Illustrated text reads "Drawing Out Long-Term Health Issues" with abstract sketches and "FTWW" logo.Bydd yr FTWW a’n ffrindiau ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnal dau weithdy a fydd yn rhoi cyfle i bobl Ddarlunio Problemau Iechyd Tymor Hir. Rydym ni’n ddiolchgar i’r Loteri Genedlaethol ac i Gronfa Rosa ar gyfer Menywod a Merched am eu cymorth.

Mae’r gweithdai yn agored i fenywod a phobl a bennwyd yn fenywod ar adeg eu geni, sy’n byw neu’n derbyn gofal iechyd yng Nghymru. Bydd y gweithdai hyn yn cynnwys ymarferion darlunio cam wrth gam a fydd yn gyfle i bobl fynegi a rhannu eu teimladau am eu materion iechyd. Gallwch ddarllen mwy am y broses yma. Gallwch ddarllen mwy am y broses yma.

Bydd y ddau weithdy yn cael eu cynnal ar 29 Ebrill (Caerdydd) ac 1 Mai (Conwy). Telir am unrhyw gostau teithio a darperir lluniaeth. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael ac aelodau o gymuned ddigidol yr FTWW sy’n cael blaenoriaeth. Felly, ymunwch â’n cymuned ddigidol er mwyn gwneud cais am le am ddim erbyn dydd Sul 13 Ebrill. Ar ôl i chi ymuno, byddwch chi’n gallu cael gafael ar y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb: FTWW: Fair Treatment for the Women of Wales - Community | Facebook

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom ar admin@ftww.org.uk. admin@ftww.org.uk.

Rydym ni’n edrych ymlaen at eich croesawu!

cyCymraeg