Awtistiaeth a Niwrowahaniaethau
Amcangyfrifir mai pobl awtistig yw rhwng 1.1 ac 1.9% o'r boblogaeth, ac ystyrir bod 15-20% yn niwrowahanol.
Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am awtistiaeth a niwrowahaniaeth, ac am ein gwaith ni yn y maes hwn.
Mae'r wybodaeth ganlynol yn seiliedig ar y profiadau bywyd a'r blaenoriaethau y mae ein cymuned wedi sôn amdanynt wrthym. Os ydych chi eisiau cyngor iechyd/meddygol, cysylltwch â meddyg teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol. Darllenwch yr ymwadiad meddygol
Beth yw awtistiaeth a niwrowahaniaethau eraill?
Niwrowahaniaeth yw pan fo ymennydd rhywun wedi datblygu'n wahanol neu'n gweithio mewn ffordd wahanol i'r ymennydd nodweddiadol. Dau fath cyffredin o gyflyrau niwroddatblygiadol yw awtistiaeth ac ADHD (Anhwylder Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd.
Mae tua 1.1% o'r boblogaeth yn awtistig – mae hynny'n golygu y gallai 17,000 o fenywod yng Nghymru – fod yn awtistig. Mae ffigyrau am ba mor gyffredin yw ADHD yn amrywio, ond mae GIG Lloegr yn dweud bod 3-5% o blant a 2% o oedolion, sy'n cyfateb i 31,800 o fenywod o bosibl. Serch hynny, oherwydd annhegwch mewn diagnosis, mae'r ffigyrau swyddogol ar gyfer menywod yn is.
Mae Awtistiaeth yn gyflwr niwroddatblygiadol sy'n cael ei nodweddu gan wahaniaethau o ran cyfathrebu cymdeithasol a'r synhwyrau, a'r angen am drefn a chysondeb.
Dyma rai o nodweddion awtistiaeth:
- Ei chael hi'n anodd deall beth mae pobl eraill yn ei deimlo, neu gael eich llethu mewn sefyllfaoedd cymdeithasol neu wrth gwrdd â phobl newydd.
- Dangos ymddygiadau hunan-gysuro a chanolbwyntio'n fawr ar rai diddordebau penodol.
- Bod yn sensitif i sŵn, golau, arogleuon, blasau neu deimladau eraill.
Yn y DU, mae'r broses o ddiagnosio awtistiaeth yn aml yn dechrau drwy atgyfeiriad gan feddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall at arbenigwr i gael asesiad cynhwysfawr.
Mewn rhai achosion, cynigir cymorth ar ôl diagnosio i helpu unigolyn i ddeall sut mae ei awtistiaeth yn effeithio arno ac i ddatblygu pecyn o strategaethau a dulliau ymdopi megis proffiliau synhwyrau a chymorth i ddatgelu a gofyn am addasiadau.
Mae rhagor o wybodaeth am arwyddion a diagnosis o awtistiaeth i'w gweld ar wefan GIG Cymru yma (saesneg yn unig).
Mae ADHD (Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd) yn gyflwr niwroddatblygiadol arall sy'n cael ei nodweddu gan wahaniaethau o ran talu sylw, fel arfer anhawster cadw sylw, anhawster symud sylw (pan fo rhywun yn canolbwyntio'n fawr ar un peth) neu'r ddau. Gall hyn olygu ei bod hi'n fwy heriol iddynt wneud tasgau cyffredin.
Mae ffigyrau am ba mor gyffredin yw ADHD yn amrywio, ond mae GIG Lloegr yn dweud y gallai 3-5% o blant a 2% o oedolion fod ag ADHD, sy'n cyfateb i 16,000 o fenywod yng Nghymru o bosibl. Serch hynny, oherwydd annhegwch mewn diagnosis, mae'r ffigyrau swyddogol yn is.
Mae rhagor o wybodaeth am ADHD ar gael ar wefan GIG Cymru yma (saesneg yn unig).
