Cefnogi pobl eraill a'u helpu nhw i ymdopi

Os ydych chi eisiau cefnogi aelod o'r teulu, ffrind, cydweithiwr neu glaf sy'n byw â mater iechyd, mae'r dudalen hon yn rhoi awgrymiadau a chynghorion yn seiliedig ar brofiadau aelodau o'n cymuned.

Pam mae'n bwysig cefnogi pobl eraill?

Mae llawer o aelodau o'n cymuned yn disgrifio'r teimlad o fod ar eu pen eu hunain o ganlyniad i'w cyflwr iechyd a hefyd oherwydd yr anhawster wrth eu hesbonio i bobl eraill. Mae hyn yn eu gwneud nhw'n llai tebygol o chwilio am gymorth a chefnogaeth yn y dyfodol. Yn ôl rhai, mae'r frwydr i gael pobl eraill i ddeall eu materion iechyd yn gwneud pethau'n anodd iddynt yn eu bywydau, e.e. achosi i'w symptomau waethygu, gan effeithio ar eu hiechyd corfforol.

Mae ein haelodau'n dweud wrthym fod cael sgwrs dda gyda rhywun am eu materion iechyd yn gwneud iddyn nhw deimlo'n:

Sut rydym ni'n gwella profiadau'r bobl sy'n gofyn am gefnogaeth gennym?

Fe wnaethom ni ofyn i'n haelodau rannu eu syniadau, awgrymiadau a chynghorion i helpu pobl eraill i fod yn gyfeillion gwell ar gyfer cefnogi pobl gyda'u hiechyd a'u llesiant.

Yn eu trefn, dyma'r pethau y mae ein haelodau wedi dweud wrthym a fyddai wedi gwneud eu profiad yn well wrth ddweud wrth rywun am eu materion iechyd:

  • Y person yn dda am wrando
  • Y person eisiau gwybod a deall mwy
  • Cael eu cymryd o ddifri
  • Cael caredigrwydd tuag atynt
  • Cael cynnig cymorth a chefnogaeth ymarferol
  • Y person yn gwneud ymchwil i'r materion iechyd dan sylw
  • Y person yn dangos diddordeb gwirioneddol ac yn gofyn cwestiynau perthnasol
  • Parhau i gyfathrebu
  • Mwy o amser i siarad
  • Y person yn cynnig cyngor neu awgrymiadau.

Darllenwch adroddiad manwl ar y pethau y mae ein cymuned wedi eu dweud am eu profiadau wrth chwilio am gymorth a chefnogaeth yma (saesneg yn unig).

Awgrymiadau i'ch helpu chi i gefnogi pobl eraill

Gydag aelodau o'n cymuned, rydym ni wedi datblygu awgrymiadau i'ch helpu chi i gefnogi pobl eraill i drafod ac ymdopi â'u materion iechyd. Rydym ni wedi cynnwys dyfyniadau gan ein haelodau i'ch helpu chi i ddeall eu safbwyntiau. Gall y canlynol fod yn berthnasol i ffrindiau, aelodau o'r teulu, a gweithwyr proffesiynol. 

1. Bod yn dda am wrando

Dangoswch eich bod chi eisiau gwrando a deall beth mae'r person yn ei ddweud wrthych chi, drwy ddangos eich bod yn talu sylw. Gallwch chi wneud hyn drwy aros am saib naturiol yn y sgwrs i ailadrodd y prif bwyntiau a gofyn ydych chi wedi'u deall nhw'n iawn. Ceisiwch wrando heb darfu, beirniadu na rhagdybio.

"Mae cael eich diystyru gan weithwyr iechyd, eich teulu, eich cyflogwr a'ch ffrindiau yn achosi materion iechyd meddwl enfawr, ac yn cymryd nerth mawr i aros yn gadarnhaol a brwydro drwodd er eich bod yn sâl iawn drwy'r amser."

2. Ymchwilio

Cymerwch yr amser i ddeall yn well beth yw'r materion iechyd a'r profiadau y mae'r person yn eu disgrifio, drwy darllen unrhyw ddolenni neu adnoddau y gallen nhw fod wedi'u hanfon atoch chi, neu drwy chwilio am ein ffynonellau dilys o wybodaeth, e.e. elusennau arbenigol neu'r GIG.

