/ Ein gwaith / Polisi ac ymchwil / Maniffestos ac adroddiadau

Ein hadroddiadau a'n maniffestos

Mae gan ein haelodau brofiad go iawn o gael gofal iechyd yng Nghymru, a'r safbwyntiau a'r blaenoriaethau unigryw hyn y mae FTWW eisiau eu rhoi yn ein hadroddiadau a'n maniffestos.

Mae FTWW yn treulio llawer o amser yn casglu barn a safbwyntiau ein cymuned ar iechyd a phynciau sy'n ymwneud ag iechyd. Rydym ni'n gwneud hyn drwy ddeialog barhaus gyda'n haelodau yn ein grŵp ar-lein, arolygon, a grwpiau ffocws.

Rydym ni hefyd yn ymgysylltu'n rheolaidd â'n haelodau wrth drafod materion eraill sydd o bwys iddyn nhw ac sydd o fewn ein cylch gwaith ni o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, e.e. yr angen am addasiadau rhesymol yn y gweithle, y materion lluosog sy'n achosi tlodi a sut gall hyn achosi a gwaethygu afiechyd, problemau anabledd a hawliau, a phwysigrwydd 'cyd-gynhyrchu' mewn gwasanaethau.

Rydym ni'n gwneud hyn i roi gwybodaeth angenrheidiol i gyrff allanol ddatblygu canllawiau clinigol, polisïau ac arferion gwell a mwy cynhwysol yng Nghymru a'r DU. 

Dyma rai o'n prif adroddiadau a maniffestos:

Datganiad Ansawdd Iechyd Menywod Cymru 2022

 

Fel cyd-gadeiryddion #CynghrairIechydMenywod, fe wnaeth FTWW a BHF Cymru hwyluso'r gwaith o gyd-gynhyrchu Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Menywod, Merched a'r Rhai a Bennwyd yn Fenywod yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn trafod sut mae menywod yng Nghymru yn cael canlyniadau iechyd gwaeth na dynion, a bod angen camau ar frys i sicrhau eu bod yn cael gofal a thriniaeth gyfartal.

Adroddiadau

Rydym ni'n creu adroddiadau dan arweiniad cleifion gyda chymorth a mewnbwn gan ein Hyrwyddwyr Gwirfoddolwyr a'n haelodau. Rydym ni'n cyhoeddi ac yn dosbarthu'r adroddiadau i ddarparwyr iechyd yma yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth o bynciau iechyd sydd o bwys i ni. Mae modd cael adroddiadau ar faterion iechyd ar y tudalennau sy'n berthnasol i'r broblem iechyd berthnasol, a gallwch eu darllen yma (saesneg yn unig).

Mae rhai o'n prif adroddiadau ar gael isod.

Adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llywodraeth Cymru ar Endometriosis yn 2018

Adroddiad a gasglwyd gan Mr Richard Penketh, gynecolegydd ymgynghorol, gyda chymorth a chyfranogiad gan FTWW

Cyflwyno'r Achos dros Ofal Gwell ar gyfer Camesgoriad yng Nghymru

Mae'r adroddiad yn darparu safbwyntiau defnyddwyr gwasanaethau i GIG Cymru ar ofal ar gyfer camesgoriad yng Nghymru, a sut gellid ei wella i leihau'r niwed sy'n cael ei achosi gan ofal anghyson o ansawdd gwael.

Adroddiad FTWW ar Ffisiotherapi Pelfig yng Nghymru

Mae'r adroddiad yn nodi pa newidiadau sydd angen digwydd i wella gofal a gwasanaethau i'r rhai sydd angen cael mynediad at ffisiotherapi pelfig yng Nghymru:

Maniffestos

I ymateb i etholiadau Senedd Cymru, fe wnaethom ni gyd-gynhyrchu Maniffestos yn seiliedig ar sgyrsau gyda'n haelodau, yn annog pleidiau i flaenoriaethu iechyd menywod.

Maniffesto 2026-2030: Ein Hawl Ni i Iechyd a Llesiant yng NghymruLansio

Ein Hawl Menywod i Iechyd a Llesiant yng Nghymru ei gyd-baratoi gydag aelodau FTWW, ac mae'n cynnwys materion cyfredol sy'n wynebu gofal iechyd menywod yng Nghymru a'n galwadau i Lywodraeth nesaf Cymru ar sut i fynd i'r afael â nhw.

Lawnlwytho Maniffesto >

Maniffesto 2021: Rhoi'r Flaenoriaeth i Iechyd Menywod yng Nghymru

Cafodd y maniffesto hwn ei anfon at bob plaid ac ymgeisydd yn y cyfnod cyn etholiadau Senedd Cymru yn 2021. Roedd yn seiliedig ar y trafodaethau a gafodd ein haelodau mewn cyfres o Grwpiau Ffocws a gynhaliwyd ar-lein yn Hydref 2020. Diolch o galon i bawb a fu'n rhan ohonynt. Mae'r Grwpiau Ffocws a'r gwaith wedi hynny wedi cael eu hariannu gan Rosa: y gronfa yn y DU ar gyfer Menywod a Merched.

Lawnlwytho Maniffesto >

cyCymraeg