Beth rydym ni'n galw amdano?
Ein nod cyffredinol yw mynd i'r afael â'r annhegwch eang a brofir gan fenywod awtistig a niwroamrywiol yng Nghymru a gweld ansawdd eu bywydau yn gwella
Amcangyfrifir mai pobl awtistig yw rhwng 1.1 ac 1.9% o'r boblogaeth, ac ystyrir bod 15-20% yn niwrowahanol. Ond gyda mwy a mwy yn cael diagnosis hwyr, mae'r nifer yn debygol o fod yn uwch o lawer.
Yn hanesyddol, credid bod awtistiaeth ac ADHD yn effeithio ar fechgyn yn bennaf. Serch hynny, yn y blynyddoedd diweddar mae mwy a mwy o ferched, menywod a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni yn cael diagnosis diolch i ymgyrchoedd gan fenywod awtistig i'w gydnabod yn well.
Mae diffyg dealltwriaeth o'r modd y mae awtistiaeth a chyflyrau niwroddatblygiadol i'w gweld yn gallu arwain at oedi cyn cael diagnosis, diffyg cefnogaeth, a gwasanaethau sydd ddim yn diwallu anghenion menywod a merched.
Mae hyn wedi gwella yn y blynyddoedd diweddar wrth i wybodaeth ymchwil newydd ledaenu ar draws y sector, ond araf yw'r cynnydd mewn rhai meysydd, fel annhegwch iechyd.
Yng Nghymru, mae menywod a merched awtistig a niwrowahanol yn wynebu camwahaniaethu ac anghydraddoldebau yn eu gofal iechyd
Yn hanesyddol, mae ymchwil i awtistiaeth wedi canolbwyntio fwy ar fechgyn, gan arwain at gamddealltwriaeth o'r cyflwr. Yn aml, mae merched awtistig yn cael eu diagnosis yn hwyrach yn eu bywydau oherwydd diffyg adnabyddiaeth o sut y gallai gael ei ddangos. Mae ein gwaith ni yn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r profiadau a'r heriau unigryw sy'n wynebu menywod awtistig a niwroamrywiol i frwydro yn erbyn stereoteipiau a chamsyniadau.
Yn ôl y dystiolaeth mae merched a menywod awtistig yn dod yn fedrus am 'guddio' neu ddynwared ymddygiadau niwronodweddiadol i ffitio i mewn yn gymdeithasol. Serch hynny, mae llawer yn dweud bod hyn yn niweidiol i'w llesiant meddyliol a chorfforol, gyda mynediad at y gofal iechyd cyd-gysylltiedig gorau yn un o'r heriau mwyaf sy'n eu hwynebu.
Mae llawer o fenywod awtistig a niwrowahanol yn methu cael gwasanaethau iechyd oherwydd amgylcheddau annhygyrch, mythau a stereoteipiau. Weithiau, mae cyflyrau iechyd sy'n cyd-fodoli yn cael eu diystyru am fod diagnosis o awtistiaeth neu niwrowahaniaeth yn golygu bod symptomau'n cael eu priodoli i hynny. Hyd yn oed pan nad yw'r claf wedi cael diagnosis ffurfiol eto, gall eu pryderon iechyd gael eu diystyru oherwydd bod y ffordd y maent yn eu hesbonio eu hunain yn cael ei chamddeall, neu nid ydynt yn ymddangos mewn ffordd nodweddiadol.
Mae hyn yn golygu bod menywod a merched yn wynebu oedi cyn diagnosis a cholli cyfleoedd i reoli eu hiechyd a'u llesiant yn well, ac atal materion iechyd rhag gwaethygu.