Lle arall i ddysgu pethau gwerthfawr, yn enwedig am brofiadau bywyd pobl a gwasanaethau sydd ar gael yn lleol, yw grwpiau cymorth a'r cyfryngau cymdeithasol, felly treuliwch amser yn ymchwilio i'r rhain. Os ydych chi'n meddwl bod y person eisiau i chi helpu drwy godi pryder neu wneud cwyn am ofal iechyd, gallech chi hefyd ymgyfarwyddo â sefydliadau fel Llais, fel eich bod chi'n gallu eu cyfeirio at gymorth yn briodol.

"Roedd hi'n frwydr ceisio esbonio fy anghenion i fy nghyflogwr, nad oedd yn amheus o gyflwr nad oedd wedi clywed amdano...Doedden nhw ddim yn deall pa mor ddifrifol y mae'n effeithio ar fy ngallu corfforol a fy iechyd."

3. Gofyn cwestiynau

Efallai y byddwch chi eisiau gofyn cwestiynau fel eich bod yn deall yn iawn beth mae'r person yn ei ddweud wrthych. Drwy ofyn cwestiynau gallwch chi ddangos bod gennych chi ddiddordeb a'ch bod eisiau gwybod mwy, ac mae llawer o'r rhai sy'n byw â materion iechyd cronig ac anweledig yn gwerthfawrogi hynny. Mae'n iawn gofyn cwestiynau ond byddwch yn garedig – nid croesholi.

Holwch y person am y pethau y mae'n cael trafferth â nhw ac a oes ffyrdd penodol o'u helpu. Os yw'r person yn gyndyn o ateb cwestiynau, dilynwch nhw a pheidiwch â'u gwthio. Gallech chi ofyn rywbryd eto, gofyn mewn ffordd wahanol, neu ddangos eich cefnogaeth mewn ffyrdd eraill.

4. Dangos empathi

Nid eisiau cydymdeimlad neu dosturi y mae llawer o bobl sy'n byw â materion iechyd cronig ac anweledig, ond eisiau i chi ddangos eich bod yn ceisio deall a gwerthfawrogi cymaint y mae'r materion hynny'n effeithio arnynt fel unigolion.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am empathi a sut i ddatblygu'r sgiliau hyn ar wefan Endometriosis Cymru. Er bod y wefan yn canolbwyntio ar endometriosis, mae modd defnyddio'r wybodaeth a'r 'Cwis Empathi Fi a Ti' gan bobl sy'n byw ag unrhyw gyflwr iechyd a'r bobl o'u cwmpas: https://endometriosis.cymru/cy/byw-gydag/meithrin-empathi/cwis-empathi-fi-a-ti-endometriosis-cymru/

"Pan rwyf wedi cael sgyrsiau da, maent wedi digwydd pan fo'r person arall eisiau deall a gwybod mwy. Dydw i ddim eisiau cydymdeimlad na thosturi. Pan rwy'n dweud 'rwyf mewn poen', rwyf eisiau iddyn nhw fod â rhyw glem o beth rwy'n sôn amdano."

5. Cydnabod bod pawb yn wahanol

Gallech chi fod yn adnabod sawl person â'r un cyflyrau iechyd neu gyflyrau iechyd tebyg – ond dydy hynny ddim yn golygu eu bod nhw'n effeithio arnyn nhw yn yr un ffordd nag i'r un graddau. Gall symptomau amrywio o'r naill berson i'r llall, felly mae'n bwysig gwrando a dysgu sut i helpu'r person hwnnw gyda'u materion penodol. Mae'n bwysig peidio â rhagdybio pethau oherwydd fyddwch chi ddim bob amser yn gywir.

Mae'n bwysig hefyd i beidio â diystyru profiadau rhywun. Yn ôl ein haelodau, un o'r pethau mwyaf anodd i orfod delio â nhw yw cael gwybod am rywun arall sy'n ymdopi'n iawn â'u diagnosis, pan nad ydyn nhw o bosibl yn byw â'r un materion neu amgylchiadau. Mae'n hanfodol gwerthfawrog arbenigedd yr unigolyn a'i adnabyddiaeth o'i gorff a'i fywyd ei hun, gan gynnwys beth yw ei derfynau a'i anghenion cymorth.

