Clefydau awtoimiwnaidd
Mae menywod bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefydau awtoimiwnaidd na dynion, ac mae llawer o'r cyflyrau hyn yn amharu ar ansawdd bywyd.
Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am glefydau awtoimiwnaidd, a'n gwaith ni yn y maes hwn.
Mae'r wybodaeth ganlynol yn seiliedig ar y profiadau bywyd a'r blaenoriaethau y mae ein cymuned wedi sôn amdanynt wrthym. Os ydych chi eisiau cyngor iechyd/meddygol, cysylltwch â meddyg teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol. Darllenwch yr ymwadiad meddygol
Beth yw clefydau awtoimiwnaidd?
- Mae clefydau awtoimiwnaidd yn digwydd pan fo system amddiffyniad naturiol y corff (y system imiwnedd) yn ymosod drwy gamgymeriad ar rannau iach o'r corff.
- Gall y cyflyrau hyn gael amrywiaeth eang o symptomau a chael effaith fawr ar ansawdd bywyd.
- Credir bod clefydau awtoimiwnaidd yn effeithio ar 1 ymhob 10 o bobl yng Nghymru, ac mae tua 80% o'r rhai sy'n byw â chyflyrau awtoimiwnaidd yn fenywod.
Mae clefydau awtoimiwnaidd yn gymhleth, yn aml yn effeithio ar fwy nag un system a gwahanol rannau o'r corff felly gall y symptomau amrywio o ran natur a difrifoldeb. Gall rhai pobl fod â mwy nag un cyflwr awtoimiwnaidd. Maen nhw hefyd yn gynyddol, felly maen nhw'n gallu gwaethygu os nad ydyn nhw'n cael eu canfod yn gynnar a'u trin. Gall y cyflyrau hyn gael goblygiadau difrifol i iechyd a llesiant yn gyffredinol.
Nid oes dealltwriaeth lawn o'r hyn sy'n achosi clefydau awtoimiwnaidd ond rhai posibiliadau yw geneteg, hormonau, digwyddiadau iechyd atgenhedol fel y glasoed, beichiogrwydd, a'r menopos (a allai egluro'n rhannol pam mae'r cyflyrau hyn yn llawer mwy cyffredin ymysg menywod na dynion), a haint firysol.
Mae angen mwy o ymchwil i'n helpu ni i ddeall pam mae hyn yn effeithio ar fwy o fenywod na dynion, sut i atal y cyflyrau hyn rhag datblygu, cyflymu'r diagnosis, gwella'r dewisiadau o driniaethau, neu hyd yn oed ganfod iachâd!
Mae Clefydau Rhiwmatig Awtoimiwnaidd Prin (RAIRDs), gan gynnwys Lwpws a Syndrom Sjogren, yn effeithio ar ryw 9,500 o bobl yng Nghymru. Menywod yw o leiaf 90% o'r bobl y mae'r rhain yn effeithio arnynt. Mae lwpws yn fwy cyffredin hefyd ymysg menywod du ac Asiaidd.
Mae rhagor o wybodaeth am symptomau clefydau awtoimiwnaidd ar gael ar wefan GIG Cymru yma (saesneg yn unig).
Beth rydym ni'n galw amdano?
Ein nod cyffredinol yw codi ymwybyddiaeth, lleihau oedi cyn cael diagnosis, a gwella mynediad at wasanaethau arbenigol ar gyfer clefydau awtoimiwnaidd i gleifion yng Nghymru.
Mae angen i ni godi ymwybyddiaeth o'r cyflyrau hyn, ac yn enwedig sut maent yn effeithio'n anghymesur ar fenywod.
Mae llawer o fenywod yn aml yn dweud nad yw eu symptomau'n cael eu cymryd o ddifri, ac mae hyn yn arwain at oedi cyn cael diagnosis neu golli diagnosis. Rydym ni eisiau sicrhau bod lleisiau menywod yn cael eu clywed, a'u bod yn cael cynnig y gofal gorau, yn brydlon.
Gall profion ar gyfer clefydau awtoimiwnaidd fod weithiau'n llwyddiannus ac weithiau'n aflwyddiannus, sy'n tynnu sylw at y ffaith fod angen rhagor o ymchwil i ddiagnosis a dewisiadau effeithiol o driniaethau.
Gan fod y cyflyrau hyn yn ddifrifol, mae'n bwysig fod gofal arbenigol ar gael i gleifion sydd ei angen, ni waeth ble maent yn byw yng Nghymru.
