Gweithio gyda Ni
Rydym ni'n gweithio gyda sefydliadau, busnesau ac ymchwilwyr sy'n rhannu ein cenhadaeth i gael gwared ar anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.
Ydych chi'n weithiwr proffesiynol mewn sefydliad neu fusnes?
Rydym ni'n wastad yn awyddus i ymuno â sefydliadau eraill, sefydliadau nid-er-elw neu fusnesau sydd eisiau gwella gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer menywod yng Nghymru.
Rydym ni hefyd yn cynnig gwasanaethau addysg a hyfforddiant i sefydliadau a busnesau am amrywiaeth o faterion iechyd menywod, gan gynnwys cyflyrau cronig ac anabledd.
Os ydych chi eisiau cydweithio â ni, rydym ni'n edrych ymlaen at glywed gennych.
Ydych chi'n ymchwilydd mewn sefydliad addysgol?
Mae cyd-gynhyrchu yn un o werthoedd craidd FTWW, sy'n cynnwys ymchwil. Rydym ni'n annog timau ymchwil i gysylltu â ni pan fyddant wrthi'n datblygu prosiect os ydynt eisiau i ni gyfrannu.
Gallwn ni hefyd gynnig gwasanaethau i gefnogi Cael Cleifion a'r Cyhoedd i Gymryd Rhan yn eich prosiect ymchwil.
Er mwyn asesu a yw prosiect ymchwil yn bodloni ein gofynion ac ystyried beth yw'r ffordd orau o helpu, rydym ni wedi creu ffurflen fer sydd ar gael isod.
Ydych chi'n weithiwr gofal iechyd neu'n ddarparwr gofal iechyd?
Rydym ni'n credu mai gweithio ar y cyd â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a darparwyr gwasanaethau iechyd yw'r allwedd i wella iechyd a llesiant cleifion yng Nghymru.
Rydym ni'n helpu ac yn cefnogi byrddau iechyd a chlinigwyr i ymgysylltu â'n haelodau a rhanddeiliaid yn ehangach er mwyn dysgu o'u profiadau, gwella gofal, a datblygu gwasanaethau hygyrch ac effeithiol.
Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut gallwn ni eich helpu a'ch cefnogi chi, cysylltwch â ni.
Rhagor o wybodaeth am ein gwaith cyfredol gyda phartneriaid, sefydliadau ac ymchwilwyr:
Newyddion am bartneriaid a chydweithio
FTWW & Cardiff University Work Together to Illustrate Symptoms of Endometriosis
[:en]FTWW & Cardiff University Work Together to Illustrate Symptoms of Endometriosis - 3o, January 2018. FTWW members from across Wales were proud and excited to be involved in a new and exciting method of collecting evidence around their experiences of...
Gwobrau
Dim canlyniadau
Nid oedd modd canfod y tudalen y gofynnwyd amdani. Ceisiwch fireinio eich chwiliad, neu defnyddiwch y panel llywio uchod i ganfod y neges.
Gwybodaeth i gyllidwyr
Mae FTWW yn dymuno clywed gennych chi os ydych chi'n meddwl bod ein gwaith ni yn cyd-fynd â'ch cenhadaeth a'ch amcanion chi.
