FTWW’s Debbie and Isabel were pleased to present to the Western Bay Service Providers’ Forum, made up of local authorities in Swansea and Neath Port Talbot, to share evidence about the links between hormones, mental health, and potential risk of self-harm and substance use, so that services can be more aware and able to identify when women and people assigned female at birth (AFAB) might be more at risk, such as during adolescence, post-natal, and during peri-menopause.
Mae'n wych gweld sut mae gwasanaethau fel y rhain yn barod i herio stereoteipiau, mythau ac ystyriaethau hygyrchedd sy'n gallu ei gwneud hi'n anoddach o lawer i fenywod a phobl a ddynodwyd yn fenywod ar eu genedigaeth ymrwymo i wasanaethau ar gyfer defnyddio sylweddau. Edrychwn ymlaen at weld beth a wnânt nesaf i ehangu eu harlwy.
Meddai Jamie Harris, Cadeirydd y Fforwm Darparwyr:
“Roedd y cyflwyniad gan FTWW yn ddiddorol, yn bwerus ac yn berthnasol iawn. Bu’n tynnu sylw at y profiadau go iawn y tu ôl i'r wybodaeth [ac] yn atgyfnerthu pa mor hanfodol yw hi bod lleisiau menywod yn siapio gwasanaethau defnyddio sylweddau ac, yn bwysicach, bolisïau. Roedd yn gyfraniad hynod werthfawr i'r Fforwm Darparwyr ac i'n gwaith i’r dyfodol”.
Diolch o galon i'r Fforwm Darparwyr am y gwahoddiad!