Fair Treatment for the Women of Wales  |  Triniaeth Deg i Fenywod Cymru

Ein gwasanaethau

Mae profiad bywyd yn ganolog i'n holl waith. Rydym ni'n darparu hyfforddiant, sgyrsiau, cyflwyniadau a grwpiau ffocws i addysgu busnesau a sefydliadau ar faterion iechyd menywod, ac rydym ni'n ei gwneud hi'n haws i'r cyhoedd a chleifion gymryd rhan a chyd-gynhyrchu. 

Pam dewis FTWW?

Mae FTWW wedi creu cymuned gynhwysol o fwy na 10,000 o bobl, llawer ohonynt yn fenywod, merched a rhai a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni ac sydd â phrofiad bywyd o gyflyrau corfforol neu iechyd meddwl, gan gynnwys anabledd. Mae gwybodaeth bwerus gan ein cymuned yn werthfawr i fusnesau a sefydliadau sydd eisiau gwella gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Drwy gomisiynu gwasanaethau FTWW, rydych chi'n ein helpu ni i barhau i gynnig cymorth gan gymheiriaid i fenywod a'r rhai a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni os yw cyflyrau iechyd hirdymor yn effeithio arnynt ledled Cymru, ac i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed mewn polisi iechyd c ymarfer yng Nghymru a ledled y DU.

Addysg a hyfforddiant

Rydym ni'n cyflwyno sgyrsiau, cyflwyniadau gyda sesiynau holi ac ateb, grwpiau ffocws a seminarau ar brofiadau bywyd o amrywiaeth o gyflyrau corfforol ac iechyd meddwl sy'n effeithio ar fenywod, merched a'r rhai a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni yng Nghymru. Rydym ni'n canolbwyntio'n arbennig ar gyflyrau cronig / amrywiol ac 'anweledig', ac ar y rhwystrau y mae'r rhain yn eu hachosi rhag cynhwysiant a llesiant. Rydym ni hefyd yn rhoi gwybod i randdeiliaid sut i fynd i'r afael â'r rhwystrau, gan ddangos bod camau cadarnhaol yn bosibl!

Dyma rai pynciau y gallwn eu cynnig

  • Cyflyrau iechyd gynecolegol fel poen mislif ddifrifol, llesiant meddyliol a chyflyrau awtoimiwnedd
  • Materion iechyd ehangach, gan gynnwys poen gronig, cyflyrau sy'n effeithio ar egni, llesiant meddyliol a chyflyrau awtoimiwnaidd
  • Herio Rhagfarn Ddiarwybod
  • Pwysigrwydd Gwneud Penderfyniadau ar y Cyd mewn Lleoliadau Gofal Iechyd
  • Iechyd a Llesiant Menywod yn y Gweithle
  • Cyd-gynhyrchu mewn Polisi ac Ymarfer Iechyd
  • Y Model Cymdeithasol o Anabledd – yn enwedig sut mae'n ymwneud â salwch anweledig a chronig.

Cynnwys cleifion a chyd-gynhyrchu

Rydym ni eisiau sicrhau bod lleisiau menywod yn cael eu clywed a'u bod yn dylanwadu ar newid cadarnhaol wrth ddylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus. Os yw cynnwys cleifion a chyd-gynhyrchu yn bwysig i chi, byddem ni'n falch o weithio gyda chi. 

Cynnwys y Cyhoedd a Chleifion

Yn ôl yr Awdurdod Ymchwil Iechyd, mae cynnwys pobl â phrofiadau bywyd wrth ddylunio a datblygu ymchwil yn gallu gwella ei ansawdd a'i wneud yn fwy perthnasol.

Os ydych chi'n ymchwilydd neu'n sefydliad addysg, gall FTWW helpu i'w gwneud yn haws i gael y cyhoedd a chleifion i gymryd rhan yn eich prosiectau ymchwil.

Gall hyn gynnwys:

  • Sicrhau eich bod yn cyrraedd y bobl gywir, gan gynnwys cleifion a defnyddwyr gwasanaethau, a gofalwyr.
  • Hwyluso grwpiau ffocws
  • Cynnal arolygon wedi'u targedu

Cyd-gynhyrchu

Mae pobl sydd â phrofiad bywyd yn gallu chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o lunio gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus - ac fe ddylen nhw wneud hynny. Bydd hyn yn sicrhau bod y gofal iechyd a'r gwasanaethau cyhoeddus yn diwallu anghenion cymunedau.

Mae cyd-gynhyrchu yn hanfodol er mwyn datblygu polisïau a gwasanaethau gofal iechyd, ailddylunio gwasanaethau, a darparu gofal. Mae tystiolaeth fod cyd-gynhyrchu yn arwain at ganlyniadau gwell i bawb.

Rhagor o wybodaeth am gyd-gynhyrchu a pham mae'n bwysig i ni yn FTWW yma (saesneg yn unig).

Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb mewn cyd-gynhyrchu, gall FTWW helpu i osod nodau a blaenoriaethau gyda phobl sydd â phrofiad bywyd a chyd-gynhyrchu cynigion ymchwil, adroddiadau a pholisïau.

Eisiau gwybod mwy am ein gwasanaethau?

cyCymraeg