Fair Treatment for the Women of Wales  |  Triniaeth Deg i Fenywod Cymru

Polisi ac ymchwil

Mae ein holl waith yn cael ei yrru gan ein cenhadaeth i gael gwared ar anghydraddoldebau iechyd i fenywod yng Nghymru.

Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr fod lleisiau a phrofiadau o’n cymuned yn dylanwadu ar bolisi gofal iechyd, ymchwil a datblygu.

Sut rydym ni'n dylanwadu ar bolisi ac ymchwil?

Maniffestos ac adroddiadau

Gydag aelodau o'n cymuned, rydym ni'n cyd-gynhyrchu maniffestos ac adroddiadau sy'n goleuo ac yn dylanwadu ar lunwyr polisïau i hybu newidiadau cadarnhaol i bolisi a dyluniad gofal iechyd yng Nghymru.

Grwpiau Cynghori

Drwy gymryd rhan a chynrychioli ein cymuned ar grwpiau cynghori, byrddau, fforymau a mwy, gallwn ni weithio gyda'n gilydd i gael gwared ar anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Ymgyngoriadau

Rydym ni'n mynd ati'n rheolaidd i ymateb i ymgyngoriadau ar fynediad at ofal iechyd menywod yng Nghymru ac ar y ddarpariaeth, gan wneud yn siŵr fod lleisiau a phrofiadau ein haelodau yn cael eu rhannu.

Prosiectau Ymchwil

Mae cyd-gynhyrchu yn un o werthoedd craidd FTWW, sydd hefyd yn cynnwys gwaith ymchwil. Rydym ni'n cyfrannu at nifer o brosiectau ymchwil, gan sicrhau bod profiadau bywyd yn ganolog mewn ymchwil i ofal iechyd yng Nghymru.

Beth yw 'cyd-gynhyrchu' a pham mae'n bwysig i ni yn FTWW? >

Ymunwch â'n cenhadaeth i gael gwared ar anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Beth am wirfoddoli, cyfrannu, eirioli?

cyCymraeg