Astudiaeth Achos Pecyn Cymorth: Adroddiad Janine ar ofyn am help yn y gweithle.
Dechreuais brofi symptomau mislifoedd trwm, hir a phoenus iawn pan oeddwn yn 12 oed.
Erbyn i mi fynd i weithio mewn amgylchedd corfforaethol ddiwedd y 1990au, roedd fy symptomau’n cynnwys gwaedu a phoen parhaol. Roeddwn i bob amser wedi blino ac yn edrych yn welw.
Wnes i ddim dweud wrth neb beth oedd yn digwydd. Roeddwn i’n teimlo’n gyfrinachgar wrth roi tywelion mislif i fyny fy llawes neu eu rhoi yn fy mhoced i fynd i’r toiled. Roedd fy ngweithle’n ffurfiol iawn, yn strwythuredig ac roeddwn i’n cael fy nghyfarwyddo gan reolwr. Doedd neb yn gwybod sut roeddwn i’n teimlo ac roeddwn i’n teimlo’n ynysig. Ar y pryd, roedd llawer o stigma ynghylch y mislif a ‘phroblemau menywod’. Doedd pobl ddim yn siarad am y mislif yn aml, felly roeddwn i’n dioddef yn dawel.
Dechreuais weithio i’m cyflogwr presennol yn 2006. Ar y pryd, roeddwn i’n cael mwy a mwy o drafferth gyda symptomau a oedd yn dal i gael eu diystyru fel rhai ‘normal’. Roeddwn i’n gwybod nad oedd hyn yn normal ac, erbyn hyn, roedd hi’n dod yn anoddach ymdopi â gwaith o ddydd i ddydd. Doedd neb yn gallu dweud bod unrhyw beth o’i le arna i’n allanol, roeddwn i’n ei guddio.
Yn fuan ar ôl hyn, cefais rôl wahanol a sylwodd fy rheolwr newydd, a oedd yn fenyw, fy mod yn cael trafferth. Roedd hi’n sylwi fy mod i’n dweud drwy’r amser, ‘Rydw i wedi blino, rydw i wedi blino’. Sylwodd fy mod i’n welw, a bod gen i gylchoedd llwyd o dan fy llygaid. Sylwodd fy mod i’n mynd i’r toiled yn aml. Sylwodd hefyd nad oedd gen i unrhyw egni o gwbl. Pan ofynnodd sut oeddwn i, arllwysais fy nghalon a dweud popeth wrthi. Cytunodd nad oedd yr hyn roeddwn i’n ei brofi yn normal a sicrhaodd fi y byddai hi’n fy helpu.
Fe wnaeth hi fy helpu drwy fod yn glust i mi a thrwy wneud yn siŵr fy mod i’n iawn drwy’r amser. Roedd hi’n aml yn gofyn a oedd angen unrhyw beth arna i ac yn gofalu amdana i. Fe wnaeth hi fy helpu drwy sicrhau nad oedd cyfarfodydd yn rhy hir a bod awyr iach yn dod i mewn i’r ystafelloedd cyfarfod. Roedd hi’n fy atgoffa i wneud yn siŵr bod gen i boenladdwyr, patsys poen, digon o dywelion mislif - roedd hi bron yn fy annog i barhau i gefnogi fy hun.
Er bod y gefnogaeth a roddodd i mi yn anhygoel, roedd diwylliant yn y gwaith o hyd nad oedd hyn yn fater i’w drafod yn gyhoeddus.
Yn anffodus, pan oedd fy symptomau ar eu gwaethaf, nid hi oedd fy rheolwr mwyach. Fodd bynnag, roedd hi’n dal i roi cefnogaeth gyson i mi pan oeddwn i’n gwthio’n breifat am fwy o brofion a diagnosis o endometriosis. Fe wnaeth hi fy annog i godi fy llais os oedd angen unrhyw beth arna i.
Yn anffodus, doedd fy rheolwr newydd ddim yn gefnogol. Ar y pwynt hwn, pan oeddwn ar fy mislif, byddwn yn gwaedu’n gyson ac weithiau, pan oedd ar ei waethaf, byddwn yn mynd drwy dywel mislif bob rhyw 20 munud. Roedd y ddesg yr oeddwn yn eistedd wrthi ar y pryd yn union yn y canol, rhwng y ddwy set o doiledau. Roedd yn golygu nad oedd ots i ba doiled roeddwn i’n mynd, hyd yn oed pe bawn i’n mynd i’r toiledau am yn ail, roeddwn i’n mynd i gael fy ngweld, ac roeddwn yn tynnu sylw pobl at y ffaith nad oeddwn i wrth fy nesg.
Un diwrnod, tra roeddwn i yn y gwaith, cefais brofiad ofnadwy. Roeddwn i ar fy mislif ac yn gwaedu drwy’r amser. Oherwydd nad oeddwn i’n gallu bod i ffwrdd o fy nesg, roedd yn rhaid i mi ddal ati i weithio. Y tro hwn roeddwn i wedi’i adael yn rhy hir ac roeddwn i wedi gwaedu’n eithaf trwm, i’r graddau fy mod i’n teimlo’n fudr. Roeddwn i’n gwybod bod angen i mi ymolchi. Roeddwn i wedi gwaedu drwy fy nillad isaf a’m trowsus. Roeddwn i hyd yn oed wedi gadael ôl ar y gadair yn y swyddfa.
