Lara and Miss Helen Bayliss stand beside a menopause-themed presentation board with charts and graphs, in front of large windows showing trees outside. Lara holds FTWW flyers and both are smiling at the camera.

Lara a Miss Helen Bayliss

Rydym wedi cael mis da yn mynd i ddigwyddiadau amrywiol, gan gynnwys digwyddiad Cymuned Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Iechyd Menywod, Digwyddiad Rhanddeiliaid Iechyd Menywod Betsi Cadwaladr ar gyfer staff y bwrdd iechyd, a Gŵyl Haf WOMB yng Nghaerdydd.

Aeth Lara Morris, un o Hyrwyddwyr Mislif Gwirfoddol FTWW, i ddigwyddiad Cymuned Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yng Ngerddi Sophia ar 9 Gorffennaf, lle cafodd gyfle i rannu gwybodaeth am FTWW, a’r gefnogaeth rydym yn ei chynnig, â phobl a oedd â diddordeb mewn iechyd mislif a llesiant.
Diolch, Lara!

Hefyd ar 9 Gorffennaf, aethom i Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Iechyd Menywod, lle’r oedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar rwystrau a galluogwyr bwydo ar y fron yng Nghymru.

Ar 10 Gorffennaf, rhoddodd Isabel a Debbie gyflwyniad ar ‘Pam a Sut i Gydgynhyrchu ym maes Iechyd Menywod’ i weithwyr gofal iechyd proffesiynol o bob cwr o Ogledd Cymru, ac ymunodd Anna, Hyrwyddwr Llesiant Mislif Gwirfoddol FTWW, â hwy i rannu ei phrofiad personol. Mae hyn yn rhan o waith Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn darparu Hwb Iechyd Menywod i gleifion yn y rhanbarth ac mae’n ddisgwyliad i bob bwrdd iechyd wrth iddynt ddechrau gweithredu Cynllun Iechyd Menywod 10 mlynedd GIG Cymru.

Carina a Molly ar y stondin yng Ngŵyl Haf WOMB 

Carina a Molly ar y stondin yng Ngŵyl Haf WOMB

Yn olaf, ymunodd Gwirfoddolwyr FTWW, Donna, Harriet, Carina, Molly, a Rachel, â Dee, ein Swyddog Ymgysylltu, yng Ngŵyl Haf WOMB 2025, a gynhaliwyd yn Grangetown, yng Nghaerdydd, ar 26 Gorffennaf. Roedd yn ddigwyddiad gwych i ddathlu popeth yn ymwneud â’r mislif, geni, y menopos, a phopeth sydd yn y canol. Siaradodd Dee ar y panel ‘Cymuned yw’r Feddyginiaeth Goll: Sut mae’r trydydd sector yn llenwi’r bylchau sydd ar ôl’, ynghyd â Kyla Scott o Lighter Brighter Minds, Alamayah Willow o BAWSO, a Shannon Davies o Mothers Matter.

Diolch o galon i bawb wnaeth ein gwahodd ni i fynd i’r digwyddiadau hyn, ac i’n gwirfoddolwyr gwych am eu cefnogaeth a’u heiriolaeth barhaus. Os hoffech ein gwahodd i ddigwyddiad yn y dyfodol, mae croeso i chi gysylltu â ni.

cyCymraeg