Stori Molly F
Pan oeddwn i'n 13 oed fe wnaeth i ddechrau ymgyrchu dros degwch y mislif yn fy ysgol, gan lwyddo i gael nwyddau mislif am ddim ar gyfer disgyblion a chodi ymwybyddiaeth o'r anawsterau sy'n wynebu disgyblion pan fyddant ar eu mislif. Cefais i brofiad ofnadwy yn ystod y glasoed a gweld bod mislif trwm a phoenus wedi fy rhoi dan anfantais yn yr ysgol. Pan oeddwn i'n 16 oed, fe wnes i gael gwybod bod y profiadau anodd hyn yn cael eu hachosi gan diwmor ar yr ymennydd, ac fe wnaeth hynny fy sbarduno i ddechrau'r Ymgyrch Caru'r Mislif i fod yn 'chwaer fawr' fel y byddwn i eisiau ei chael i fy nhywys drwy'r symptomau ofnadwy ac i eiriol drostof fy hun pan oedden nhw'n amharu ar fy mywyd.
Mae llawer o gamwybodaeth ar-lein, sef cyfle enfawr i gwmnïau wneud elw, ac ofnau am nwyddau gwenwynig ar gyfer y mislif...mae'n fy nychryn! Mae Caru Mislif yn llwyfan ar gyfer pobl ifanc gan bobl ifanc i rannu'r wybodaeth gywir a bod yn lle diogel, dibynadwy i'w rannu. Hefyd, i gynrychioli pobl ifanc yn y mudiadau iechyd menywod sy'n digwydd ledled Cymru, er mwyn sicrhau newid parhaol i genedlaethau'r dyfodol.
Ewch i dudalen Caru'r Mislif ar instagram i gael rhagor o wybodaeth am ymgyrch Molly.

