Roedd Debbie ac Isabel o FTWW yn falch o gael rhoi cyflwyniad gerbron Rhwydwaith Cymru Gyfan Goruchwylwyr Clinigol i Fydwragedd ar 30 Hydref, ar yr angen i wasanaethau mamolaeth a gofal ddeall a darparu ar gyfer anghenion y rheini sy'n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor, sy'n anabl, neu niwrowahanol.
Diolch o galon i'n gwirfoddolwyr a fu’n rhannu eu straeon hynod bwerus a'u hargymhellion ar gyfer gofal mamolaeth, gan gynnwys yr angen i weld menywod a phobl fel nhw eu hunain yn cael eu cynrychioli mewn astudiaethau achos, ac mewn gwybodaeth a hyfforddiant.
Yn anad dim, mae aelodau'r gymuned eisiau teimlo'n fwy hyderus y bydd bydwragedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn rhagweld eu hanghenion ac yn eu deall. Mae'r rhain yn cynnwys menywod sydd â chyflyrau gynaecolegol y gallent fod wedi’i chael yn anodd beichiogi ac a fu mewn poen ac yn dioddef symptomau eraill gydol eu beichiogrwydd; teimladau cleifion niwrowahanol fod eu synhwyrau’n cael eu gorlethu ac yn ei chael yn anodd cyfathrebu pan fyddant mewn amgylcheddau newydd neu mewn poen; menywod sydd â chyflyrau iechyd meddwl a allai fod angen mannau tawel, mwy o amser, sylw penodol, a charedigrwydd gan eu darparwyr gofal iechyd, neu fenywod sydd wedi colli babi yn ystod beichiogrwydd blaenorol ac sydd eisiau i eraill werthfawrogi'r holl emosiynau a’r poen meddwl sy'n cuddio dan y wên sy’n dweud bod 'popeth yn iawn'. Bu'r Rhwydwaith yn groesawgar ac yn gefnogol dros ben, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw eto i’r dyfodol.
Rhoddodd Claire Parkin, Goruchwylydd Clinigol i Fydwragedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, yr adborth hwn i ni:
“Fel criw brwd, rydyn ni wedi ymrwymo i roi lle canolog i’r themâu rydych chi wedi'u codi yn ein hunedau mamolaeth lleol. Fe wnaeth eich cyflwyniad atgyfnerthu pwysigrwydd cydgynhyrchu rhwng staff a defnyddwyr gwasanaethau, gan helpu i roi sylw i'r annhegwch hanesyddol ac ennyn hyder unwaith eto mewn gwasanaethau mamolaeth. Rydyn ni'n gadael y sesiwn hon wedi ein hysbrydoli ac yn fwy gwybodus, gydag ymrwymiad o'r newydd i sicrhau bod llais pob menyw ac unigolyn sy'n rhoi genedigaeth yn cael ei glywed, ei barchu, ac yn cyfrif yn ein gwasanaethau Mamolaeth.”
Diolch o galon i'r Rhwydwaith am ein gwahodd ni, ac unwaith eto i'n gwirfoddolwyr am eu cyfraniadau effeithiol y gwyddom y byddant yn newid pethau er gwell.