Stori Anna C
Dechreuodd fy nhaith o boen gronig dros 15 mlynedd yn ôl, ni chafodd ei ddiagnosio am 4 blynedd. Artaith ydy peidio â gwybod beth ydy'r rheswm craidd dros eich poen.
14 oed oeddwn i pan ddechreuodd fy symptomau fod yn gronig, ac erbyn hynny roeddwn i'n cael fy labelu fel 'merch ifanc yn cael poenau tyfu'.
Nid nes i mi gael apendectomi brys y cefais wybod eu bod nhw'n gallu gweld endometriosis ymhob man a bod angen i mi weld arbenigwr. Yn eironig, roeddwn i wedi gweld gynecolegydd cyn y llawdriniaeth hon ac roedd wedi dweud wrthyf fy mod i'n 'iawn' ac mai 'dychmygu'r boen oeddwn i'. Rwy'n ddiolchgar bob dydd i'r llawfeddyg cyffredinol wnaeth dynnu fy mhendics oherwydd hebddo ef, ni fyddai gen i ateb i fy mhoen.
Es ymlaen i weld arbenigwr ar endometriosis (oedd rhaid i mi ei weld yn breifat) a chael diagnosis swyddogol o endometriosis cam 4 a gorfod cael torri'r coluddyn a'r bledren oherwydd maint y clefyd.
Dros y 13 mlynedd wedi hynny rwyf wedi gorfod cael 17 o lawdriniaethau (18 cyn bo hir), byw gyda dau fag stoma o ganlyniad i golli fy ngholuddyn mawr a fy mhledren.
Rwyf yn y menopos gan fy mod wedi gorfod cael hysterectomi llawn, gan gynnwys tynnu fy ofarïau pan nad oeddwn ond yn 29 oed ac rwy'n dal i drio gweithio fy ffordd ar hyd y daith.
Drwy weithio fy ffordd drwy'r mater, sylweddolais yn gyflym fod llawer o bobl eraill yn cael eu 'dibwyllo'n feddygol' ac yn profi oedi cyn cael diagnosis, yn enwedig o endometriosis. Drwy wirfoddoli gydag FTWW ac eiriol ar-lein rwyf wedi cael awydd gwirioneddol i helpu i wella'r dyfodol i'r rhai sy'n dioddef cyflyrau fel endometriosis.
That’s when my best friend Gabz and I had the idea to cofound Menstrual Health Project, which is a UK wide charity registered in Wales in which we create medically backed educational toolkits that are freely accessible to help those navigating conditions like endometriosis. Our main focus as a charity is education and we have delivered educational sessions to 100s of schools across Wales and England to help empower young minds to take control of their menstrual wellbeing. Our focus and aim is to improve menstrual health education in all schools, especially here in Wales. Educating early is absolutely key to improving the future for those who experience periods. Our motto as a charity is – collaboration over competition, and we stand by working closely with other organisations such as FTWW in order to reach our end goal of a better healthcare and educational system for women and those assigned female at birth.