Mae'n bwysig cael meddwl agored a dysgu o'r hyn y mae'r person yn ei ddweud. 'Dibwyllo' (gaslighting) ydy'r gair sy'n cael ei ddefnyddio'n aml gan bobl sy'n byw â chyflyrau cronig ac anweledig, sef pan fydd eu profiadau'n cael eu tanseilio neu heb gael eu credu. Mae'n hanfodol osgoi gwneud hyn oherwydd mae'n gallu cael effaith ddifrifol ar lesiant yr unigolyn.

"Gan fod fy meddyg teulu yn fy niystyru pan oeddwn i'n ceisio disgrifio fy mislif poenus wnes i ddim gofyn am gymorth gyda'r boen honno am sawl blwyddyn wedyn. Roeddwn i'n teimlo fy mod yn creu ffwdan am rywbeth oedd yn normal. Rwy'n gwybod erbyn nad dyna'r sefyllfa. Rwy'n mynd yn bryderus yn y feddygfa, ac mae'r dagrau'n dod. Yna, mae rhai meddygon a nyrss yn canolbwyntio ar orbryder fel mater yn hytrach na'r rheswm pam rwyf fi yno mewn gwirionedd."

"Roedd yr ofn o gael y cydbwysedd rhwng dweud wrth bobl sut mae pethau go iawn a pheidio â swnio'n ddramatig a thruenus. Mae'n arbennig o anodd wrth geisio disgrifio meigryn cronig neu syndrom blinder cronig gan fod pobl yn naturiol eisiau uniaethu a dangos eu bod yn cydymdeimlo drwy ddweud wrthych chi eu bod yn deall gan eu bod hwythau'n cael cur pen gwael neu wedi blino ar ôl gwaith. Gall fod yn rhwystredig ac yna rydych chi'n teimlo'n euog am fod yn rhwystredig gyda nhw."

6. Deall bod symptomau salwch cronig yn gallu amrywio o'r naill ddiwrnod i'r llall

Mae llawer o'r rhai sy'n byw â chyflyrau iechyd hirdymor yn disgrifio'r blinder fel un o'r symptomau sy'n eu gwanhau fwyaf, ond bod lefel y blinder yn gallu amrywio bob dydd, yn dibynnu ar faint o waith meddyliol neu gorfforol maen nhw wedi'i wneud. Mae'n bwysig deall nad bod yn 'ddiog' yw'r cyfnodau o orffwys sydd eu hangen ar bobl i'w helpu i reoli blinder, ond ffordd o helpu pobl i reoli eu symptomau a lleihau eu heffaith.

Symptom cyffredin arall o salwch cronig sy'n gallu newid o'r naill ddiwrnod i'r llall yw poen. Mae'n gallu amrywio yn dibynnu ar lawer o ffactorau, megis lefelau gweithgarwch, hormonau, neu feddyginiaethau. Gan nad yd poen yn weladwy i bobl eraill a'i fod yn anodd ei ddisgrifio, mae llawer yn dweud eu bod yn teimlo fel ei fod yn rhywbeth i'w 'guddio'. Mae ein haelodau yn gofyn i bobl ddeall ei bod yn bwysig eu credu pan fyddant yn dweud eu bod mewn poen, ac os yw hynny'n briodol, i'w hatgoffa o'u technegau rheoli poen.

I gloi, mae pobl â chyflyrau iechyd anweledig yn gofyn i bobl gofio eu bod nhw, o bosibl yn edrych yn 'iach' ar y tu allan ond nid yw hynny'n golygu eu bod nhw'n iach, a bod materion iechyd cronig yn gallu effeithio ar bob agwedd ar eu bywydau, gan gynnwys perthnasoedd, materion ariannol, a llesiant seicolegol hefyd. Mae'n bwysig fod y goblygiadau ehangach hyn yn cael eu deall a'u llawn sylweddoli.