Mae angen i ni wneud y canlynol:
- sicrhau bod hawliau menywod awtistig a niwrowahanol yn cael eu cydnabod a'u cynnal, a bod eu lleisiau'n cael eu clywed
- sicrhau bod y rhai sy'n creu polisïau yn Llywodraeth Cymru yn gwethio ar y cyd â'r gymuned awtistig fel bod eu hanghenion yn cael eu deall a'u diwallu
- sicrhau bod menywod awtistig a niwrowahanol yn cael rhan lawn yn y gwaith o ddylunio a darparu gwasanaethau y mae angen iddynt eu defnyddio, gan gynnwys yn GIG Cymru, addysg, a chyrff cyhoeddus eraill
- ensure autistic and neurodivergent females can access appropriate and timely mental health support
- annog buddsoddiad mewn ymchwil fel bod yr annhegwch sosio-economaidd a'r materion iechyd sydd gan fenywod awtistig a niwrowahanol yn cael eu deall, eu trin a'u hatal yn well
- cefnogi'r gwaith o ddatblygu hyfforddiant i sicrhau bod anghenion croestoriadol pobl awtistig a niwrowahanol yn cael eu hystyried gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac addysgwyr
Ein hyrwyddwr Willow H

Mae Willow yn fenyw awtistig a gafodd ddiagnosis yn hwyr, ac mae hi wedi gweithio gyda phobl awtistig mewn gofal preswyl. Mae Willow wedi defnyddio ei phrofiad bywyd yn dilyn diagnosis i gynyddu dealltwriaeth o fywydau pobl awtistig. Fe sefydlodd Brosiect Grymuso Menywod Awtistig yn 2014 fel prosiect i godi ymwybyddiaeth. Ers hynny, mae Willow wedi mynd ymlaen i ymgyrchu dros gydnabod a derbyn pobl awtistig, a chydraddoldeb iddynt, ledled Cymru.
Mae hi'n Gadeirydd Gweithredol Autistic UK ac mae hi'n gyfarwyddwr sawl mudiad cydraddoldeb yng Nghymru, gan gynnwys bod yn Gadeirydd Anabledd Cymru a chyfarwyddwr FTWW. Mae hi wedi cyflwyno digwyddiadau ymgynghori a hyfforddiant ac mae ganddi adnabyddiaeth helaeth o awtistiaeth, a hynny o safbwynt proffesiynol a phersonol, yn hwyluso sesiynau rhyngweithio sy'n cynnig persbectif person gwybodus o'r tu mewn ar awtistiaeth.
Mae hi hefyd yn gweithio ar lefel strategol a pholisi, ac mae hi'n aelod o'r Grŵp Cynghori Gweinidol ar Gyflyrau Niwroddatblygiadol a'r Tasglu Hawliau Anabledd, yn ogystal â chyd-gadeirio Bwrdd Strategaeth Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru
Ein hyrwyddwr Dee Dickens

“As a late peer diagnosed person who is autistic with ADHD (AuDHD), one of my special interests, like many neurodivergent folk, is my own condition. So much so that my specialised area of research for my PhD is autism and other neurodivergences.
I became involved with FTWW because they demonstrated an inclusivity and understanding about how intersectional different kinds of impairments can be. In my role as Champion for Autism and Other Neurodivergences, I educate on the comorbidities that can occur and am committed to the motto “be you, the world will adjust”.
My work is about changing labels. From lazy to lacking executive function, from clumsy to dyspraxic, and from stupid to needing to be taught differently. My work is to help the world adjust to us.”
Beth rydym ni wedi llwyddo i'w wneud?
