Stori Gemma
Rydw i wedi cael trafferth gydag endometriosis ers dros 30 mlynedd. Rydw i wedi bod yn mynd i’m hadran damweiniau ac achosion brys leol gyda phoen eithafol, salwch a gwaedu trwm ers fy mod i’n 13 oed. Ces i fy niystyru gan nyrsys a meddygon, nad oedd yn fy nghymryd i o ddifrif.
Dros y blynyddoedd, collais amser yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol ac roeddwn i’n ei chael hi’n anodd cadw swyddi. Rhoddodd y meddyg teulu fi ar wahanol fathau o bils atal cenhedlu i geisio rheoli fy symptomau ond, tra ’mod i yn y brifysgol, roeddwn i’n cael fy nerbyn i'r ysbyty’n rheolaidd oherwydd eu difrifoldeb.
Wedi cael fy nerbyn i’r ysbyty un tro, gwnaeth gynaecolegydd awgrymu endometriosis, a chefais fy atgyfeirio am laparosgopi. Y diwrnod ar ôl i mi raddio, cefais fy niagnosis o endometriosis, ar ôl 7 mlynedd o ddioddef a brwydro yn erbyn gweithwyr iechyd proffesiynol. Esboniodd y meddyg ymgynghorol fod fy endometriosis mor sylweddol fel nad oedd modd iddyn nhw ei dynnu’n llawfeddygol, felly cefais fy rhyddhau.
Ar ôl gadael y brifysgol a dychwelyd adref, doedd gen i ddim syniad am yr opsiynau triniaeth a oedd ar gael i'm helpu i reoli symptomau a byw gyda'r cyflwr. Trwy gefnogaeth FTWW, dysgais am Ganolfannau Endometriosis Arbenigol BSGE (y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Endosgopi Gynaecolegol), nad oedd neb erioed wedi sôn amdanyn nhw o'r blaen, gan gynnwys fy meddyg teulu! Fodd bynnag, ni fu’n hawdd cael atgyfeiriad at y ganolfan agosaf a oedd, i mi, yr ochr arall i’r ffin, yn Ysbyty Arrowe Park yng ngogledd-orllewin Lloegr.
Er bod gwybodaeth wedi’i rhoi gan FTWW yn esbonio'r llwybr atgyfeirio, cefais fy niystyru gan fy meddyg teulu a, chan fod fy symptomau’n gwaethygu bob mis, penderfynais dalu am driniaeth breifat. Dim ond ar ôl i’m hendometriosis gael ei gadarnhau fel achos difrifol iawn y bu’n bosibl i mi gael mynediad at ofal arbenigol ar y GIG. Cefais brofiad gwych fel claf yn Arrowe Park, sy'n cynnig triniaeth safon aur ar gyfer y cyflwr, a chefais ddwy lawdriniaeth dorri helaeth o dan eu gofal.
O ganlyniad i wybodaeth a chefnogaeth FTWW, ochr yn ochr â thriniaeth trwy Arrowe Park, rydw i wedi bod yn hynod ffodus i gael IVF a oedd yn llwyddiannus, ac mae gen i ferch sydd bellach yn 5 oed. Fodd bynnag, mae endometriosis yn parhau i effeithio ar bob rhan o’m bywyd, gan fy ngadael gyda chreithiau corfforol, emosiynol a meddyliol. Mae blynyddoedd o boen, a'r feinwe greithiol sydd wedi cronni, wedi golygu fy mod i’n profi symptomau yn y coluddyn bob dydd. Rwy'n cael pyliau o lid y stumog yn rheolaidd ac mae'n rhaid i mi gael amser i ffwrdd o'r gwaith i wella. Gall y feinwe greithiol fewnol fod yn boenus iawn ac mae’n cyfyngu ar fy symudiad. Rydw i hefyd wedi cael diagnosis yn ddiweddar o endometrioma (syst siocled) sy'n gysylltiedig ag endometriosis mwy difrifol.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae FTWW wedi fy helpu gyda chefnogaeth ac adnoddau a’m grymuso ar adegau pan oeddwn i'n teimlo'n unig, yn ddigymorth ac ar goll. Maen nhw’n gymuned sydd bob amser yn cynnig clust i wrando, gan gynnwys fy ngalluogi i rannu fy stori mewn gweminar ar endometriosis gyda chlinigwyr ac Aelodau'r Senedd. Mae dealltwriaeth a gwybodaeth gyfunol FTWW yn amhrisiadwy, ac mae hyn yn sicr wedi newid canlyniad fy nhaith er gwell.