Yng Nghymru, mae prinder gwybodaeth, dealltwriaeth a buddsoddiad mewn clefydau awtoimiwnaidd yn arwain at oedi cyn cael diagnosis a rhwystrau rhag cael triniaeth
Yng Nghymru, mae prinder:
- Ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd am glefydau awtoimiwnaidd, a beth yw eu heffaith
- Gwybodaeth am symptomau, triniaeth, a gwasanaethau i gleifion yng Nghymru
- Ymchwil i glefydau awtoimiwnaidd a data sy'n benodol i Gymru – mae angen i ni wybod mwy am sut mae menywod yn cyflwyno gyda'r cyflyrau hyn er mwyn i ni allu deall yn well beth sy'n eu hachosi, pa mor gyffredin ydynt, a pha effaith y maent yn ei chael. Mae angen i ni gael mwy o ymchwil i'r ffyrdd gorau o ddiagnosio, rheoli, trin a hyd yn oed iacháu clefydau awtoimiwnaidd er mwyn gwella iechyd a bywydau pawb y maent yn effeithio arnynt.
- Hyfforddiant neu wybodaeth am glefydau awtoimiwnaidd ymysg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan arwain at oedi cyn diagnosio a dim rheolaeth effeithiol bob amser na gofal cydgysylltiedig.
- Clinigau neu wasanaethau arbenigol ar gyfer cleifion yng Nghymru sydd â chlefydau awtoimiwnaidd.
Mae loteri cod post ar gyfer gofal arbenigol, pan mai dim ond cleifion mewn rhai byrddau iechyd neu gleifion sydd â digon o incwm ar gael i dalu am ofal iechyd preifat dros y ffin (yn Lloegr) sy'n gallu ei gael.
Mae angen i ni wneud y canlynol:
- Gwneud yn siŵr fod clefydau awtoimiwnaidd yn flaenoriaeth yn rhaglen waith strategol Rhwydwaith Cyflyrau Cyhyrsgerbydol Gweithrediaeth GIG Cymru, oherwydd mae'r Rhwydwaith hwn yn cynnwys gwasanaethau rhiwmatoleg, sydd fel arfer yn gyfrifol am gleifion â chyflyrau awtoimiwnaidd
- Sicrhau bod Rhwydwaith Iechyd Menywod Cymru Gweithrediaeth GIG Cymru yn defnyddio 'lens iechyd menywod' wrth ddarparu gofal ar gyfer clefydau awtoimiwnaidd, gan mai menywod fydd y rhan fwyaf o'r cleifion
- Annog buddsoddiad mewn ymchwil yng Nghymru er mwyn deall clefydau awtoimiwnaidd yn well a sut mae modd helpu a chefnogi cleifion sy'n byw â nhw
- Gweithio i oresgyn loteri cod post i gleifion fel nad yw bod yn y bwrdd 'anghywir' yn golygu nad ydych chi'n gallu cael y gofal arbenigol angenrheidiol, hyd yn oed os yw hynny'n golygu bod eich bwrdd iechyd chi yn gorfod eich helpu chi i deithio
- Gwneud yn siŵr fod gofal da ar gael yn nes at adref, yn ogystal â chanolfannau rhagoriaeth arbenigol, fel bod cleifion sy'n byw â chyflyrau awtoimiwnaidd ymhell oddi wrth arbenigwyr yn gallu cael eu monitro a'u cefnogi rhwng apwyntiadau arbenigol
- Gwneud yn siŵr fod pob claf sy'n byw â chlefyd awtoimiwnaidd wedi'i ddiagnosio, neu'n amau bod un arnynt, yn gallu cael gwybodaeth o ansawdd da sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a chymorth gan gymheiriaid.
Ein hyrwyddwr Wendy D

"Yr hyn sy'n fy ngyrru ydy'r teimlad llethol o rwystredigaeth a dicter, o anghyfiawnder, at y ffaith fod cleifion lwpws yn Lloegr yn gallu gofyn am gael eu gweld gan arbenigwr lwpws neu fynd i Ganolfan Ragoriaeth Lupus UK sydd gan y GIG, ac mae ganddyn nhw hawl i gael ail farn. Eu dewis nhw ydy hynny.
Yn y cyfamser, yma yng Nghymru, does gennym ni ddim hawl i ail farn gan arbenigwr o'n dewis ni a dydy'r system ddim yn mynd ati, fel mater o drefn, i ddefnyddio canolfan arbenigol nac yn caniatáu i ni ddefnyddio un.
Dyna pam rydw i'n ymgyrchu gydag FTWW."
Beth rydym ni wedi llwyddo i'w wneud?
