Roedden ni wrth ein bodd i gael ein gwahodd i fynd ar y prif lwyfan yng Ngŵyl Everywoman eleni, gyda'r Swyddog Ymgysylltu, Dee, panelydd ochr yn ochr ag Arweinydd Clinigol Iechyd Menywod GIG Cymru, Dr Helen Munro, a Chyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Iechyd Menywod newydd Cymru, yr Athro Jacky Boivin, ac yn cael ei Gadeirio gan y Prif Swyddog Nyrsio, Sue Tranka.
Gwnaeth ein gwirfoddolwyr waith di-fai o redeg ein stondin wybodaeth drwy gydol y digwyddiad, gan ymateb i ymholiadau a dosbarthu adnoddau i 1500 o fynychwyr.
Trafododd y panel Grymuso Iechyd Menywod: Ymchwil, Polisi a Newid, Gynllun Iechyd Menywod GIG Cymru, ymchwil newydd gyffrous a sut i ddatblygu cyfleoedd cydgynhyrchu, a Cynghrair Iechyd Menywod Cymruy mae FTWW yn ei gadeirio. Cawsom adborth rhagorol gan y gynulleidfa, ac roedd llawer ohonynt yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol â diddordeb mewn datblygu gwasanaethau iechyd menywod.
Diolch anferth i'n gwirfoddolwyr am roi o'u hamser a'u harbenigedd, ac i drefnwyr Everywoman am ein gwahodd ni!
Mae Everywoman yn mynd i Lundain ar gyfer 2026 - dysgwch fwy am yr ŵyl yma.