ME (enseffalomyelitis myalgig)
Mae ME (enseffalomyelitis myalgig), a elwir weithiau yn Syndrom Blinder Cronig, yn gyflwr meddygol cronig (hirdymor) cymhleth. Er bod ME yn gallu effeithio ar unrhyw un, menywod yw tua 80% o gleifion ME.
Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am ME, a'n gwaith ni yn y maes hwn.
Mae'r wybodaeth ganlynol yn seiliedig ar y profiadau bywyd a'r blaenoriaethau y mae ein cymuned wedi sôn amdanynt wrthym. Os ydych chi eisiau cyngor iechyd/meddygol, cysylltwch â meddyg teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol. Darllenwch yr ymwadiad meddygol
Beth yw ME (enseffalomyelitis myalgig)
- Ystyr ME (enseffalomyelitis myalgig) yw ymennydd llidus.
- Nid ydym yn gwybod beth sy'n achosi ME, ond mae llawer yn ei gael ar ôl salwch neu feirws.
- Cyn Covid, credid bod dros 250,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig ag ME neu syndrom blinder cronig, ond yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf mae tua 1`miliwn o bobl yn byw ag ME yn y Deyrnas Unedig. Efallai am fod Covid Hir yn gallu troi'n ME i rai cleifion.
- Mae ME yn cael ei rannu'n bedair lefel o ddifrifoldeb, sef ysgafn, canolig, difrifol a difrifol iawn. Bydd tua 25% o gleifion ME yn anabl iawn.
Mae llawer o symptomau ME yn gorgyffwrdd â chyflyrau eraill, felly mae cael diagnosis yn dipyn o her. Y prif ddangosydd o ME yw Anghysur Ôl-Ymdrech (PEM) neu Waethygiad Symptomau Ôl-Ymdrech, sef pan fo symptomau'n gallu gwaethygu i ymateb i'r gweithgarwch meddyliol a chorfforol lleiaf. Weithiau gall y fflamychiadau fod yn barhaol.
Rhai symptomau eraill yw blinder cronig sydd ddim yn gwella ar ôl gorffwys, cwsg anghyson sydd ddim yn adnewyddol, poen gronig, sensitifrwydd i sŵn neu sain, anweithrediad gwybyddol, problemau gyda'r coluddion, symptomau tebyg i'r ffliw, chwarennau wedi chwyddol, a llawer mwy.
Mae sawl damcaniaeth am yr hyn sy'n achosi ME, megis lefelau isel cronig o ymennydd llidus, ond mae angen llawer mwy o ymchwil i'n helpu ni i ddeall beth sy'n achosi ME, yn ogystal â beth yw'r ffyrdd gorau o'i atal, ei drin neu ei iacháu.
Nid oes triniaethau'n bodoli ar hyn o bryd yn benodol ar gyfer ME. Gallai rhai meddyginiaethau a therapïau helpu i reoli'r symptomau, ond bydd pawb yn wahanol i'w gilydd.
Mae Rheoli Egni yn cael ei ystyried yn un o'r ffyrdd gorau o reoli'r symptomau a lefelau egni, er mwyn helpu i osgoi sefyllfa lle mae'r symptomau'n gwaethygu'n sydyn.
Mae rhagor o wybodaeth am ME ar gael ar wefan GIG Cymru yma (saesneg yn unig).
Beth rydym ni'n galw amdano?
Ein nod cyffredinol yw sicrhau bod pobl sy'n byw ag ME yng Nghymru yn gallu cael gafael ar ofal iechyd sy'n ddiogel ac yn cydymffurfio â'r canllawiau clinigol gan NICE (Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Iechyd a Gofal).
Gall fod yn anodd iawn diagnosio ME oherwydd nad oes prawf diagnostig ar gael ar ei gyfer. Felly, mae'n iawn fod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn dilyn Canllawiau NICE i wneud diagnosis, ond gall hyn fod yn anodd pan fo ymwybyddiaeth o'r cyflwr yn parhau'n isel mewn lleoliadau gofal iechyd, ymysg y cleifion eu hunain, ac yn y gymdeithas yn ehangach.
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am y broses ddiagnosio o safbwynt claf ar wefan WAMES yma.
