Ymchwil ar y potensial ar gyfer sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol yng Nghymru

Diolchwyd i’n Cadeirydd, Willow, am ei chyfraniad at waith Tasglu Hawliau Anabledd Llywodraeth Cymru, am rannu ei phrofiad bywyd a’i huchelgais i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau, wrth i gamau cyntaf ymchwil i ddatblygu Canolfan Genedlaethol Byw’n Annibynnol gael eu cyhoeddi.

‘Os yw’r Gefnogaeth yn Gywir, Amdani! Mynd i’r afael â’r Bwlch Cyflogaeth Anabledd' - Dadl

Cafodd tystiolaeth a gyflwynwyd gan Isabel, ein Cydlynydd Elusennau, le amlwg mewn dadl yng Nghyfarfod Llawn y Senedd ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ‘Os yw’r Gefnogaeth yn Gywir, Amdani! Mynd i’r afael â’r Bwlch Cyflogaeth Anabledd’. Trafododd tystiolaeth Isabel yr anawsterau sydd gan y rhai sy'n byw gyda symptomau cyflyrau gynaecolegol, sy'n aml yn dabŵ neu wedi'u dibrisio, wrth geisio cymorth gan eu cyflogwyr.

cyCymraeg