Yn arwain yr ymgyrch dros degwch iechyd
Triniaeth Deg i Fenywod Cymru yw’r unig elusen yng Nghymru sy’n cael ei arwain gan gleifion ar gyfer tegwch iechyd i fenywod, merched a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni, gan gefnogi ac eiriol dros fenywod yng Nghymru.
Yn arwain yr ymgyrch dros degwch iechyd
Triniaeth Deg i Fenywod Cymru yw'r unig elusen sy'n cael ei harwain gan gleifion yng Nghymru ar gyfer cydraddoldeb iechyd i fenywod, gan gefnogi ac eiriol dros fenywod yng Nghymru.

Angen cymorth gyda'ch iechyd?
Os ydych chi'n teimlo ar eich pen eich hun, a ddim yn siŵr pa gamau i'w cymryd nesaf, neu'n cael trafferth cael neb i wrando arnoch, efallai y gallwn ni helpu...
Eisiau gwella gofal iechyd yng Nghymru?
Os ydych chi'n darparu gofal iechyd, yn gwneud gwaith ymchwil, neu'n glaf neu ymgyrchoedd sydd eisiau gwybod mwy...
Ein gwaith yng Nghymru
Gwybodaeth
Rydym ni'n darparu gwybodaeth am faterion iechyd i helpu pobl i gael y gofal iechyd cywir a herio triniaeth annheg. Rydym ni'n hefyd yn casglu profiadau a blaenoriaethau ein haelodau a'n buddiolwyr mewn adroddiadau.
Grymuso
Mae ein cymuned gynyddol o 10,000 a mwy o bobl yn cynnwys menywod, pobl anneuaidd, pobl draws a phobl ryngryw. Rydym ni'n lleihau'r teimlad o fod ar wahân, ac yn darparu lle diogel i aelodau rannu eu profiadau a'u doethineb er mwyn helpu pobl eraill.
Eiriolaeth
Rydym ni'n trefnu i'r rhai sy'n llunio polisïau, darparwyr gwasanaethau ac ymchwilwyr i ddod at gleifion sy'n 'arbenigwyr drwy brofiad'. Mae hyn yn sicrhau bod lleisiau benywaidd yn cael eu clywed a'u bod yn dylanwadu ar newid cadarnhaol i bolisïau iechyd a pholisïau cyhoeddus, a'r ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu dylunio a'u darparu.
Gwasanaethau a hyfforddiant
Rydym ni'n rhoi sgyrsiau a chyflwyniadau ar brofiad bywyd amrywiaeth eang o gyflyrau iechyd corfforol a meddyliol i fusnesau a sefydliadau yng Nghymru
Y cyhoedd yn cymryd rhan ac yn cyd-gynhyrchu
Ydych chi eisiau gweithio gyda ni neu ymgysylltu a dysgu gan ein cymuned drwy grwpiau ffocws, arolygon neu ffyrdd tebyg?
Iechyd Menywod Cymru
Mae FTWW yn gyd-gadeirydd Cynghrair #IechydMenywodCymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r flaenoriaeth i ofal iechyd menywod
Dyma rai meysydd ymgyrchu...
Menopos
Beth am addysgu a grymuso'r rhai sy'n profi'r menopos? Mae'n fwy na theimlo'n boeth!
Endometriosis
Mae endometriosis yn effeithio ar o leiaf un ymhob deg o fenywod, merched a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni.
Awtoimiwnaidd
Mae menywod bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefydau awtoimiwnedd na dynion.
Newyddion a blogiau
Siapio Dyfodol Cymorth Menopos yng Nghymru
We were thrilled to attend the South Wales Menopause Community - MENOPT Event: ‘Shaping the Future of Menopause Support in Wales’ at the Senedd. Organised by Louise Herzog (Founder of MENOPT) and sponsored by Natasha Asghar MS, the event launched the South Wales...
Agor Uned Iechyd Meddwl Arbenigol i Famau a Babanod
Long-time followers of FTWW will be aware that perinatal mental health is one of our campaign areas, led by our Champion, Nia, whose own experiences of postpartum psychosis led her to campaign for a unit close to home with Welsh language provision. We’re delighted to...
Nodi Mis Hanes Anabledd
December was Disability History Month, which saw a number of landmark events to mark the achievements of disabled people – and to keep the fight for disabled people’s rights at the forefront. The Welsh Government’s Disabled People’s Rights Action Plan was published,...
Storïau gan ein cymuned
Ymunwch â'n cenhadaeth i gael gwared ar anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Beth am wirfoddoli, cyfrannu, eirioli?


