Colli beichiogrwydd

Gwyddom fod colli beichiogrwydd – a elwir hefyd yn gamesgoriad ac yn 'ail gamesgoriad' os yw'n digwydd mwy nag unwaith – yn fater a ddylai gael blaenoriaeth i lawer o aelodau o'n cymuned.

Rydym ni wrthi'n casglu gwybodaeth am y mater iechyd hwn. Os ydych chi eisiau cyfrannu at hyn, neu rannu eich stori, cysylltwch â ni.

Yn y cyfamser, roedd FTWW wedi cyhoeddi adroddiad dan arweiniad y gymuned ar y pwnc hwn yn 2018 ac roedd aelodau o'r mudiad wedi cyfrannu'n helaeth ato. Mae'r adroddiad yn nodi pa newidiadau ddylai ddigwydd i wella gofal a gwasanaethau i'r rhai y mae colli beichiogrwydd yn effeithio arnynt yng Nghymru. Gallwch chi ei ddarllen isod:

Cyflwyno'r Achos dros Ofal Gwell ar gyfer Camesgoriad yng Nghymru

Mae'r adroddiad yn darparu safbwyntiau defnyddwyr gwasanaethau i GIG Cymru ar ofal ar gyfer camesgoriad yng Nghymru, a sut gellid ei wella i leihau'r niwed sy'n cael ei achosi gan ofal anghyson o ansawdd gwael.

Eisiau cymorth neu gyngor am y mater iechyd hwn?

Mae ein cymuned yn cynnwys pobl sy'n "arbenigwyr drwy brofiad" ar wahanol gyflyrau iechyd. Os oes gennych chi gwestiynau am gyflwr iechyd, sut i gael y gofal sydd ei angen arnoch a pha wasanaethau sydd ar gael i chi yng Nghymru, ymunwch â'n cymuned

Taflen ddwyieithog FTWW ar colli beichiogrwydd

Mae'r daflen hon yn rhoi trosolwg o'n gwaith yn y maes hwn a pham mae ei angen

cyCymraeg