Y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) yw corff rheoleiddio annibynnol meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia yn y DU. Mae'n gweithio gyda nhw a rhanddeiliaid eraill i bennu'r safonau gofal cleifion a'r safonau ymddygiad proffesiynol y disgwylir i feddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia eu bodloni.

Mae'r GMC yn gwahodd cleifion a'r cyhoedd i rannu eu barn ar ddau ganllaw pwysig ar gyfer meddygon, cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia, canllawiau sy'n eu helpu i fynegi pryderon am ddiogelwch cleifion ac yn helpu arweinwyr a rheolwyr i wella'r gwasanaeth a ddarperir i gleifion.

Bydd eich barn yn helpu i siapio canllawiau cliriach a mwy perthnasol sy'n rhoi lle canolog i ddiogelwch cleifion, didwylledd a thosturi. Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 22 Ionawr 2026 a gallwch gymryd rhan ar-lein. Atebwch gynifer o gwestiynau ag y dymunwch - does dim angen i chi ymateb i bob adran, dim ond y rheini y teimlwch eu bod fwyaf perthnasol i chi.

Mae pob cyfraniad yn helpu i gryfhau llais y claf a sicrhau gofal mwy diogel i bawb.

Cwblhewch yr arolwg hwn yma..

cyCymraeg