yn cefnogi aelodau i herio triniaeth annheg drwy eu cyfeirio at ffynonellau arbenigol o gyngor, gwybodaeth a chymorth, a thrwy greu templedi o lythyrau iddynt eu defnyddio wrth ohebu ag Aelodau o'r Senedd.
Grymuso
Drwy gymorth gan gymheiriaid rydym ni'n grymuso ein haelodau i fagu hyder a gallu delio'n well â'u gofal iechyd.
Eiriolaeth
Rydym ni'n trefnu i'r rhai sy'n llunio polisïau, darparwyr gwasanaethau ac arbenigwyr drwy brofiad ddod at ei gilydd i sicrhau bod lleisiau menywod yn cael eu clywed, a'u bod yn gallu dylanwadu ar newid cadarnhaol pan fydd gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu dylunio a'u darparu.