Allen ni ddim cael y cyrhaeddiad na'r effaith sydd gennyn ni heb ein gwirfoddolwyr anhygoel ledled Cymru.
Dyma rai o'r gweithgareddau y mae ein gwirfoddolwyr wedi cymryd rhan ynddynt y mis hwn:
• Rhoi sgwrs i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion ar rôl CBT (therapi gwybyddol ymddygiadol) wrth helpu i reoli symptomau ac effaith y menopos
• Cymryd rhan mewn cynhadledd 2 ddiwrnod ar ymchwil iechyd mislif
• Mynychu Grŵp Seneddol Trawsbleidiol Llywodraeth y DU ar endometriosis
• Ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer trafodaethau am gydgynhyrchu mewn iechyd meddwl
• Rhedeg stondin wybodaeth FTWW yng Ngŵyl Everywoman
Diolch o galon i Wirfoddolwyr FTWW!
Os hoffech chi gymryd rhan mewn gwirfoddoli gydag FTWW, cysylltwch â ni drwy volunteering@ftww.org.uk.