Rydym ni'n gwneud gweithgareddau ymgyrchu helaeth i wella bywydau pobl sy'n byw â chyflyrau awtoimiwnaidd. Dyma rai o'n llwyddiannau isod:
Rydym ni'n codi ymwybyddiaeth drwy ddigwyddiadau, y cyfryngau, hyfforddiant a chodi arian
- Rydym ni'n cael sylw ar y cyfryngau cenedlaethol i'r materion sy'n wynebu cleifion awtoimiwnaidd yng Nghymru
- Rydym ni'n hwyluso pethau er mwyn i gleifion awtoimiwnaidd fynychu digwyddiadau a chynadleddau cenedlaethol, lle byddant yn cael y cyfle i rannu eu storïau a'u harbenigedd.
Rydym ni'n cymryd rhan mewn ymgyngoriadau, byrddau cynghori a gwaith cyd-gynhyrchu gofal iechyd
- Rydym ni wedi sicrhau bod profiadau cleifion awtoimiwnaidd wedi ymddangos mewn ymatebion i Ymchwiliadau'r Senedd, megis 'Effaith Rhestrau Aros y GIG' a 'Cefnogi Cleifion â Chyflyrau Cronig', ac ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ar bynciau fel 'Gweithio i Wella' a 'Dyletswydd Ansawdd'
- Rydym ni wedi cynnwys tystiolaeth am gyflyrau awtoimiwnaidd ac argymhellion yn adroddiad Cynghrair Iechyd Menywod 2022
- Rydym ni wedi helpu i hwyluso cyfarfodydd a grwpiau ffocws gyda Llais, y corff eiriolaeth statudol annibynnol ar gyfer cleifion yng Nghymru, i'w gwneud yn ymwybodol o fylchau mewn gwasanaethau i gleifion ledled Cymru sydd â chlefydau awtoimiwnaidd
- Rydym ni wedi cyflwyno tystiolaeth am gyflyrau awtoimiwnaidd ac iechyd menywod i Ddatganiad Ansawdd a Chynllun Rhwydwaith Cyhyrsgrebydol Gweithrediaeth GIG Cymru
- Rydym ni wedi parhau i wneud yn siŵr fod clefydau awtoimiwnaidd yn cael sylw yng Nghynllun Iechyd Menywod GIG Cymru ac ymchwil cysylltiedig yng Nghymru
Rydym ni'n ymwneud yn uniongyrchol â llunwyr polisïau ac ymchwilwyr
- Rydym ni wedi cyhoeddi adroddiad dan arweiniad cleifion ar gyfer Cymru gyfan ynglŷn â gwella gofal a gwasanaethau i gleifion â chlefydau awtoimiwnaidd fel lwpws, ac rydym ni wedi'i ddosbarthu i Brif Weithredwyr pob bwrdd iechyd yng Nghymru
Newyddion a blogiau cysylltiedig
CEDAR yn cyhoeddi Gwasanaeth Lwpws GIG Cymru
FTWW and Volunteer Autoimmune Champion, Dalila, is cited in this groundbreaking report which sought to bring together the experiences of both patients living with lupus and the clinicians supporting them.
Experts call for urgent mental health support for people living with long term autoimmune diseases
A new study has highlighted the shocking mismatch of clinician and patients experiences of neurological and mental health issues in people with autoimmune rheumatological conditions. More than half of patients with auto-immune conditions experience mental health...
FTWW Responds to Health Minister’s Comments on Lupus Report
On Wednesday 3rd November, Mark Isherwood MS submitted a plenary question to the Senedd asking "How is the Welsh Government supporting people with autoimmune diseases?" (OQ57098). Mr Isherwood, who is Chair of the Cross Party Group (CPG) for Disability, followed up...
Storïau am glefyd awtoimiwnaidd
Eiriol drosoch chi eich hun neu dros rywun arall
Mae llawer o fenywod yn ei chael hi'n anodd trafod materion iechyd a chwilio am gymorth, hyd yn oed os yw'r materion iechyd yn cael effaith fawr ar eu bywydau.
Rydym ni'n gweithio gyda'n cymuned i ddatblygu adnoddau ac awgrymiadau i helpu menywod i godi llais, a darparu arweiniad i bobl sydd eisiau cefnogi eu hanwyliaid, ffrindiau, cydweithwyr neu gleifion sy'n byw â chyflyrau iechyd.
Dolenni a dogfennau defnyddiol
Taflen ddwyieithog FTWW ar Clefydau awtoimiwnaidd
Mae'r daflen hon yn rhoi trosolwg o'n gwaith yn y maes hwn a pham mae ei angen
Making the Case for Better Lupus and Rare Auto-Immune Disease Provision for Patients in Wales (2021) (Saesneg ar unig)
Darllenwch yr adroddiad hwn gan FTWW
Iechyd Menywod Cymru: Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Menywod, Merched a'r Rhai a Bennwyd yn Fenywod ar adeg eu geni 2022
Darllenwch fwy am argymhellion i Lywodraeth Cymru yn yr adroddiad hwn gan gynghrair #IechydMenywodCymru
