Stori Lisa
Pan oeddwn i'n 45 oed, fe wnes i ddechrau profi newidiadau i fy nghylch misol. Fyddwn i ddim yn gweld cylch misol am 3 mis ac ar y pryd roedd hynny'n fy mhlesio mewn ffordd. Roeddwn i'n meddwl tybed fyddai fy mislif yn dod i ben ac roeddwn i'n hapus am y posibilrwydd hwnnw. Nid am fy mod wedi cael mislif arbennig o anodd, ond fe fyddai'n braf peidio â gorfod meddwl mwy amdanyn nhw. Wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen, fe ddechreuodd pethau eraill newid. Fe wnes i sylwi fy mod yn fwy di-hwyl na'r arfer; roeddwn i'n llai goddefgar o faterion bob dydd ac roeddwn i eisiau treulio mwy o amser ar fy mhen fy hun.
Doeddwn i ddim yn gwybod ar y pryd fy mod yn profi symptomau peri-menoposaidd (y cyfnod cyn y menopos, wrth i'r hormonau amrywio). Dechreuais chwysu yn y nos, mynd yn boeth, roedd fy ymennydd yn mynd yn niwlog, roeddwn i'n teimlo pryder, tristwch, colli libido, diffyg canolbwyntio, teimlo na allwn i ymdopi â llawer o bethau yr oeddwn i'n arfer gallu ymdopi â nhw, y wain yn sych, a chrio drwy'r amser. Roeddwn i'n arfer bod yn berson cryf, ond roeddwn i bellach yn orsensitif.
Wrth edrych yn ôl, roeddwn i'n credu mai digwyddiadau llawn straen oedd yn achosi hyn, ond doedd y teimladau o bryder ac iselder yn gwrthod mynd. Yn y cyfamser, daeth fy nghylch misol i ben.
Yn ystod y cyfnod hwn o 4 blynedd, es at fy meddyg teulu yn amlach nag erioed. Yn gyntaf, roedd fy meddyg yn meddwl bod y newidiadau'n digwydd am fy mod wedi cael llawdriniaeth yn ddiweddar, felly es i adref ac aros...ac aros... i'r iselder fynd.
Gan fy mod i'n ffaelu ymdopi â bywyd bob dydd, es i'n ôl at fy meddyg teulu a chael diagnosis o iselder. Roeddwn i wedi cael iselder ar ôl gen 25 mlynedd ynghynt, felly roeddwn i'n meddwl fy mod i'n gwybod sut beth oedd hynny: roedd hyn yn wahanol. Serch hynny, aeth hi ymlaen i ddweud y gallwn i fod yn y peri-menopos a bod llawer o fenywod yn cael budd o gymryd meddyginiaeth at iselder felly roeddwn i'n fodlon rhoi cynnig arnyn nhw. Ar ôl 6 mis, doeddwn i ddim yn teimlo'n well.
Ar yr adeg hon, mae'n anodd peidio â meddwl tybed ydy eich ffrindiau'n profi'r un peth. Sylweddolais nad oedden ni erioed wedi siarad am y mater! Fel menywod proffesiynol, roeddwn i'n meddwl oedden nhw'n peidio â siarad am y menopos am eu bod yn ofni y byddwn i'n eu beirniadu. Fel yr oeddwn innau'n poeni am drafod y mater gyda fy rheolwr llinell, roeddwn innau'n ofni y byddwn i'n cael fy meirniadu fel rhywun nad oedd yn gwybod beth roedd hi'n ei wneud...
Roedd un o fy ffrindiau wedi penderfynu cymryd y llwybr naturiol ac argymhellodd hi lawer o ddulliau gwahanol. Dros y 3 blynedd wedyn, fe gymerais bob un. Roedd rhai yn gweithio am sbel ond yna byddai'r effeithiau cadarnhaol yn diflannu. Yn ystod y cyfnod hwn, dywedodd cydweithiwr wrthyf i fod HRT wedi newid ei bywyd hi, felly gofynnais i fy meddyg teulu am hynny. Rwy'n cofio mynd yn ôl yno 6 mis yn ddiweddaraf – doedd y presgripsiwn hwnnw ddim wedi gweithio i mi ac roeddwn i'n meddwl mai dyna ddiwedd ar hynny. Nid oedd fy meddyg wedi dweud wrthyf ar y pryd fod sawl math o HRT a allai fo wedi gweithio i mi. Treuliais y 6 mis nesaf yn y niwl... eto.
