
Ar ôl pum mlynedd anhygoel o weithio gyda FTWW, yn anffodus, rydym yn ffarwelio â’n Cydlynydd Ymgysylltu, Dee.
Ar ôl pum mlynedd, mae bob amser yn drist ffarwelio â chydweithiwr. Ond mae Dee yn llawer mwy na hynny: mae hi’n ffrind, yn wirfoddolwr, yn eiriolwr, ac yn Hyrwyddwr ME. Felly mae’n arbennig o ingol wrth iddi symud ymlaen i fentrau newydd cyffrous, yn enwedig ei gyrfa ysgrifennu, nad yw wedi gallu canolbwyntio digon arni ers llawer rhy hir!
Bydd y rhai hynny ohonoch sy’n darllen ein cylchlythyr ni bob mis yn gyfarwydd â sgiliau creadigol Dee, rhywbeth y byddwn yn ei golli’n fawr!Ond, dydyn ni ddim yn ffarwelio am byth, gan y bydd Dee yn parhau i wirfoddoli gyda FTWW fel rhywun sydd â chyfoeth o brofiad bywyd, gan hyrwyddo popeth sy’n ymwneud â thegwch iechyd. Diolch, Dee - rydym yn edrych ymlaen at rannu'r daith â thi.