Rydyn ni a’n cymuned wedi cael ein cynrychioli mewn nifer o erthyglau a darnau y mis yma, yn amrywio o sylw i Gynllun Iechyd Menywod a’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol, Mis Ymwybyddiaeth o Ffibroidau, Adroddiad Addysg Uwch newydd (HEPI) ar effaith gudd cylchredau mislifol ar addysg, a’r sgandal Sodiwm Falproad.
Y Cynllun Iechyd Menywod a’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol
Bu Debbie, Sylfaenydd FTWW, yn siarad â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) am gyfleoedd a risgiau’r Cynllun Iechyd Menywod a’r Strategaeth Iechyd Meddwl i fudiadau trydydd sector.
Mis Ymwybyddiaeth o Ffibroidau – Carina fu’n siarad â BBC Wales
Bu Carina, Hyrwyddwr Ffibroidau Gwirfoddol FTWW, yn siarad â BBC Radio Wales am ei phrofiadau o ffibroidau a materion yn ymwneud â gofal iechyd fel rhan o Fis Ymwybyddiaeth Ffibroidau. Gallwch wrando ar y sgwrs yma (1.42.48).
Adroddiad HEPI newydd yn datgelu effaith gudd cylchredau mislifol ar addysg myfyrwyr
Cyfrannodd FTWW tuag at adroddiad newydd gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch, a oedd yn edrych ar effeithiau cudd y mislif ar addysg myfyrwyr.
Sgandal Falproad – Dioddefwyr yng Nghymru yn haeddu cyfiawnder
Eglurodd Becci, Hyrwyddwr PMDD Gwirfoddol FTWW sut y bu’n cymryd meddyginiaeth gwrth-epilepsi ar bresgripsiwn, sodiwm falproad, yn ystod ei beichiogrwydd a sut y mae hynny wedi effeithio ar ei bywyd hi a’i mab. Mae Becci ymhlith y cleifion yng Nghymru sy’n galw am gyfiawnder i’r rhai a effeithiwyd.