Es ar y we i ddarllen am y menopos ac roeddwn i'n arbennig o ffodus o ddarganfod y Rhwydwaith Cymorth y Menopos. WAW! Nid fi yn unig oedd yn dioddef! Serch hynny, erbyn hyn roedd fy symptomau wedi achosi i mi roi'r gorau i fy swydd a bron â cholli fy mhartner... penderfynais fynd yn ôl at fy meddyg teulu a'r tro hwn rhoddwyd patsys HRT i mi. O fewn 3 wythnos, roeddwn i'n dechrau gweld manteision cadarnhaol.
O ran HRT, y cwbl a wyddwn i oedd y penawdau rai blynyddoedd yn ôl am y risgiau canser y fron (mae'r astudiaethau hynny wedi cael eu hail-archwilio erbyn hyn ac mae'r risgiau'n llawer is nag y credid yn wreiddiol). Roeddwn i'n credu bod HRT yn cael ei roi i fenywod hŷn yn unig, menywod yn eu 60au efallai a'u mislif wedi stopio. Y cwbl a wyddwn i am hyn oedd bod menywod canol oed yn cael pyliau poeth. Allwn i ddim bod wedi camgymryd fwy.
A finnau â chymaint o amser ar fy nwylo roeddwn i'n gallu gwneud llawer o ymchwil am fanteision HRT. Cefais hefyd sgwrs breifat ag arbenigwr ar y menopos, a roddodd ddigon o wybodaeth i mi fynd yn ôl at fy meddyg teulu a mynnu cael cynllun triniaeth o fy newis i. Yna, fe wnes i ddarganfod rhai safbwyntiau syfrdanol a oedd yn dangos prinder gwybodaeth ac arbenigedd gan y gweithwyr meddygol proffesiynol y byddech chi'n disgwyl iddynt fod â'r atebion.
Yna, fe wnes i ddarganfod fy mod yn ddigon ffodus i fyw yn yr unig ardal o Gymru lle mae arbenigwr ar y menopos ar hyn o bryd –sef rhanbarth bwrdd iechyd Aneurin Bevan. Sylweddolais yn sydyn fod llawer o fenywod yn siŵr o fod angen y gwasanaethau hyn –ond yn methu eu defnyddio. Byddai bron i 52% o'r boblogaeth yn mynd drwy'r menopos heb ddim cefnogaeth na chymorth arbenigol.
Un rheswm mawr dros y diffyg gwybodaeth yw nad yw'r menopos yn cael ei drafod yn agored – os o gwbl. Fydda i fyth yn gweld posteri yn fy meddygfa nac yn fy ngweithle; doedd fy ffrindiau byth yn siarad amdano, na fy nheulu. Mae'n ymddangos i mi fod angen i'r menopos beidio â bod yn gyfrinach fudr, ac mae angen i ni fynnu gwell gan y GIG yng Nghymru.
Ymunais ag FTWW i greu deiseb, i gasglu eich storïau, ac i lunio adroddiad ar beth rydym ni ei angen ac yn ei haeddu gan y gwasanaethau iechyd a ninnau wedi talu i mewn iddo am gymaint o'n bywydau. Credwn fod y diffyg gwybodaeth ac arbenigedd ar y menopos yng Nghymru yn annheg ac yn gallu amharu ar ein hiechyd, llesiant a chynhyrchiant.
Mae Lisa yn byw yng Nghasnewydd yn Ne Cymru. Gydag FTWW, mae Lisa'n canolbwyntio ar dynnu sylw at y ffordd y mae angen i iechyd menywod yn ystod y cyfnod hwn o'u bywydau gael ei flaenoriaethu, yn enwedig gan fod mwy a mwy o fenywod yn gweithio a dyletswyddau gofalu ganddynt.

