
Bydd dilynwyr hirdymor FTWW yn ymwybodol bod iechyd meddwl amenedigol yn un o'n meysydd ymgyrchu sydd dan arweiniad ein Hyrwyddwr, Nia. Mi wnaeth ei phrofiadau hi o seicosis ôl-enedigol arwain at iddi ymgyrchu dros uned sy'n agos at adref gyda darpariaeth Gymraeg.
Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi ymuno â Nia yn lansiad swyddogol Seren Lodge, lle cafodd wahoddiad i dorri’r rhuban (uchod). Mae'r ysbyty yn adeilad un llawr, wyth gwely, gwerth £7.5m, a hwn yw'r cyntaf o'i fath ar draws Swydd Gaer, Glannau Mersi a Gogledd Cymru. Bydd yn darparu gofal tosturiol i fenywod beichiog ac ôl-enedigol, sy'n dioddef o salwch meddwl difrifol. Yn bwysig i gleifion yng Ngogledd Cymru, mae darpariaeth Gymraeg yn ganolog iddo.
Dweddod Nia:
“O fy mhrofiad [i], rydw i wedi ymgyrchu dros ysbyty arbenigol ar gyfer ardal Gogledd Cymru er 2021. Rwyf wedi bod yn ffodus i gael bod yn rhan o'r gwaith ers dechrau Seren Lodge, o gynllunio’r adeilad hyd at heddiw. Mae hyn yn golygu y bydd mamau a’u teuluoedd yn gallu defnyddio’r gwasanaeth hwn o Ogledd Cymru, Swydd Gaer a Glannau Mersi.”
Da iawn Nia a phawb a fu'n gweithio i wneud i hyn ddigwydd - rydyn ni'n hynod falch ohonoch chi.