Hoffem eich gwahodd i ddod i un o'n sesiynau galw heibio i randdeiliaid er mwyn trafod prosiect Hybiau Iechyd Menywod yn BIPBC.
Mae prosiect hybiau iechyd menywod yn rhan o’r Mae prosiect hybiau iechyd menywod yn rhan o’r Cynllun Iechyd Menywod, y gellir ei weld yma.
Mae'r prosiect yn cynnwys sefydlu hwb 'braenaru' iechyd menywod ym mhob Bwrdd Iechyd erbyn mis Mawrth 2026.
Rhan o'r prosiect hwn yw cwmpasu data sylfaenol gwasanaethau iechyd menywod i ddeall y gwasanaethau hyn a sut y gellir eu gwella.
Mae blwyddyn gyntaf y prosiect yn cynnwys canolbwyntio ar y tri maes blaenoriaeth o ran iechyd menywod: iechyd mislif, gwasanaethau atal cenhedlu ac erthyliad, a gofal menopos.
Yn BIPBC, mae data wedi'u casglu ar y tri maes hyn, a hoffem eich gwahodd i ddod i un o'n sesiynau rhanddeiliaid er mwyn trafod y data hyn ac ymgysylltu â chi ar yr hyn y gallai'r hwb 'braenaru' yn BIPBC ei olygu i wella gwasanaethau iechyd menywod.
Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal gan Nia Boughton, yr arweinydd clinigol ar gyfer prosiect hybiau iechyd menywod yn BIPBC ac Emily Evans, rheolwr prosiect o Berfformiad a Gwelliant y GIG, sy'n gweithio gyda BIPBC ar y prosiect hwn.
Gweler isod bedair sesiwn ar wahân i randdeiliaid. Sesiynau a fydd yn cael eu hailadrodd yw'r rhain, felly mae croeso i chi ddewis un sy'n gyfleus i chi:
• 16 Gorffennaf 2-3pm
• 17 Gorffennaf 1-2pm
• 22 Gorffennaf 1-2pm
• 24 Gorffennaf 10-11am
Ymunwch drwy ddewis y ddolen berthnasol uchod. Fel arall, os hoffech i un o'r gwahoddiadau hyn gael ei anfon atoch, neu os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â: Emily.evans18@wales.nhs.uk.
Diolch!