An image of FTWW's Engagement Officer, Dee. A woman with short dark hair
Enw: Dee M C
Location: South-East Wales
"Rwy'n aml yn cael fy nhrin fel pe bawn ni'n ddiog a ddim eisiau bod yn iach"

Rwyf wedi byw â blinder cronig ers pan oeddwn yn blentyn. Ochr yn ochr â cheisio gweithio fy ffordd drwy gymdeithas gyfalafol sy'n ein hannog i wthio drwy salwch ac yn ein perswadio i beidio â gorffwys, roedd hyn yn drychineb i fy nghorff. Ar ôl blynyddoedd o boen gronig a blinder gwanychol, cefais ddiagnosis o ME a ffibromyalgia yn y diwedd, ar ôl treulio blynyddoedd yn dioddef asthma cronig, endometriosis, ac adenomyosis.

Rwy'n ceisio peidio â difaru, neu feddwl beth allai fod wedi bod, ond pan wyf yn edrych yn ôl ar fy heriau iechyd mae llawer i rwystredigaeth am y cyfleoedd a gollwyd i ymyrryd ac o bosibl atal fy iechyd rhag bod cynddrwg ag y mae nawr.

Y tro cyntaf i mi fynd at fy meddyg teulu am fy symptomau, cefais ddiagnosis o orbryder ac iselder, a chefais feddyginiaeth gwrth-iselder. Flynyddoedd yn ddiweddarach, byddai meddyg teulu arall yn dweud wrthyf fod fy mod 'dan straen mawr' a dywedodd wrthyf i gau fy nyrnau a'u rhyddhau, cyn gofyn "gwell"? Rwy'n gorfod brwydo am addasiadau rhesymol ac apwyntiadau ar-lein yn y rhan fwyaf o fy ofal iechyd; does neb yn deall sut mae gadael y tŷ i gael apwyntiadau wyneb yn wyneb yn gallu ein gwneud ni'n fwy sâl.

Rwy'n flin ac yn ofnus fod cymaint o brinder gofal iechyd i bobl ag ME.

Mae diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gwirioneddol ymysg pob rhan o gymdeithas – mae'n systemig. Roeddwn i'n gobeithio y byddai llawer o wersi'n cael eu dysgu yn sgil pandemig Covid-19, sydd wedi achosi i gynifer o bobl ddatblygu ME a / neu Covid Hir. Yn anffodus, dydym ni ddim wedi dysgu, ac yn hytrach mae brys i 'fynd yn ôl i normal', a bydd hyn yn gwneud drwg i lawer mwy.

Rwy'n aml yn cael fy nhrin fel pe bawn i'n ddiog a ddim eisiau bod yn iach, yn enwedig os byddaf yn gwrthod 'triniaethau' fel therapi ymarfer corff graddedig. Roeddwn i'n arfer byw bywyd llawn ac egnïol iawn yn y byd Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus ac roeddwn i'n caru hynny. Fe ddes i fwynhau mynd i'r gampfa fel yr oeddwn yn hŷn, gan fynd yno'n aml a chwarae derbi rholio, a byddwn i'n mwynhau reidio beic gyda fy ngŵr. Roeddwn i'n gwirfoddoli yn y lloches gŵn leol ac mynd â'r cŵn am dro. Roeddwn i'n mwynhau coginio prydau o fwyd, darllen ac ysgrifennu. Byddai fy amser hamdden yn cael ei lenwi â mynd i weld teulu a ffrindiau. Erbyn hyn, rwy'n gweithio 15 awr yr wythnos i FTWW ac yn treulio'r rhan fwyaf o fy amser rhydd yn y gwely, yn gorffwys.

Dydw i ddim wedi gallu darllen llyfr ers blwyddyn a mwy, a hyd yma rwyf wedi methu gorffen y nofel y gwnes i ddechrau ei hysgrifennu fel rhan o fy nghwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol.

Rwy'n falch o fod yn anabl ac rwy'n ffodus o fyw bywyd hapus ar y cyfan, ond – fel sawl un arall – byddwn i'n gwneud unrhyw beth i fod yn iach. Erbyn hyn, rwyf wedi mynd drwy fy holl opsiynau.

Rwyf fi a miloedd o rai tebyg i mi yng Nghymru angen i'r Llywodraeth a'r GIG gamu ymlaen a sicrhau ein bod ni'n cael mynediad teg at ofal iechyd priodol.

Eisiau gwybod mwy am ME (enseffalomyelitis myalgig) a beth rydym ni'n ymgyrchu drosto?

cyCymraeg