Llun o fraich claf sy’n cael triniaeth drwy linell IV mewn lleoliad clinigol. Fel un o’r sefydliadau a roddodd dystiolaeth i ymchwiliad y Senedd — ac fel y sefydliad sy’n cadeirio Cynghrair Iechyd Menywod Cymru — mae FTWW yn dal yn bryderus iawn bod menywod a phobl a bennwyd yn fenywod adeg eu geni yng Nghymru yn dal i gael eu siomi gan ddiffyg gweithredu Llywodraeth Cymru ar ganser gynaecolegol. Ddwy flynedd ers argymhellion gwreiddiol y Pwyllgor, mae gormod o lawer ohonynt yn dal i fod heb eu cyflawni, gan adael bylchau annerbyniol mewn gofal, cymorth, a diagnosis prydlon.

Pan gyhoeddodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ei adroddiad nodedig, Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol, ym mis Rhagfyr 2023, datgelodd fethiannau systemig ar hyd yr holl lwybr i gleifion. Dywedodd menywod eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu diystyru a’u hanwybyddu gan yr union system sydd i fod i ofalu amdanynt, ac nad oedd ganddynt lais yn y system. Er gwaethaf eglurder y canfyddiadau hyn — a’r profiadau bywyd oedd yn sail iddynt — a’r angen brys amdanynt, araf fu’r cynnydd. O ganlyniad, mae menywod ledled Cymru yn dal i wynebu oedi, rhwystrau, a niwed y gellir ei osgoi.

Ar Ddiwrnod Canser y Byd, fe wnaethom rannu’r adroddiad ar draws ein proffiliau ar y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn anrhydeddu pawb y mae’r clefyd yn effeithio arnynt a dangos ein bod yn meddwl amdanynt. Rydyn ni hefyd yn talu teyrnged i ddwy fenyw ryfeddol, sef Claire O’Shea, arweinydd Claire's Campaign, a Judith Rowlands. Yn anffodus, mae’r ddwy ohonynt wedi marw ers rhoi eu tystiolaeth bwerus a dewr i’r ymchwiliad cychwynnol. Roedd eu tystiolaeth yn allweddol wrth lunio argymhellion y Pwyllgor, a rhaid peidio anghofio eu gwaddol.

Er anrhydedd iddynt, gofynnwn i chi ddarllen a rhannu adroddiad dilynol y Pwyllgor — ac ymuno â ni i alw am y camau brys y mae menywod yng Nghymru yn eu haeddu.

Mae’r adroddiad ar gael yma.

cyCymraeg