
Er cof am eu cydweithiwr a’u ffrind, Sarah Seddon, a fu farw’n annisgwyl ym mis Rhagfyr, bydd Ffion, Jordan, Suri, Charity ac Ama yn cymryd rhan yn uwchfarathon SheUltra i fenywod yn unig ar 11 Ebrill 2026, a hynny er mwyn codi arian i FTWW yn enw Sarah.
Gyda chaniatâd teulu Sarah, bydd Ffion, Jordan, Suri, Charity ac Ama yn cymryd rhan yn uwchfarathon SheUltra i fenywod yn unig ar 11 Ebrill 2026 er mwyn codi arian i FTWW.
Mae’r SheUltra 50km yn uwchfarathon sydd wedi’i gynllunio ar gyfer menywod ac mae’n codi arian ac ymwybyddiaeth o ganserau menywod. Mae’n cael ei gynnal ar hyd llwybr 50km ger Arfordir Penrhyn Llŷn - gyda thirwedd amrywiol, bryniau, a thywod dan draed ar y diwedd!
“Mae FTWW yn elusen bwysig i ni ac i deulu Sarah,” meddai Jordan, “oherwydd nawr yn fwy nag erioed mae menywod yn haeddu’r hawl i ofal iechyd digonol - i gael eu cymryd o ddifrif gan Feddygon a chael mynediad at y driniaeth sydd ei hangen arnynt. Ddylai menywod ddim gorfod dioddef yn dawel. Bydd yr her yma’n anodd, ond rydyn ni'n benderfynol o'i chyflawni - gyda Sarah yn ein calonnau!"
Hoffem ddiolch o galon i Ffion, Jordan, Suri, Charity, ac Ama am eu hymdrechion codi arian, ac estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu Sarah ac i bawb oedd yn ei hadnabod a'i charu.
Gallwch noddi’r tîm yma. Cofiwch rannu’r ddolen â’ch rhwydweithiau hefyd!