Llun o Louise, menyw wen â gwallt  tywyll sy’n gwisgo minlliw orengoch. Y testun o’i hamgylch ar gefndir gwyrdd yn darllen ‘Croeso i'n tîm. Mae testun ar gefndir gwyn golau o dan y llun yn darllen ‘Louise Kalicinski Cydlynydd Gwirfoddoli a Chymunedol’, gyda logo FTWW oddi tano. Rydyn ni’n falch iawn o groesawu ein Cydlynydd Gwirfoddoli a Chymunedol newydd, Louise Kalicinski, i’n tîm!

Mae Louise wedi'i lleoli yn Ne Cymru ac yn ymuno â FTWW ar ôl gweithio gyda phlant a theuluoedd o gymunedau amrywiol. Mae ganddi dros 16 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector elusennol, a chyn hynny, gweithiodd fel Cydlynydd Prosiectau Plant i elusen ffoaduriaid yng Nghaerdydd am flynyddoedd. Mae Louise wedi arwain a chyd-gynhyrchu prosiectau cynhwysol sydd wedi cefnogi plant a theuluoedd i addasu i fywyd yng Nghymru, gyda phwyslais ar gymorth llesiant emosiynol, gwella cyfleoedd addysgol, ehangu cysylltiadau cymdeithasol, allgymorth ac ymgysylltu â’r gymuned. Mae Louise yn angerddol dros hyrwyddo hawliau'r rhai sy'n wynebu rhwystrau i wasanaethau teg. Fel Cydlynydd Gwirfoddoli a Chymunedol, mae hi wedi ymrwymo i gyfrannu at waith FTWW; gan sicrhau bod hawl pawb i iechyd a llesiant da yn cael ei pharchu a'i gwireddu.

Mae’n siŵr y byddwch chi i gyd yn ymuno â ni i groesawu Louise, ac yn anfon ein dymuniadau gorau iddi yn ei rôl newydd!

cyCymraeg