Mae'r Gydweithfa Iechyd yn fenter sydd dan arweiniad Wellbeing of Women, made up of healthcare professionals and grassroots organisations working in the women’s health space, with the aim to improve healthcare for marginalised women and people assigned female at birth. FTWW’s Dee was delighted to attend this year’s annual meeting in London on 12th November.
Cyflwynwyd y sesiwn groeso gan y Cyd-gadeirydd, Dr Nighat Arif, cyn i'r rhai a oedd yn bresennol gynnal sesiwn i adolygu’r brand a rhoi adborth. Ar ôl cinio a chyfle i rwydweithio, ymunodd Kendall Jamieson Gilmore o Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU â'r Gydweithfa; mae'r adran hon yn rhan o'r tîm sy'n gweithio ar Strategaeth Iechyd Menywod Llywodraeth y DU.
Roedd Dee yn awyddus i wybod a yw timau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio ar eu priod gynlluniau, yn enwedig mewn ffyrdd a fydd yn lleihau'r rhwystrau lu sy'n bodoli i gleifion yng Nghymru a allai fod angen cael gafael ar ofal o'r tu allan i'w bwrdd iechyd ac yn Lloegr. Byddwn yn parhau i godi'r mater hwn fel un o’r prif ffactorau sy’n achosi’r anghydraddoldeb iechyd y mae cynifer o'r rhai rydym yn eu cefnogi yn ei wynebu, gan gynnwys fel rhan o'r gwaith a wnawn i weithredu Cynllun 10 mlynedd Iechyd Menywod GIG Cymru.
Yna trafodwyd yr hyn sydd ei angen gan gam nesaf Strategaeth Iechyd Menywod Llywodraeth y DU, cyn cael sesiwn ar ddod o hyd i atebion i broblemau cyffredin.
FTWW oedd yr unig sefydliad o Gymru yn yr ystafell, felly byddwn yn cydweithio â'r Gydweithfa Iechyd i sicrhau bod mwy o sefydliadau llawr gwlad yng Nghymru yn cael gwahoddiad i ymuno. Yn y cyfamser, gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Grŵp a sut i gymryd rhan.
O’r adborth gan aelodau eraill y Gydweithfa Iechyd gwelwyd bod llawer yn ddiolchgar am ein mewnbwn a’u bod wedi dysgu cymaint oddi wrtho; nid oedd llawer wedi sylweddoli bod cymaint o wahaniaethau i’w cael rhwng systemau'r GIG mewn gwledydd datganoledig, a dywedodd Dr Nighat fod y sgyrsiau'n llawer cyfoethocach oherwydd ein presenoldeb a'n cyfraniadau ni.
Diolch o galon i dîm y Gydweithfa am wneud ein cyfraniad yn bosibl ac yn rhwydd.