Stori Heidi D

Enw Heidi D
Lleoliad:
"Dwi eisiau i bobl wrando arna’i, fy nghymryd i o ddifri, ac ateb fy nghwestiynau"

Dwi’n byw mewn poen ers 25 mlynedd, a dwi wedi gorfod dysgu byw â hynny. Mewn ffordd, mae byw mewn poen yn rhywbeth arferol i mi. Dwi’n gwybod fy mod i’n cael fy niystyru gan bobl fyddai’n cymryd diwrnod i ffwrdd o’r gwaith petaent mewn hanner cymaint o boen, ond mae’n rhaid i mi fod yn gryf a dal ati. Dwi’n teimlo fel petai esgus yn cael ei roi ar gyfer pob poen mae menywod yn ei chael, ‘poenau tyfu’, ‘glasoed’, ‘straen’, neu’r ‘menopos’. Mae'r ffaith bod pobl yn disgwyl i fenywod fyw â phoen gronig yn fy ngwneud i’n gandryll, ac mae'n waeth byth bod peidio â gwneud hynny yn eich gwneud chi’n berson ‘anodd’ sy’n rhy barod i fynegi eich barn.

Dydw i ddim yn berson fyddai’n mynd at y meddyg teulu heb reswm, a dwi bob tro’n meddwl cyn mynd, oes yna rywbeth alla’i ei wneud i wella’r sefyllfa gyntaf? Dwi’n gweithio llawn amser, dydw i ddim eisiau gorfod cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith i fynd i apwyntiad gyda’r meddyg, a dydw i’n sicr ddim eisiau gwastraffu fy amser y tu allan i’r gwaith yn swyddfa’r meddyg teulu. Mae gen i bethau gwell i’w gwneud gyda fy amser. Os oes angen i mi fynd at y meddyg teulu, dwi’n mynd â fy mhartner gyda mi oherwydd fy mod i’n teimlo bod y meddyg yn fwy tebygol o fy nghymryd i o ddifri pan mae yna ddyn gyda mi yn cadarnhau fy mod i’n dweud y gwir.

Mae ‘dibwyllo meddygol’ wedi gwneud i mi gwestiynu fy hun a fy symptomau, er bod gen i ddigon o dystiolaeth i brofi bod yr hyn dwi’n ei ddweud yn wir. 

Mae fy mhartner wedi erfyn arna’i i adael iddo fynd â fi i’r Adran Achosion Brys yn yr Ysbyty ar fwy nag un achlysur pan dwi wedi bod mewn poen difrifol, ond dwi bob tro’n gwrthod. Mae’n well gen i ddioddef y boen adref na gorfod cael pobl yn cwestiynu pa mor ddifrifol yw’r boen a gwneud i mi feddwl fy mod i’n wallgof.

Dwi eisiau i bobl wrando arna’i, fy nghymryd i o ddifri, ac ateb fy nghwestiynau er mwyn i mi gael rhyw fath o syniad o’r sefyllfa. Efallai y byddai hynny’n ei gwneud hi’n haws i mi reoli’r boen. Mae FTWW wedi rhoi cymaint o gefnogaeth i mi yn hyn o beth, ac maent wedi dangos i mi nad ydw i ar fy mhen fy hun. Dwi’n rhannu fy stori yn y gobaith y bydd hyn yn helpu menywod eraill sydd yn yr un sefyllfa.

 

 

Dyma rai meysydd ymgyrchu...

Menopos

Beth am addysgu a grymuso'r rhai sy'n profi'r menopos? Mae'n fwy na theimlo'n boeth!

Endometriosis

Mae endometriosis yn effeithio ar o leiaf un ymhob deg o fenywod, merched a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni.

Awtoimiwnaidd

Mae menywod bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefydau awtoimiwnedd na dynion.

cyCymraeg