Oherwydd profiadau blaenorol, roeddwn i’n cadw cyflenwadau fel weips gwlyb, padiau ychwanegol, dillad isaf glân ac ati yn fy nghar. Y cyfan yr oedd angen i mi ei wneud oedd mynd i ymolchi. Felly, gofynnais i fy rheolwr newydd a allwn i fynd i fy nghar a threulio ychydig amser yn glanhau fy hun. Esboniais pam, gan feddwl y byddai hi’n fy nghefnogi, ond gwrthododd. Doedd hi ddim yn gadael i mi fynd. Yn hytrach, gwnaeth i mi aros yn y gwaith tan ddiwedd y dydd. Roedd hyn wedi digwydd yn y bore ac roedd gen i tan 4:00pm ar ôl yn y gwaith. Felly, fe wnes i eistedd wrth fy nesg, a bu’n rhaid i mi aros felly drwy’r dydd. Arhosais yn y gwaith a dioddef. Roedd pobl o’m cwmpas yn gwybod beth oedd wedi digwydd. Doedd neb yn gas am y peth, ond eisteddodd pawb yn ddistaw am weddill y dydd. Ni wnaeth fy rheolwr fy nhrin ag urddas o gwbl!
Fodd bynnag, mae pethau wedi newid cymaint ers hynny - er gwell. Mae sgyrsiau agored bellach yn cael eu hannog, rydw i’n cael fy nghyfeirio’n rheolaidd at gefnogaeth ac mae cymorth iechyd galwedigaethol yn cael ei ddarparu, gyda’r ffocws ar yr hyn y gellir ei wneud i’m helpu.
Pan ddychwelais i’r gwaith yn dilyn fy niagnosis swyddogol a’m hadferiad heriol, cefais fy atgyfeirio at iechyd galwedigaethol yn unol â’r polisi safonol. Ar ôl i’r adroddiad ddod i law, galwodd fy Mhennaeth Gwasanaeth i i’r swyddfa i gydnabod cynnwys yr adroddiad. Yn bennaf, roedd eisiau gofyn i mi beth allai ef ei wneud i fy nghefnogi.
Roedd hyn yn meddwl y byd i mi oherwydd bod cymorth cyffredinol y tu allan i’w gylch gwaith arferol. Dywedais wrtho fy mod yn treulio’r rhan fwyaf o’r penwythnos yn y gwely oherwydd blinder cronig ar ôl gweithio a chymudo. Mewn ymateb, dywedodd wrtha i am weithio gartref ar ddydd Gwener. Pan ddywedodd aelod o staff (iechyd galwedigaethol) wrtha i am ddod i’r swyddfa, daeth i wybod ac roedd mor flin!
Fe wnaeth fy annog i fynd i sesiynau grŵp cymorth rheolaidd, hyd yn oed yn ystod oriau gwaith, tra oeddwn i’n brwydro i gael diagnosis. Byddai bob amser yn gofyn sut roedd pethau wedi mynd. Dywedodd hefyd fod ei wraig wedi dod o hyd i rywfaint o wybodaeth ar-lein a’i fod yn ceisio addysgu ei hun.
Roedd y gefnogaeth hon wedi rhaeadru drwy’r tîm, a dyma’r gefnogaeth fwyaf roeddwn i erioed wedi’i chael. Roedden nhw’n holi sut oeddwn i drwy’r amser heb fy mygu na rhoi pwysau arna i. Fe wnaethon nhw hyd yn oed fy annog i gyfrannu at erthygl ar gyfer wythnos ymwybyddiaeth endometriosis.
Rhoddodd grwpiau cymorth lleol yr hyder i mi godi fy llais ac esbonio’n glir beth oedd ei angen arna i o ran cefnogaeth, pam roedd ei hangen arna i a beth allen nhw ei wneud i fy helpu. Rydw i wedi gallu cefnogi eraill, gan dynnu sylw hefyd at y ffaith bod ‘addasiadau rhesymol’ yn golygu mwy na dim ond cael cadair gyfforddus yn y swyddfa. Gall addasiadau rhesymol fod ar sawl ffurf.
Er bod gen i fwy o hyder i leisio fy marn nawr a chael y cymorth sydd ei angen arna i, rwy’n ymwybodol bod llawer o gydweithwyr eraill yn ei chael hi’n anodd. Hyd yn oed nawr, bron i 5 mlynedd ar ôl fy erthygl ar endometriosis, mae cydweithwyr yn dal i gysylltu â mi i ddweud bod ganddynt endometriosis, llawer ohonynt yn ei chael hi’n anodd neu’n adnabod rhywun sy’n ei chael hi’n anodd. Byddwn bob amser yn annog pobl eraill i ofyn am gymorth, ac nid o reidrwydd eu rheolwr llinell uniongyrchol - gall fod yn gydweithiwr dibynadwy. Gan eich bod yn debygol o’i chael hi’n anodd yn barod, cymerwch unrhyw gymorth y gallwch chi.
Dyma fy nhri phrif awgrym ar gyfer darllenwyr:
- Deall bod addasiadau rhesymol yn fwy na dim ond cadair - mae sawl math o addasiad ar gael.
- Mae pawb yn wahanol, felly byddwch mor agored a gonest ag y gallwch o ran y cymorth sydd ei angen arnoch. Os nad yw pobl yn gwybod beth rydych chi’n mynd drwyddo, dydyn nhw ddim yn gallu helpu.
- Defnyddiwch grwpiau cymorth y tu allan i’r gweithle i greu rhwydwaith cymorth ehangach.
Mae’r stori hon yn rhan o Becyn Cymorth Hunan eiriolaeth Mae Fy Llais yn Cyfrif FTWW. I ddychwelyd i’r pecyn cymorth cliciwch yma.
Dyma rai meysydd ymgyrchu...
Menopos
Beth am addysgu a grymuso'r rhai sy'n profi'r menopos? Mae'n fwy na theimlo'n boeth!
Endometriosis
Mae endometriosis yn effeithio ar o leiaf un ymhob deg o fenywod, merched a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni.
Awtoimiwnaidd
Mae menywod bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefydau awtoimiwnedd na dynion.