Mae cleifion ledled y DU yn cael trafferth cael mynediad at ofal iechyd priodol oherwydd oedi hir cyn cael diagnosis a mythau am ME sy'n golygu nad yw'n aml yn cael ei gymryd o ddifri neu ei fod yn aml yn cael ei gamddiagnosio. Yng Nghymru, mae diffyg cymorth arbenigol ar gael ar gyfer y cyflwr, sy'n gallu gwneud pethau'n waeth i'r rhai sydd â'r mathau mwyaf difrifol o ME.
Yng Nghymru, , nid yw canllawiau NICE ar y ffyrdd gorau i reoli ME yn cael eu dilyn o reidrwydd
Cafodd y canllawiau eu diweddaru yn 2021, ond nid yw llawer o ddarparwyr gofal iechyd yng Nghymru yn ymwybodol ohonynt, ac nid yw gwasanaethau mewn sefyllfa i ddilyn yr argymhellion.
Nid yw Rhwydwaith Clinigol Niwrolegol GIG Cymru, sy'n goruchwylio'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau niwrolegol yng Nghymru, yn cydnabod y term ME, felly nid yw'r cyflwr yn flaenoriaeth mewn gwasanaethau neu gynlluniau ar gyfer niwroleg.
Ar hyn o bryd, bydd datblygiadau mewn gwasanaethau ledled Cymru ar gyfer ME yn cael eu goruchwylio gan y Rhwydwaith Clinigol Cyhyrsgerbydol, ond mae cleifion ME yn bryderus y gallai hyn arwain at ganolbwyntio fwy ar ymarfer corff, sy'n gallu gwneud symptomau ME yn waeth.
Mae Therapi Ymarfer Graddedig (GET) wedi cael ei dynnu o ganllawiau NICE am fod tystiolaeth wedi dangos ei fod yn niweidiol i lawer o gleifion, gan achosi i'w hiechyd ddirywio rhagor. Serch hynny, mae rhai clinigau a darparwyr gofal iechyd yng Nghymru yn parhau i ganolbwyntio ar GET a Therapi Ymddygiadol Gwybyddol, ac mae hwnnw hefyd wedi cael ei dynnu o ganllawiau NICE.
Ar hyn o bryd, nid oes arbenigwyr ar ME yng Nghymru. Er bod rhai clinigau wrthi'n cael eu sefydlu mewn rhannau o'r wlad, y sefyllfa i gleifion yng Nghymru yw nad ydynt fel arfer yn gallu defnyddio gwasanaethau nad ydynt yn cael eu cynnig yn eu byrddau iechyd eu hunain. Mae hyn yn arwain at loteri cod post annheg.
Gan fod diffyg gofal arbenigol ar gyfer ME yng Nghymru, mae disgwyl gan mwyaf i feddygon teulu reoli'r cyflwr. Serch hynny, mae angen llawer o gymorth cymhleth ar lawer o gleifion. Pan fydd angen eu derbyn i'r ysbyty, mae llawer o gleifion ME yn dweud eu bod yn eu hosgoi am fod amgylchedd ysbyty cyffredin yn gallu ysgogi mwy o symptomau.
Er ei fod wedi cael ei gydnabod fel cyflwr niwrolegol gan Sefydliad Iechyd y Byd ers degawdau, mae cleifion ME ledled y byd, gan gynnwys yng Nghymru, yn parhau i brofi diffyg cefnogaeth a dealltwriaeth. Mae llawer o ddarparwyr gofal iechyd a'r gymdeithas yn ehangach yn parhau i ddiystyru neu gambriodoli'r symptomau fel rhai seicolegol – ac i'w cysylltu â rhyweddau.
Mae angen i ni wneud y canlynol:
- Codi ymwybyddiaeth a chwalu mythau am ME. Fel llawer o gyflyrau cronig eraill, mae ME yn effeithio ar fenywod fel arfer, mae llawer o stereoteipiau rhyweddol am y cyflwr a'r bobl sy'n byw gyda'r cyflwr, megis bod yn 'hysteraidd', 'gorsensitif' neu ddiog. Mae angen i ni weld y camsyniadau hyn yn cael sylw os yw cleifion ME am gael eu trin gyda'r urddas a'r tosturi y maent yn eu haeddu.
