Ymchwil

Mae cyd-gynhyrchu yn un o werthoedd craidd FTWW, ac mae hynny'n cynnwys ymchwil. 

Mae'r dudalen hon yn dweud pam mae ymchwil i iechyd menywod yn bwysig a pha brosiectau ymchwil y mae FTWW yn rhan ohonynt ar hyn o bryd neu wedi bod yn rhan ohonynt yn ddiweddar.

Mae cymryd rhan mewn ymchwil i iechyd menywod, yn gyfannol (sef sut mae materion iechyd yn effeithiau ar wahanol rannau o'r corff a'r meddwl ar yr un pryd, weithiau gan achosi symptomau neu gyflyrau newydd ac ychwanegol) a thrwy gydol oes yn bwysig iawn i ni yn FTWW.

Y rheswm am hyn yw bod llawer o'r materion y mae ein haelodau yn ymwneud â nhw yn cael eu camddiagnosio'n aml neu'n cael eu diagnosio'n hwyr, neu nad oes dealltwriaeth iawn ohonynt, ac oherwydd nad yw'r triniaethau a'r gwasanaethau angenrheidiol mor effeithiol ag y byddem ni eisiau neu ddim ar gael o gwbl.

Un rheswm am hyn yw nad oes llawer o ymchwil wedi cael ei wneud i faterion sy'n effeithio ar iechyd a llesiant menywod yn y gorffennol. Mae hyn wedi arwain at ddiffyg dealltwriaeth o'r niferoedd dan sylw, beth yw'r symptomau, y problemau, neu'r rhwystrau, a beth sydd ei angen i helpu i gefnogi'r rhai dan sylw.

Beth rydym ni'n canolbwyntio arno, a pham

Mae tystiolaeth i ddangos bod diffyg ymchwil a dealltwriaeth amlwg am faterion iechyd sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod neu sy'n effeithio ar fenywod yn unig, ond mae hefyd yn broblem i fenywod gyda materion iechyd sy'n gallu effeithio ar unrhyw un.

Gan fod ymchwil feddygol a threialon clinigol wedi cynnwys dynion yn unig yn hanesyddol, mae hyn wedi golygu nad yw profiadau menywod a'u hanghenion cymorth, gan gynnwys offer diagnostig a thriniaethau, wedi cael eu hystyried. Gall hyn gael canlyniadau trychinebus i'n hiechyd, i'n llesiant a hyd yn oed i'n bywydau. Dyna pam mae FTWW yn parhau i alw am fwy o ymchwil ac ymchwil gwell i 'iechyd menywod'.

Dyma feysydd y mae gennym ddiddordeb ynddynt:

  • Cyflyrau sy'n effeithio ar fenywod yn anghymesur – pethau fel clefydau awtomimiwnaidd fel lwpws, arthritis gwynegol, neu syndrom Sjogren, a hefyd cyflyrau fel Syndrom Ehlers Danlos, Covid Hir, ac ME. Menywod fydd tua 80% o'r bobl sy'n byw â'r cyflyrau hyn.
  • Cyflyrau y credir eu bod yn effeithio ar fenywod yn unig – pethau fel endometriosis, adenomyosis, PCOS, a ffibroidau. Yn aml, bydd y rhain yn tueddu i fod yn gyflyrau sy'n cael eu gyrru gan hormonau ac y mae eu symtomau'n gysylltiedig fel arfer â'r system atgenhedlu.
  • Cyflyrau neu faterion iechyd sy'n effeithio ar unrhyw un – mae'r rhain yn cynnwys pethau fel diabetes, asthma, clefyd y galon, awtistiaeth, ac ADHD. Mae gennym ni ddiddordeb yn y pethau hyn am fod tystiolaeth yn dangos bod merched, menywod a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni yn gallu eu profi mor aml â dynion, bechgyn a phobl a gofrestrwyd yn wrywaidd ar adeg eu geni, ond bod y ffyrdd y maent yn effeithio arnom yn wahnaol ac weithiau heb gael eu hadnabod, naill ai gennym ni ein hunain – neu gan ein meddygon.
  • Penderfynyddion cymdeithasol iechyd – Nid mater 'meddygol' yn unig yw iechyd menywod. Mae llawer o benderfynyddion ehangach i'n hiechyd a'n llesiant y tu hwnt i fannau clinigol, ac rydym ni hefyd yn awyddus i weld y rheini'n cael ymchwil gwell a'u deall yn well, er mwyn i'n profiadau a'n bywydau wella. Er enghraifft, materion yn ymwneud â chaledi, digartrefedd, tlodi, trais yn erbyn menywod, a'r gweithle drwy lens 'iechyd menywod’.
  • Gofal cymdeithasol – Mae'n bwysig hefyd fod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cael eu dylunio i ddiwallu anghenion menywod, felly mae ymchwil yn hollbwysig i'n helpu ni i ddeall yn well beth ydynt a sut i fynd i'r afael â nhw. Rhai enghreifftiau yw darparu gofal diwedd oes, arferion rhyddhau o'r ysbyty, cymorth i fenywod sydd mewn llety brys / anniogel, a hyd yn oed yr offer sy'n cael ei ddylunio i gael ei ddefnyddio gan ofalwyr cartref (menywod gan mwyaf)! Mae llawer o bethau'n cael eu dylunio a'u darparu heb siarad â'r rhai dan sylw, felly i FTWW, mae'r cam cyntaf hwn yn hollbwysig.

Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd mewn Ymchwil

Mae FTWW yn credu'n gryf mewn galluogi menywod i gymryd rhan mewn ymchwil, oherwydd ers cymaint o amser, nid yw ein lleisiau wedi cael eu clywed – gan gynnwys pan fydd timau ymchwil a chyrff cyllido yn penderfynu ar y prosiectau y maent eisiau ymchwilio iddynt. I wella'r sefyllfa hon, mae FTWW yn wastad yn awyddus i feithrin cysylltiadau â'r timau academaidd a'r cyllidwyr, er mwyn i ni allu eiriol dros bwysigrwydd ymchwil i iechyd menywod a chefnogi ein haelodau i gymryd rhan ynddynt. Yr enw ar hyn yw Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd mewn Ymchwil (PPiE), ac rydym ni'n aml yn helpu ymchwilwyr i wireddu hynny yn eu gwaith.

Rydym ni'n arbennig o awyddus i sicrhau bod ymchwil yn gynhwysol a hygyrch, er mwyn i fenywod sy'n anabl neu'n byw â materion iechyd hirdymor, neu sy'n wynebu rhwystrau croestoriadol ac anfanteision eraill, fod yn gallu cymryd rhan a bod yn bartneriaid teg yn yr ymchwil sydd o bwys iddyn nhw.

Os ydych chi'n bwriadu gwneud prosiect ymchwil perthnasol, gall FTWW helpu gyda'r canlynol:

  • penderfynu ar flaenoriaethau ymchwil gyda phobl sydd â phrofiad bywyd
  • cyd-gynhyrchu cynigion ymchwil, ceisiadau a phrosiectau
  • rhannu gwybodaeth am eich meysydd astudio
  • ei gwneud hi'n haws i gynnwys cleifion a'r cyhoedd
  • symud gwybodaeth a gwerthuso effaith

Rhagor o wybodaeth am sut i weithio gyda ni yma.

Rhai o'r prosiectau ymchwil diweddar yr ydym ni wedi'u cefnogi...

Newyddion am ymchwil a chyfleoedd

Ydych chi'm cymryd HRT ac yn dal i brofi symptomau menopos?

Ydych chi'm cymryd HRT ac yn dal i brofi symptomau menopos?

From our friends at the ESTEEM Team: Dear FTWW Community We are conducting a project to develop a measure of the costs related to having menopausal symptoms for use in the ESTEEM trial which is looking at the use of testosterone when added to hormone replacement...

Gŵyl Everywoman

Gŵyl Everywoman

We were thrilled to be invited to take to the main stage at this year’s Everywoman Festival, with Engagement Officer, Dee, a panellist alongside NHS Wales Women’s Health Clinical Lead, Dr Helen Munro, and Director of the new Wales Women’s Health Research Centre,...

Darlunio Problemau Iechyd Hirdymor yng Nghymru

Darlunio Problemau Iechyd Hirdymor yng Nghymru

Thanks to funding from the Rosa ‘Voices from the Frontline’ Fund, we were excited to host two ‘arts & wellbeing’ workshops during the last month with FTWW members in south and north Wales. The workshops helped participants create visual images and text to convey...

Oes gennych chi brosiect ymchwil yr ydych chi eisiau i FTWW fod yn rhan ohono?

cyCymraeg