Taith Bec gyda FTWW

A picture of Bec, wearing a bright orange top, smiling at the camera in front of a wooden panel background.
Name: Bec
Lleoliad: Cymru
Mae bod yn rhan o gymuned FTWW wedi fy helpu i deimlo fy mod i’n cael fy nerbyn, fy neall a’m grymuso.

Rydw i wedi gweithio’n agos gyda FTWW (Triniaeth Deg i Fenywod Cymru) mewn dwy rôl broffesiynol dros y pedair blynedd diwethaf, a thrwy gydol y cyfnod hwnnw rydw i wedi gweld ei fod yn sefydliad eithriadol o feddylgar, tosturiol a chynhwysol. Rydw i wedi helpu i gyfrannu at y Cynllun Iechyd Menywod, sy’n cael ei hyrwyddo gan FTWW. Rydw i hefyd wedi bod yn rhan o’r Gynghrair Iechyd Menywod a grwpiau dilynol fel grŵp gorchwyl a gorffen PROMs.

Yr hyn sy’n gwneud FTWW yn unigryw yw ei fod nid yn unig yn ceisio diwallu anghenion menywod, neu’n gwneud ei orau gyda’r adnoddau sydd ganddo. Mae hefyd yn gwneud i fenywod deimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu gwerthfawrogi, eu gweld a’u clywed a bod y pethau hyn wrth galon popeth y mae’n ei wneud. Mae’n genhadaeth sy’n amlwg ym mhob rhyngweithiad ac sy’n cael ei hadlewyrchu gan bawb sy’n ymwneud â’r sefydliad.

Ar ôl cyfrannu at waith FTWW yn broffesiynol ac fel gwirfoddolwr, gan gynnwys cymryd rhan mewn trafodaethau ynghylch y Cynllun Iechyd Menywod, rydw i wedi gweld yn uniongyrchol pa mor ddwfn yw ei ymrwymiad i wella iechyd a phrofiadau menywod. Mae ei ddull o ymdrin ag iechyd menywod ar sail system gyfan yn wirioneddol ryfeddol ac yn seiliedig ar ofal diffuant i’r menywod y mae’n eu cefnogi. Mae’r ymrwymiad hwnnw’n amlwg ac yn ysbrydoledig.

Gan weithio mewn maes nad yw’n cael ei gynnwys yn draddodiadol ym maes iechyd menywod, gallaf ddweud yn uniongyrchol bod FTWW yn cyflwyno dull cyfannol y dylid ei efelychu. Mae iechyd menywod yn ymwneud â’r corff cyfan ac mae ein profiadau’n cael eu siapio gan ein benywdod, p’un a ydyn ni’n cael ein trin ar gyfer ein hiechyd atgenhedlol neu ar gyfer ein hiechyd anadlol.

Fel menyw awtistig sydd wedi cael diagnosis hwyr, rwy’n gwybod pa mor unig y gall deimlo i lywio drwy fannau sydd heb eu cynllunio gyda phobl niwroamrywiol mewn golwg. Mae FTWW yn wahanol. Mae FTWW yn mynd ati i greu amgylchedd lle mae menywod sy’n wahanol (boed hynny drwy niwroamrywiaeth, anabledd, salwch cronig, neu amgylchiadau eraill) yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu cynnwys a’u parchu. Dydw i erioed wedi teimlo nad oedd gwaith FTWW yn addas i mi, sy’n brofiad prin a phwerus. Mae cyfrannu at fforymau (fel drwy gyfryngau cymdeithasol) a phrosiectau ymchwil am fenywod niwroamrywiol drwy FTWW wedi helpu i gadarnhau fy mod i’n perthyn yma yn llwyr.

Yn bwysicaf oll efallai, mae FTWW yn dilysu pryderon menywod mewn ffordd sy’n rhy aml yn wahanol i brofiadau pobl o ofal iechyd. Mae’n deall bod angen gwrando ar fenywod, eu cynnwys, a’u trin ag urddas, heb iddynt deimlo eu bod yn llai teilwng oherwydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i’w rheolaeth.

Mae bod yn rhan o gymuned FTWW wedi fy helpu i deimlo fy mod i’n cael fy nerbyn, fy neall a’m grymuso. Mae wedi rhoi’r hyder i mi gydnabod bod gen i hawl i gael fy nhrin yn deg a bod fy mhrofiadau’n bwysig. I lawer o fenywod, mae cael cadarnhad bod eu profiadau’n ddilys yn gallu newid eu bywyd, ac mae FTWW yn gwneud hyn i’r carn.

Dyma rai meysydd ymgyrchu...

Menopos

Beth am addysgu a grymuso'r rhai sy'n profi'r menopos? Mae'n fwy na theimlo'n boeth!

Endometriosis

Mae endometriosis yn effeithio ar o leiaf un ymhob deg o fenywod, merched a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni.

Awtoimiwnaidd

Mae menywod bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefydau awtoimiwnedd na dynion.

cyCymraeg