- Gofyn i'r Rhwydwaith Clinigol Niwrolegol yng Nghymru gydnabod a mabwysiadu'r term ME, a chymryd cyfrifoldeb dros ddatblygu a goruchwylio gwasanaethau ar gyfer y cyflwr, gan sicrhau bod cleifion yn cael mynediad at ofal priodol.
- Sicrhau bod y GIG yng Nghymru yn mabwysiadu ac yn gweithredu canllawiau NICE ar ME (neu ensephalopathi)/syndrom blinder cronig: diagnosis a rheoli, a gyhoeddwyd yn 2021.
- Datblygu hyfforddiant ar ME i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n cael ei gyd-gynhyrchu â chleifion ac yn cael ei roi ar waith ledled Cymru. Byddai hyn yn sicrhau bod meddygon teulu'n gallu canfod nodweddion nodweddiadol ME a gwneud diagnosis yn brydlon.
- Galw am fynediad at therapi galwedigaethol ar gyfer rheoli ME o ddydd i ddydd i gleifion ME, a hefyd sicrhau bod pob claf ME sy'n gaeth i'w gartref yn cael mynediad fel mater o drefn at nyrsys cymunedol sy'n gallu monitro anghenion cleifion a darparu gofal.
- Mynd i'r afael â loteri cod post systemig yng Nghymru, fel bod cleifion ME yn gallu cael mynediad at arbenigedd ychwanegol lle bynnag y mae.
- Cyd-ddylunio lleoliadau a gwasanaethau ysbyty gyda chleifion ME, fel bod y gofal a gynigir yn fwy diogel ac yn ystyriol o ME. Byddai hyn yn helpu i osgoi ysgogiadau sy'n gallu gwneud symptomau'n waeth ac achosi trawma i gleifion.
- Gweld rhagor o fuddsoddiad yng Nghymru mewn ymchwil i ME, yr hyn sy'n ei achosi, ei symptomau, triniaethau ac iachâd. Dylai ymchwil edrych hefyd ar brofiadau cleifion yng Nghymru, a chanfod eu hanghenion, gyda Llywodraeth Cymru'n ymrwymo i weithredu'r argymhellion.
Ein hyrwyddwr Dee M

Cefais ddiagnosis o ME yn 2019, ar ôl blynyddoedd o symptomau a oedd yn mynd a dod, ac rwyf wedi digalonni ar gyn lleied o ofal iechyd sydd ar gael i gleifion a sut rydym ni'n cael ein camddeall gymaint.
Rwy'n ffodus fy mod i'n dal yn gallu gweithio ychydig oriau'r wythnos a chadw ychydig o annibyniaeth. Mae llawer yn ein cymuned yn rhy wael i eiriol dros y newidiadau angenrheidiol, felly rwy'n ystyried bod cyfrifoldeb arnaf i eiriol ar eu rhan cyhyd ag y mae fy iechyd yn caniatáu i mi wneud hynny.
Rwy'n cynrychioli cleifion ar Gynghrair Iechyd Menywod Cymru, ac rydym wedi partneru â WAMES (Cymdeithas Cefnogi ME a CFS Cymru). Ar ran FTWW, rwy'n parhau i fod mewn cysylltiad â WAMES i sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd dros newid cadarnhaol.
Beth rydym ni wedi llwyddo i'w wneud?
Rydym ni'n gwneud gweithgareddau ymgyrchu helaeth i wella bywydau pobl sy'n byw ag ME. Dyma rai o'n llwyddiannau isod:
Rydym ni'n codi ymwybyddiaeth drwy ddigwyddiadau, y cyfryngau, hyfforddiant a chodi arian
Yn absenoldeb triniaethau meddygol effeithiol neu iachâd, mae rheoli egni yn cael ei ystyried yn un o'n ffyrdd gorau o reoli symptomau ME. Rydym ni'n codi ymwybyddiaeth ymysg ein cymuned ac wedi cynnal dosbarth meistr ar reoli egni gyda Jo Southall, Therapydd Galwedigaethol anabl sy'n cefnogi pobl anabl i ddysgu am reoli egni – beth bynnag ydy'r mater iechyd.