7. Holi!

Mae cadw cysylltiad â rhywun sy'n byw â salwch cronig yn rhywbeth sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Mae llawer o'n haelodau'n disgrifio eu bod yn cael eu hynysu fwyfwy, yn aml am nad ydynt yn gallu ymuno mewn gweithgareddau cymdeithasol oherwydd blinder, poen, neu am nad yw llefydd yn hygyrch.

Mae cadw mewn cysylltiad, hyd yn oed galwad ffôn o bryd i'w gilydd neu neges drwy'r cyfryngau cymdeithasol, yn gallu rhoi gwybod i bobl eich bod yn malio amdanynt a bod gennych chi ddiddordeb gwirioneddol yn eu hiechyd a'u llesiant. Mae cynnig cwrdd am baned a sgwrs yn cael ei groesawu hefyd, hyd yn oed os nad yw'r person yn gallu mynd allan i grwyro. Mae'n bwysig peidio â gwylltio os ydynt wedi cael diwrnod gwael, yn enwedig os ydynt yn gorfod canslo trefniadau – cofiwch, mae hynny'n eu gwneud nhw'n fwy trist na chi, felly peidiwch â gadael i hynny eich rhwystro rhag cadw mewn cysylltiad!

8. Gofyn cyn cynnig cyngor

Efallai fod pobl wedi byw â'u cyflwr iechyd cronig ers amser hir, felly maen nhw wedi gwneud eu hymchil ac wedi rhoi cynnig ar wahanol dechnegau i'w helpu i'w reoli. Mae'n bwysig eich bod yn deall hyn ac nad ydych yn dewis cynnig cyngor fel prif destun eich sgwrs oni bai eich bod wedi gofyn i'r person yn gyntaf ac mai dyna beth maent eisiau ei glywed. Efallai mai'r unig beth maent eisiau ei wneud ydy cael cyfle i ddweud eu dweud neu gael hwyl, felly dilynwch nhw, gan gynnwys bod yn effro i alwadau am gymorth.

Weithiau, yn lle cynnig cyngor am beth y gall y person ei wneud drosto'i hun, efallai mai darparu cymorth ymarferol fyddai orau. Efallai eu bod nhw eisiau cymorth gennych chi i siopa neu fynd i apwyntiad: os oes modd, gall pethau fel hyn ddangos gymaint yr ydych chi'n malio a gall fod yn well na chynnig cyngor heb eisiau. Os ydych chi'n cael eich temtio i wneud hynny, peidiwch â chymryd i galon os yw'r person yn gwrthod y cyngor, mae'n bosibl ei fod wedi'i glywed fwy nag unwaith o'r blaen!

9. Bod yn amyneddgar

Mae llawer o'n haelodau'n dweud wrthym eu bod wedi colli cyfeillgarwch a pherthnasoedd dros y blynyddoedd am nad oes gan bobl amynedd i ymdopi â materion iechyd cronig neu amrywiol y person. Maen nhw'n disgrifio ffrindiau ac aelodau o'u teulu yn mynd yn rhwystredig pan nad oes triniaeth effeithiol neu iachâd, ac nid ydynt yn deall pam nad ydy'r person yn gallu gwneud y gweithgareddau yr oeddent yn gallu eu gwneud cyn i'w cyflwr ddechrau.

Mae'n bwysig bod yn ymwybodol fod rhestrau aros hir am wasanaethau'r GIG a bod cleifion weithiau'n profi oedi hir cyn cael diagnosis a phriodoli eu symptomau i gyflwr. Mae hyn yn golygu nad yw triniaeth a gofal ar gael ar unwaith. Does dim iachâd i rai cyflyrau, a rhaid i gleifion ganfod ffyrdd o reoli eu hiechyd eu hunain. Gan gadw hyn oll mewn cof, nid yw'n gymorth i'r person os ydych chi'n gofyn ydyn nhw'n "well eto". Yn lle hynny, mae'n bosibl y bydd rhaid i chi dderbyn y bydd angen cefnogaeth ac amynedd gennych am amser hir.

10. Bod yn ymwybodol o'ch rhagfarnau

Mae FTWW yn fudiad pobl anabl sy'n canolbwyntio ar gydraddoldeb iechyd menywod. Fel y gallwch ddychmygu felly, bydd llawer o'n haelodau wedi cael profiad bywyd o abledd a rhagfarn ar sail rhywedd. Gallwch chi ddarllen mwy am hyn ar ein tudalennau 'Amdanom ni' ac 'Anabledd'.