Mae ein hymgyrchoedd i wella bywydau menywod, merched a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni, yn helaeth. Dyma rai o'n llwyddiannau isod:
Rydym ni'n codi ymwybyddiaeth drwy ddigwyddiadau, y cyfryngau, hyfforddiant a chodi arian
- Cyfrannu at ddatblygu adnoddau a rhaglenni hyfforddi gyda Wales Thîm Awtistiaeth Cenedlaethol Cymru
- Hyfforddi gweithwyr iechyd proffesiynol a Heddlu Gogledd Cymru
- Cyflwyno sgyrsiau mewn cynadleddau a seminarau, such as (needs examples)
- Cyflwyniadau i Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Awtistiaeth
- Cyd-drefnu digwyddiadau, megis Cynhadledd Awtistiaeth Gogledd Cymru a Digwyddiadau yn y Senedd
- Cyfrannu at ddarnau i'r cyfryngau, megis yr erthygl yma ar Wales Online
Rydym ni'n cymryd rhan mewn ymgyngoriadau, byrddau cynghori a gwaith cyd-gynhyrchu gofal iechyd
- Aelod o'r Grŵp Cynghori Niwrowahaniaeth Gweinidogol
- Cyfrannu at ddatblygu Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ddarparu Gwasanaethau Awtistiaeth
- Cynrychiolaeth ar Fwrdd Strategaeth Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru
- Cyfraniadau at amrywiaeth eang o ymgyngoriadau a gynhaliwyd gan Bwyllgorau'r Senedd a Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ymchwiliadau i restrau aros a chymorth i'r rhai â chyflyrau cronig, ac ymgyngoriadau ar iechyd meddwl a llesiant, ac atal hunanladdiad.
Rydym ni'n ymwneud yn uniongyrchol â llunwyr polisïau ac ymchwilwyr
- Partner sefydliadol ac Arweinydd Cymunedol ar Astudiaeth a Ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Wellcome ar Awtistaeth o'r Mislif i'r Menopos ym Mhrifysgol Abertawe
- Cynrychioli profiadau bywyd menywod awtistig a niwrowahanol ar Grŵp Cynghori Annhegwch Iechyd Meddwl y Senedd, a gafodd ei alw gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd
- Cynnwys pennod ar brofiadau menywod o awtistiaeth a niwrowahaniaeth yn adroddiad Cynghrair Iechyd Menywod Cymru i Lywodraeth Cymru
- Sicrhau bod awtistiaeth a niwrowahaniaeth yn cael sylw yn Datganiad Ansawdd Llywodraeth Cymru ar Iechyd Menywod a Merched a bod lleisiau menywod awtistig yn cael eu clywed wrth ddatblygu Cynllun Iechyd Menywod 10 mlynedd GIG Cymru
- Parhau i weithio gyda'r Tasglu Hawliau Anabledd Gweinidogol, i sicrhau bod y rhwystrau lluosog sy'n wynebu menywod awtistig a niwrowahanol yn cael eu deall a'u cynnwys.
Newyddion a blogiau cysylltiedig
Willow Aelod o Fwrdd FTWW yn ennill Gwobr am ei Gwaith yn y Gymuned Awtistig
FTWW would like to congratulate our board member Willow Holloway, founder, and project leader of Autistic Women's Empowerment Project, on being a winner in 'The Learning Disability and Autism Leaders' List 2018'. Willow received this amazing accolade for her...
Storïau am awtistiaeth a niwroamrywiaeth
Eiriol drosoch chi eich hun neu dros rywun arall
Mae llawer o fenywod yn ei chael hi'n anodd trafod materion iechyd a chwilio am gymorth, hyd yn oed os yw'r materion iechyd yn cael effaith fawr ar eu bywydau.
Rydym ni'n gweithio gyda'n cymuned i ddatblygu adnoddau ac awgrymiadau i helpu menywod i godi llais, a darparu arweiniad i bobl sydd eisiau cefnogi eu hanwyliaid, ffrindiau, cydweithwyr neu gleifion sy'n byw â chyflyrau iechyd.
Dolenni a dogfennau defnyddiol
Iechyd Menywod Cymru: Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Menywod, Merched a'r Rhai a Bennwyd yn Fenywod ar adeg eu geni 2022
Darllenwch fwy am argymhellion i Lywodraeth Cymru yn yr adroddiad hwn gan gynghrair #IechydMenywodCymru
Taflen ddwyieithog FTWW ar Awtistiaeth a Niwrowahaniaethau
Mae'r daflen hon yn rhoi trosolwg o'n gwaith yn y maes hwn a pham mae ei angen