Stori Wendy
Fel cymaint o rai eraill sydd wedi cael diagnosis o lwpws, mae fy nhaith i wedi bod yn anodd iawn, yn un hir ac wedi rhoi straen emosiynol. Ym mis Tachwedd 2013, cefais ddiagnosis anghywir, ond o edrych yn ôl gallaf weld bod arwyddion rhybuddiol pan oeddwn i yn fy arddegau.
Er gwaethaf triniaeth ar gyfer y cyflwr oedd wedi cael ei gamddiagnosio, roedd y symptomau'n parhau ac fe ddechreuais i gwestiynu fy niagnosis yn swyddogol. Gofynnais am gael ey atgyfeirio at Ganolfan Ragoriaeth Lupus Uk y GIG, a chafodd fy nghais ei wrthod. Fe wnest i gwyno wrth fy Aelod Seneddol ac yna fe wnes i gwrdd á dau uwch reolwr o fy Mwrdd Iechyd i gyflwyno fy achos. Serch hynny, bythefnos yn ddiweddarach, cefais e-bost yn dweud nad oedd angen gofal arbenigol ar gyfer lwpws a bod fy rhiwmatolegydd lleol yn gwbl alluog i ddiagnosio a fy nhrin.
Yr adeg honno, roeddwn i'n meddwl, yn ddiniwed, y byddai ambell lythyr at fy Aelod Seneddol a fy mwrdd iechyd yn ddigon i newid y system. Gallwn i gael fy atgyfeirio at Ganolfan Ragoriaeth y GIG (pob un yn Lloegr) a byddwn i'n cael y driniaeth angenrheidiol ar gyfer fy symptomau, oedd yn gwaethygu. Wyddwn i ddim y byddai hyn yn troi'n ymgyrch y mae llawer ohonom yn dal i'w brwydro, gyda llawer o gleifion yn dal heb fod yn gallu cael y gofal arbenigol sydd ei angen arnynt drwy'r GIG yng Nghymru.
Rwy'n talu i weld arbenigwr lwpws yn breifat, mewn ysbyty preifat arbenigol ar gyfer lwpws yn Llundain, ac rwy'n gwneud hynny ers 2017. Yn fy apwyntiad cyntaf, ar ól awr o ofyn cwestiynau i mi a gwrando ar fy atebion, edrych ar ganlyniadau fy mrofion gwaed ac archwiliad corfforol, fe wnaeth yr arbenigwr lwpws fgadarnhau bod gen i lwpws systemig ac mai dyna oedd gen i wedi bod yr holl amser. Yn hytrach na fy niystyru i a fy symptomau, mae'n gwrando. Mae wedi cynyddu fy meddyginiaeth, sy'n golyfu fy mod yn teimlo bod fy lwpws wedi cael ei reoi'n well nag a fyddai fel arall. Yn ddiweddar, rydw i wedi cael diagnosis o fethiant y galon a nawr rhaid i mi wynebu'r her newydd o sefydlogi hyn, a fy lwpws, gyda mwy o feddyginiaeth yn cael ei hychwanegu at fy nghynllun triniaeth. Mae'n bosibl y bydd angen i mi gael biopsi ar fy nghalon hefyd. Mae lwpws yn annisgwyl iawn!
Mae'n anodd meddwl fy mod wedi gorfod brwydro mor galed i gael fy nhrin ar gyfer fy symptomau a bod yr holl apwyntiadau gyda Rhiwmatoleg y GIG wedi gwneud i mi deiimlo nad oes neb yn gwrando arnaf. Mae'n anodd meddwl nad oeddwn i'n wastad yn ymdopi'n dda yn y blynyddoedd cynnar oherwydd fy symptomau. Doeddwn i ddim wastad yn golchi'r dillad, nac yn gwneud y gwaith tŷ ac weithiau bydden ni'n cael tecawé yn amlach nag y byddwn i eisiau oherwydd doedd gen i ddim yr egni i godi o'r gwely a choginio pryd o fwyd. Roeddwn i'n cysgu llawer. Roeddwn i'n anobeithio am y sefyllfa felly estynnais allan at bobl eraill wrth i mi sylweddoli bod rhai eraill yn gorfod bod mewn sefyllfa debyg, yn teimlo bod eu bywydau'n mynd heibio a bod angen rhagor o help arnyn nhw.
Mae llawer o gleifion lwpws (a chlefydau awtoimiwnaidd eraill) yng Nghymru, sy'n teimlo nad oes neb yn gwrando arnynt, bod eu symptomau'n cael eu diystyru, bod eu diagnosis yn cael ei gymryd yn ysgafn, a dydy llawer ohonynt ddim yn cael ansawdd bywyd da. Mae gen i fwy na chwe deg o aelodau yn fy ngrŵp cymorth ar gyfer lwpws yn Sir Benfro a Sir Gaerfyddin, ac mae angen gofal a thriniaeth well ar gyfer llawer ohonynt. Mae angen i GIG Cymru a Llywodraeth Cymru dderbyn bod lwpws yn salwch cronig sy'n cyfyngu ar fywyd ac yn byrhau bywyd. Yr oedran marw cyfartalog yw 53.7 oed. Mae angen i gleifion lwpws yng Nghymru gael mynediad at ofal a thriniaeth arbenigol i newid bywydau.
Rwy'n falch o fod wedi gweithio gyda FTWW ar yr adroddiad ar gyflwyno'r achos dros ddarpariaeth well ar gyfer lwpws a chlefydau awtoiminaidd i gleifion yng Nghymru, i fod yn rhan o gyfraniad LUPUS UK at Gynghraid Iechyd Menywod Cymru, ac i barhau i ymgyrchu dros driniaeth a gofal ar gyfer lwpws a chlefydau awtoimiwnaidd yng Nghymru.
Rwyf hefyd yn parhau i redeg Grwpiau Cymorth Lwpws Sir Benfro a Sir Gaerfyddin, ac erbyn hyn rwy'n Ymddiriedolwr ac Is-gadeirydd LUPUS UK.