Mae'n fuddiol bod yn ymwybodol o'r model cymdeithasol o anabledd er mwyn i chi fod yn gyfaill gwell i'r rhai sy'n byw â chyflyrau iechyd cronig ac i beidio ag ychwanegu at y rhwystrau a'r agweddau negyddol y mae rhai ohonynt wedi dod ar eu traws. Mae'n bwysig peidio â gwneud i bobl deimlo fel baich.

O ran rhagfarnau ar sail rhywedd, mae'n hawdd iawn credu hen gamsyniadau fod menywod yn 'hysteraidd' neu wan. Ond mewn gwirionedd, mae'r rhain yn stereoteipiau anghywir ac nid ydynt yn gymorth ac maent yn gallu arwain at sefyllfa lle nad yw cyflyrau iechyd yn cael eu diagnosio a bod y prognosis yn gwaethygu. Mae'n bwysig bod yn ymwybodol fod llawer o gyflyrau iechyd yn effeithio ar fenywod yn wahanol a bod rhai offer diagnostig a thriniaethau heb ystyried cyrff neu anghenion menywod felly gallai meddyginiaethau a gwasanaethau fethu â gweithio gystal iddyn nhw. Byddwch yn barchus, gwrandewch a byddwch yn barod i weithio gyda'r person i benderfynu ar y ffyrdd gorau ymlaen.

11. Bod yn gefnogol

Mae sawl ffordd o fod yn gefnogol i berson yn eich bywyd sy'n byw â chyflwr iechyd cronig, fel rhoi clust i wrando, darllen am eu mater iechyd, a bod yn rhywun caredig ac amyneddgar ym mywyd y person hwnnw. Os oes gennych chi'r modd, gallwch chi hefyd cefnogi mewn ffyrdd ymarferol, megis cynnig mynd i apwyntiadau gyda'r person, eu helpu i esbonio pa effaith y mae'r symptomau yn ei chael arnynt, neu wneud nodiadau ar eu rhan os ydynt eisiau.

Rwy'n credu nad oes llawer o bobl yn gwybod, ond cyn gynted ag y byddaf yn dweud wrth ffrindiau maen nhw'n ceisio cael gwybod mwy. Mae gen i berthnasau sydd hefyd wedi cael fy nghyflwr i, felly maen nhw'n gwybod beth rwy'n mynd drwyddo ac maen nhw'n rhoi awgrymiadau am bethau sydd wedi'u helpu nhw.

Os chi yw addysgwr neu gyflogwr y person, gallwch chi ddangos cefnogaeth drwy weithio gyda nhw i ganfod addasiadau rhesymol a fyddai'n eu helpu yn yr ystafell ddosbarth neu'r gweithle. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am hyn ar ein tudalennau anabledd.

Os yw'r person yn byw â chyflwr iechyd mislifol neu gynecolegol, mae gwefan Endometriosis Cymru hefyd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am y mathau o gymorth ymarferol a allai fod yn dda mewn lleoliadau addysgol neu gyflogaeth.

Mae gwefan 'Hapus' Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cynnwys adran ar sut gall pobl a gweithwyr proffesiynol helpu i ddiogelu a gwella llesiant meddyliol pobl o'u cwmpas ac allai fod o fudd i chi.

Dydw i ddim yn hoffi cyfaddef fy mod i'n cael trafferth. Dydw i ddim eisiau bod yn rhywun sy'n cael y label o rywun sâl. Er fy mod yn gwybod nad felly bydd hi, rwy'n teimlo y byddaf yn cael fy ngweld fel rhywun gwan, neu fel rhywun sydd ddim yn ddigon cryf i ddelio â phethau. Felly, pan fydda i'n cyfaddef fod problem, gallaf fynd yn eithaf emosiynol ac yn agos at ddagrau, sydd ddim yn gwneud i rywun eich cymryd o ddifri, yn enwedig gweithwyr iechyd proffesiynol sydd ddim yn fy adnabod i.

cyCymraeg