Rydym ni'n cymryd rhan mewn ymgyngoriadau, byrddau cynghori a gwaith cyd-gynhyrchu gofal iechyd
- Rydym ni'n mynd i gyfarfodydd gyda Rhaglen Gofal wedi'i Gynllunio Gweithrediaeth GIG Cymru, lle rydym ni'n cael cyfle i godi ymwybyddiaeth o'r angen am ofal cydgysylltiedig ar gyfer cyflyrau fel ME, a phwysigrwydd bod byrddau iechyd yn casglu data ar Brofiadau a Chanlyniadau Cleifion, er mwyn dysgu rhagor a gwella'r gofal.
- Rydym ni'n cwrdd yn rheolaidd â Thîm Polisi Iechyd Menywod Llywodraeth Cymru a Rhwydwaith Strategol Clinigol ar gyfer Iechyd Menywod GIG Cymru i sicrhau bod ME a chyflyrau tebyg fel Covid Hir yn cael eu blaenoriaethu ar y lefelau uchaf. Byddwn ni'n parhau i gyflwynor' achos dros ddefnyddio lens 'iechyd menywod' gyda chyflyrau fel y rhain, sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni.
Rydym ni'n ymwneud yn uniongyrchol â llunwyr polisïau ac ymchwilwyr
- Fe wnaethom ni sicrhau bod tystiolaeth am ME a Covid Hir, a gyd-gynhyrchwyd gyda WAMES a Covid Hir Cymru, wedi cael sylw yn adroddiad Cynghrair Iechyd Menywod Cymru i Lywodraeth Cymru, cyn cyhoeddi Cynllun Iechyd Menywod 10 mlynedd GIG Cymru.
- Rydym ni'n parhau i gydweithio â WAMES a Covid Hir Cymru fel rhan o Gynghrair Iechyd Menywod Cymru i alw ar Lywodraeth Cymru a GIG Cymru i weithio gyda chleifion ME a sicrhau eu bod yn cael mynediad ar wasanaethau gwell wedi'u cyd-gynhyrchu sy'n diwallu eu hanghenion.
Newyddion a blogiau cysylltiedig
Decode ME
Following the very exciting initial findings from the Decode ME study, which found that people with a Myalgic Encephalomyelitis (ME/CFS) diagnosis have significant genetic differences in their DNA compared to the general population, we were delighted to hear BBC Radio Wales cover the study – and people’s lived experiences – in detail during an episode of The Phone in with Oliver Hides.
ME Voices Wales – save the date!
The first online event to explore ways that people affected by ME in can have a louder voice in Wales is scheduled for Tuesday 13 May at 11 am. If you can’t make that, there will be another chance to join in on Friday 16 May at 6pm.
ME Voices Wales – have your say!
ME Voices Wales is an exciting new project to bring people together so we can listen to each other and work out ways we can communicate about things that are important to us.
Storïau am ME (enseffalomyelitis myalgig)
Eiriol drosoch chi eich hun neu dros rywun arall
Mae llawer o fenywod yn ei chael hi'n anodd trafod materion iechyd a chwilio am gymorth, hyd yn oed os yw'r materion iechyd yn cael effaith fawr ar eu bywydau.
Rydym ni'n gweithio gyda'n cymuned i ddatblygu adnoddau ac awgrymiadau i helpu menywod i godi llais, a darparu arweiniad i bobl sydd eisiau cefnogi eu hanwyliaid, ffrindiau, cydweithwyr neu gleifion sy'n byw â chyflyrau iechyd.
Dolenni a dogfennau defnyddiol
Taflen ddwyieithog FTWW ar ME (enseffalomyelitis myalgig)
Mae'r daflen hon yn rhoi trosolwg o'n gwaith yn y maes hwn a pham mae ei angen
Iechyd Menywod Cymru: Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Menywod, Merched a'r Rhai a Bennwyd yn Fenywod ar adeg eu geni 2022
Darllenwch fwy am argymhellion i Lywodraeth Cymru yn yr adroddiad hwn gan gynghrair #IechydMenywodCymru