Taith Isabel gyda FTWW

A picture of Isabel, wearing a pink top and glasses smiling in front of a grey background.
Enw: Isabel
Lleoliad: Gogledd Cymru
Mae FTWW wedi rhoi ymdeimlad cryf i mi o berthyn a phwrpas.

Rheolwr Elusennol FTWW ydw i ac rydw i wedi gweithio gyda'r mudiad ers bron i ddwy flynedd. Ochr yn ochr â hyn, rwy'n bencampwr iechyd meddwl amenedigol, ac rydw i’n byw gydag endometriosis a PTSD. Mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar gefnogi cenhadaeth y mudiad i wella gwasanaethau iechyd menywod a lleihau anghydraddoldebau ledled Cymru.

Mewn gwirionedd, dechreuodd fy siwrnai gyda FTWW dros ddeng mlynedd yn ôl, cyn i fi erioed weithio yno. Roeddwn i wedi bod yn byw gyda symptomau endometriosis ers degawd, ond cafodd fy mhryderon eu gwrthod dro ar ôl tro, gyda meddygon yn priodoli fy symptomau i IBS neu broblemau gastroberfeddol cyffredinol.

Ar ôl symud i Ogledd Cymru, fe ges i fy atgyfeirio yn y diwedd i’r adran gynaecolegol. Wrth aros am fy apwyntiad, fe welais i boster am endometriosis, ac ar unwaith, fe wnes i adnabod fy mhrofiad fy hun yn y symptomau a restrwyd. Serch hynny, roeddwn i'n dal i wynebu cyfnod hir o aros am ofal.

Yn annisgwyl, ges i apwyntiad yn Ysbyty Arrowe Park dros y ffin, a fe wnes i ddarganfod yn ddiweddarach ei fod yn rhan o'r gwaith y mae’r bwrdd iechyd yn ei wneud gyda FTWW. Newidiodd yr atgyfeiriad hwn bopeth. Ces i ofal eithriadol, diagnosis o endometriosis cam 4, a ches i ddwy lawdriniaeth gyda chymorth tîm amlddisgyblaethol. Heb yr ymyrraeth hon, does gen i ddim ffordd o wybod pa mor hir y byddwn i wedi gorfod aros na pha lefel o ofal y byddwn i wedi'i dderbyn yn lleol, oherwydd does dim gwasanaeth endometriosis arbenigol yng Ngogledd Cymru.

Yn ddiweddarach, ar ôl genedigaeth fy merch, fe wnes i wynebu heriau pellach. Ces i anaf a arweiniodd at PTSD, gan wneud y broses o ddychwelyd i'r gwaith yn anodd iawn. Ar yr un pryd, cafodd fy merch ifanc broblemau meddygol difrifol a gafodd eu diystyru’n wreiddiol, gan gynnwys torasgwrn y penglog ac adwaith alergaidd. Roeddwn i'n aml yn cael fy labelu fel “mam newydd orbryderus,” a oedd yn destun gofid ac yn dadrymuso.

Yn ystod y cyfnod hwn, dechreuais deimlo bod fy ngwaith yn brin o ystyr, a ches fy ysgogi fwyfwy i greu newid, nid yn unig i fi fy hun a fy merch, ond i fenywod eraill a oedd yn wynebu rhwystrau tebyg ym maes gofal iechyd.

Roeddwn i wedi bod yn dilyn FTWW ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn teimlo’n gryf am eu cenhadaeth. Pan welais hysbyseb am rôl Cydlynydd Elusennol, fe es i amdani a gwneud cais, er gwaetha’r ffaith ei fod yn gontract dros dro. Roeddwn i wrth fy modd yn cael cynnig y rôl.

Fe wnaeth ymuno â FTWW roi ymdeimlad o bwrpas a chyfeiriad i fi ar adeg pan roeddwn ei angen fwyaf. Fe roddodd gyfle i fi sianelu fy mhrofiadau personol i waith ystyrlon sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at wella systemau a chryfhau lleisiau menywod.

Ers ymuno â’r mudiad, rydw i wedi tyfu'n sylweddol o ran hyder. Rydw i'n teimlo'n rymus, yn cael fy ngwerthfawrogi, ac yn wirioneddol falch o'r gwaith rydw i'n ei wneud. Mae bod yn rhan o FTWW nid yn unig wedi fy helpu i ailadeiladu'n broffesiynol ar ôl cyfnod heriol, ond mae hefyd wedi rhoi ymdeimlad cryf o berthyn a phwrpas i fi.

Nawr, rydw i’n teimlo bod fy ngwaith yn cael effaith go iawn. Rydw i’n rhan o dîm sy'n sbarduno newid, yn lleihau anghydraddoldebau, ac yn frwd dros ganlyniadau gwell i fenywod ledled Cymru. Mae fy mhrofiadau bywyd yn cryfhau fy ngwaith, ac rydw i’n gallu defnyddio fy llais i gefnogi eraill a allai fod yn wynebu heriau tebyg.

Heddiw, rydw i’n teimlo’n falch, yn hyderus ac wedi fy ysgogi, gan wybod fy mod i'n helpu i greu dyfodol lle mae menywod yn derbyn y gofal, y ddealltwriaeth, a'r parch maen nhw’n eu haeddu.

Dyma rai meysydd ymgyrchu...

Menopos

Beth am addysgu a grymuso'r rhai sy'n profi'r menopos? Mae'n fwy na theimlo'n boeth!

Endometriosis

Mae endometriosis yn effeithio ar o leiaf un ymhob deg o fenywod, merched a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni.

Awtoimiwnaidd

Mae menywod bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefydau awtoimiwnedd na dynion.

cyCymraeg